Beth yw profiad gwaith?
Mae profiad gwaith yn rhoi profiad o sut beth yw byd gwaith. Gwaith di-dâl ac am dymor byr yw profiad gwaith fel arfer.
Gallai hyn gynnwys cael profiad o:
- Yr amgylchedd gwaith – bod yn y gweithle a gweld beth sy’n digwydd yn y gwaith
- Weithgareddau a thasgau’n gysylltiedig â gwaith – rhoi cynnig ar y swydd, cael tasgau a gweithgareddau i’w gwneud sy’n gysylltiedig â swydd, a dysgu sgiliau newydd
- Sgiliau gwaith – defnyddio’r sgiliau sydd gennych eisoes mewn gweithle neu leoliad go iawn
Pam mae profiad gwaith yn bwysig?
Wyddech chi? Dywedodd 63% o gyflogwyr fod profiad yn ffactor hollbwysig neu'n arwyddocaol yn eu penderfyniadau recriwtio."(Adran Addysg, 2019)
Mae profiad gwaith yn bwysig gan fod:
- Cyflogwyr yn aml yn gofyn am brofiad perthnasol. Weithiau, gall hyn olygu cyflogaeth, ond weithiau gall meddu ar brofiad perthnasol mewn ffyrdd eraill fod yr un mor werthfawr
- Yn gyfle i chi ddarganfod sut beth yw gweithio a deall y sgiliau sydd eu hangen yn y gweithle
- Yn eich galluogi i ddod i wybod mwy am y math o waith y mae gennych ddiddordeb ynddo, a gweld a yw’n addas ar eich cyfer
- Rhai cyrsiau yn gofyn i chi ddangos eich bod wedi gwneud rhywfaint o brofiad gwaith perthnasol
Sut mae cael profiad gwaith?
Edrychwch ar ein awgrymiadau i gael hyd i brofiad gwaith:
Penderfynwch ar y math o waith sydd o ddiddordeb i chi
Os oes diddordeb ganddoch chi mewn swydd neu faes arbennig yna mae cael profiad gwaith yn y sector yna yn mynd i roi blas i chi o'r math o waith. Mae hefyd yn ffordd dda o wneud cysylltiadau a gall arwain at swydd llawn amser yn y dyfodol.
Os nad ydych chi'n siŵr pa yrfa sy'n apelio i chi, rhowch gynnig ar ein Cwis Paru Gyrfa i’ch helpu i gael syniadau am swyddi sy’n addas i’ch diddordebau a’ch sgiliau.
Gofynnwch i'ch cysylltiadau
Gofynnwch i’ch teulu a’ch ffrindiau a ydynt yn gwybod am unrhyw un a fyddai’n barod i roi profiad gwaith i chi yn eu cwmni. Gofynnwch i’ch teulu a’ch ffrindiau ofyn i bobl maen nhw’n eu hadnabod. Byddwch yn ymestyn eich chwiliad drwy wneud hyn.
Edrychwch ar ein cyngor ar ofyn i'ch cysylltiadau.
Paratowch CV a llythyr eglurhaol
Er nad yw’n gais am swydd, mae’n debygol y bydd cyflogwyr am gael gwybodaeth amdanoch chi. Drwy baratoi CV ymlaen llaw, ni fydd yn rhywbeth annisgwyl os cewch gais am un. Bydd angen i chi baratoi e-bost/llythyr eglurhaol os byddwch yn cysylltu â chyflogwyr i ofyn am brofiad gwaith.
Gwybod mwy am greu CV.
Gwybod mwy am ysgrifennu llythyr cais.
Cysylltu â chyflogwyr
Chwiliwch am gyflogwyr sy’n cynnig y math o brofiad gwaith sydd o ddiddordeb i chi.
- Defnyddiwch wefannau swyddi ar-lein mewn ffordd ychydig yn wahanol. Rhowch y geiriau allweddol a lleoliad y swyddi sydd o ddiddordeb i chi. Nodwch enw’r cwmni ar ôl cael y canlyniadau. Defnyddiwch y rhyngrwyd i gael gwybod mwy am y cwmni gan gynnwys ei fanylion cyswllt. Ysgrifennwch lythyr/e-bost eglurhaol sy’n esbonio eich bod yn chwilio am brofiad gwaith ac anfonwch eich CV atynt hefyd
- Mae gan rai gyrfaoedd a swyddi gymdeithasau neu sefydliadau sydd â chyfeiriadur o gyflogwyr, sy’n ffynhonnell wybodaeth werthfawr er mwyn dod o hyd i gyflogwyr mewn sectorau penodol. (Noder: ni ellir gweld pob cyfeiriadur os nad ydych yn aelod, ond mae llawer ohonynt yn gyfeiriaduron sydd ar gael i bawb). Edrychwch ar ein tudalen 10 ffordd wych i ddod o hyd i gwmni i weithio iddo.
- Defnyddiwch gyfeiriaduron lleol fel yell.com i ddod o hyd i gwmnïau y gallwch gysylltu â nhw yn eich ardal chi
- Mae gan rai cwmnïau mwy megis y BBC a BT raglenni profiad gwaith (dolenni Saesneg yn unig). Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydliad mawr ewch i’w wefan i weld a ydynt yn cynnig profiad gwaith, neu cysylltwch â’r Adran Adnoddau Dynol
Nid yw’n hawdd cysylltu’n uniongyrchol â chwmnïau, ac ni fydd pob un yn eich ateb. Efallai y bydd angen i chi gysylltu â nifer o gwmnïau cyn i chi gael ateb cadarnhaol.
Cofiwch eich bod, drwy gysylltu â chyflogwr, yn dangos bod gennych hunangymhelliant. Rydych hefyd yn defnyddio eich cymhelliant ac mae’r rhain yn rhinweddau gwych.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill.

Math o brofiad gwaith yw interniaethau i fyfyrwyr yn y brifysgol neu raddedigion. Maen nhw'n ffordd wych o gael profiad sy'n berthnasol i'ch gradd.