Fel arfer, myfyrwyr sydd wedi gorffen addysg mewn coleg neu chweched dosbarth sy’n cymryd blwyddyn i ffwrdd. Ond gall unrhyw un ar unrhyw gyfnod o'u bywydau gymryd blwyddyn i ffwrdd.
Efallai mai BLWYDDYN i ffwrdd yw’r term, ond mewn gwirionedd mae'r cyfnod i ffwrdd o addysg yn gallu para am faint bynnag sy'n eich siwtio chi.
Dyma rai enghreifftiau o sut i dreulio blwyddyn i ffwrdd
- Profiad gwaith – bydd ennill profiad perthnasol yn eich helpu i benderfynu ar lwybr gyrfa neu i gael gwell dealltwriaeth o'r math o yrfa y mae gennych ddiddordeb ynddi. Mae'n ffordd dda o wneud cysylltiadau newydd, datblygu sgiliau a chwrdd â phobl newydd. Gwybod mwy ar sut i gael profiad
- Teithio – teithio'r byd, cwrdd â phobl newydd a chael profiadau newydd. Mae teithio ar eich pen eich hun yn gwella eich hyder a'ch synnwyr o annibyniaeth
- Gweithio – ennill arian. Gall hyn fod yn y DU neu dramor. Mae'n ffordd wych o gael profiad o'r byd gwaith a datblygu sgiliau. Gall ennill cyflog fod yn gyfle i arbed arian cyn i chi ddychwelyd i addysg
- Gwirfoddoli – gallwch wirfoddoli yn y DU neu dramor. Mae'n ffordd wych o fagu profiad wrth helpu eraill. Gwybod mwy am fanteision gwirfoddoli
Ai blwyddyn i ffwrdd yw’r dewis iawn i mi
Meddyliwch pam yr ydych yn ystyried blwyddyn i ffwrdd a beth yr hoffech ei gael yn sgil y profiad. Beth bynnag yw eich rheswm, mae'n bwysig cynllunio eich blwyddyn i ffwrdd er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud y mwyaf ohoni.
Mae manteision ac anfanteision cymryd blwyddyn i ffwrdd yn cynnwys:
Manteision
- Cyfle i ymlacio ac anghofio am bwysau astudio
- Cyfle i weithio ac ennill arian i fynd tuag at gostau addysg uwch yn y dyfodol
- Caniatáu i chi ennill profiad gwaith gwerthfawr i'ch cynorthwyo i benderfynu ar lwybr gyrfa neu ddatblygu mwy o sgiliau i'w hychwanegu at eich CV
- Bydd teithio'n ehangu eich gorwelion, yn rhoi cyfle i chi gwrdd â phobl newydd a chael profiadau newydd a dysgu pethau newydd
- Bydd gwneud pethau megis cwrdd â phobl newydd, cael profiad o weithle, neu gynllunio trefniadau teithio yn gwella eich hyder
- Gall eich ffrindiau a chysylltiadau newydd fod o fantais i chi wrth chwilio am waith yn y dyfodol
Anfanteision
- Gall blwyddyn i ffwrdd fod yn rhy hir i rai a gall dynnu eich sylw oddi ar eich cynlluniau hirdymor
- Gall ennill cyflog ei gwneud hi'n anodd dychwelyd i addysg gan eich bod wedi arfer ag un math o drefn a chael arian
- Oni bai eich bod yn cynllunio'n ofalus, mae'n hawdd gwastraffu blwyddyn i ffwrdd
- Gall newidiadau i gyllid myfyrwyr ddigwydd, felly mae'n werth edrych i mewn i hyn cyn penderfynu cymryd blwyddyn i ffwrdd
Y pethau i'w hystyried cyn cymryd blwyddyn i ffwrdd
Cynllunio - Mae'n hanfodol cynllunio i wneud y gorau o'ch blwyddyn i ffwrdd. Mae'n rhaid ystyried pethau fel costau, pa brofiadau yr hoffech eu cael yn eich blwyddyn i ffwrdd, pryd i wneud cais am brofiad gwaith ac am ba mor hir yr ydych eisiau bod allan o addysg. Rhowch ddigon o amser i chi eich hun i gynllunio.
- Ceisiwch siarad â rhywun sydd wedi cael blwyddyn i ffwrdd, edrychwch am ysbrydoliaeth ar y cyfryngau a fforymau cymdeithasol ac ymchwiliwch i’ch opsiynau drwy daro golwg ar y gwefannau isod
- Mae'n werth cofio y bydd rhai cwmnïau’n trefnu Blwyddyn i Ffwrdd ar eich cyfer ond bydd costau ychwanegol i'w talu
Gohirio Mynd i’r Brifysgol - os ydych yn siŵr eich bod am fynd i'r Brifysgol ar ôl eich blwyddyn i ffwrdd, mae'n bwysig cysylltu â’r brifysgol o’ch dewis i esbonio'r gohiriad. Mae gan bob prifysgol ddulliau gwahanol o asesu. Edrychwch ar mynd i brifysgol.
Cyllid Myfyrwyr - gall cyllid myfyriwr newid felly mae’n werth cadw llygaid ar y sefyllfa bresennol cyn cynllunio blwyddyn i ffwrdd cyn brifysgol. Edrychwch ar Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill.

Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi profiad. Cewch wybod sut mae ei gael, gan gynnwys drwy brofiad gwaith, gwirfoddoli ac interniaeth.