Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Gwirfoddoli

Mae llawer o bobl am wneud lles yn eu cymunedau. Dysgwch sut y gall gwirfoddoli eich helpu i ennill profiad a sut i ddod yn wirfoddolwr.

Beth yw Gwirfoddoli ?

Mae gwirfoddoli yn golygu helpu'r gymuned neu sefydliad yn eich amser eich hun a hynny am ddim.

Pu’n a ydych yn gallu rhoi llawer o amser neu dim ond ychydig oriau y mis, mae cyfle ar gael a allai fod yn addas i chi.

Mae elusennau, sefydliadau'r trydydd sector a grwpiau cymunedol angen gwirfoddolwyr yn rheolaidd i'w helpu i wella bywydau pobl eraill.

Gall gwirfoddoli hefyd fod yn ffordd dda o lenwi rhan o'ch blwyddyn i ffwrdd.

Pam gwirfoddoli?

Fel ceisiwr swydd, gall gwirfoddoli eich helpu i:

  • Ddatblygu sgiliau a chadw'n actif - gall gwirfoddoli am hyd yn oed ychydig oriau'r wythnos gynyddu eich cyfle o gael swydd a datblygu sgiliau
  • Rhowch hwb i'ch CV neu’ch datganiad personol - gall gwaith gwirfoddol edrych yn dda ar eich CV. Byddwch yn creu argraff ar nifer o bobl os ydych wedi gwneud rhywbeth buddiol yn eich amser hamdden
  • Adeiladu eich sgiliau - os na allwch chi ddod o hyd i waith neu hyfforddiant arall ar unwaith gallai gwirfoddoli eich helpu i ennill sgiliau a phrofiad
  • gwneud cysylltiadau newydd – Gall gwirfoddoli eich helpu i adeiladu rhwydwaith a rhoi mwy o gyfleoedd i chi ddod o hyd i waith. Gofynnwch i'ch cysylltiadau am wybodaeth am sut i ddod o hyd i swyddi nad ydynt yn cael eu hysbysebu.

Fel unigolyn gall gwirfoddoli eich helpu i:

  • Gwella hyder - gall gwirfoddoli eich helpu i ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a datblygu diddordebau newydd
  • Cwrdd â phobl newydd - Byddwch yn gwneud ffrindiau newydd, yn profi heriau newydd ac yn gwella eich hunanhyder
  • Helpu eraill - Mae gwirfoddoli yn rhoi boddhad. Mae gwirfoddolwyr yn aml yn teimlo’n dda am ‘roi rhywbeth yn ôl i gymdeithas’ drwy helpu eraill
  • Dechrau o’r newydd - Mae’n bosibl eich bod wedi cyrraedd pwynt yn eich bywyd lle rydych eisiau ‘rhoi rhywbeth yn ôl’ i’ch cymuned – neu rannu eich sgiliau. Mae rhai pobl hyd yn oed yn dechrau gyrfa newydd sbon

Sut i ddod yn wirfoddolwr?

  • Cyfrifwch faint o amser y gallwch ei gynnig y tu hwnt i’ch ymrwymiadau eraill, fel ysgol, gwaith neu’r coleg
  • Meddyliwch am y math o waith sy’n eich diddori, efallai gweithio gyda phobl, adeiladau, periannau, anifeiliaid, planhigion neu natur. Beth bynnag fo’ch diddordebau a’ch sgiliau, fel helpu person hŷn neu anabl, adnewyddu trenau stêm neu ofalu am anifeiliaid neu’r amgylchedd, mae’n debygol y byddwch yn canfod digon i’ch diddori
  • Gellir cyflawni rhai cyfleoedd o gartref drwy wirfoddoli ar-lein. Gall y cyfleoedd hyn fod yn addysgu pobl sut i ddefnyddio technoleg fel anfon negeseuon e-bost neu helpu elusen i wella eu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Weithiau mae sianeli cyfryngau cymdeithasol fel Facebook neu LinkedIn yn hysbysebu cyfleoedd
  • Mae nifer o sefydliadau ac elusennau i’w hystyried. Edrychwch ar rai o’r dolenni ar y dudalen i’ch helpu i ganfod cyfleoedd gwirfoddoli addas yn y DU a thramor
  • Gwnewch eich ymchwil os ydych chi'n bwriadu teithio a gwirfoddoli dramor. Darllenwch am y wlad a'u gofynion teithio cyn i chi gynllunio i deithio. Dysgwch fwy gan Foreign travel advice - GOV.UK.

Dyma rai sefydliadau sy'n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli (Mae rhai o'r dolenni isod yn Saesneg yn unig):



Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Profiad gwaith

Profiad gwaith yw ennill profiad o fywyd gwaith. Cewch wybod sut mae cael y profiad gwaith sydd ei angen arnoch i gael y swydd rydych am ei chael.

Interniaethau

Math o brofiad gwaith yw interniaethau i fyfyrwyr yn y brifysgol neu raddedigion. Maen nhw'n ffordd wych o gael profiad sy'n berthnasol i'ch gradd.

Blwyddyn i ffwrdd

Cewch wybod a ydy blwyddyn i ffwrdd yn addas i chi, a gweld ein rhestr o bethau i'w hystyried. Darllenwch enghreifftiau o sut mae treulio blwyddyn i ffwrdd.