Gallwn eich cynorthwyo i ddechrau dewis y cwrs cywir a’r brifysgol gywir ac i wneud cais.
Mae'n bwysig iawn ymchwilio i'ch holl opsiynau a rhoi digon o amser i benerfynu. Peidiwch â gadael pethau tan y funud olaf! Dechreuwch ymchwilio a chynllunio a pharatowch ar gyfer llenwi ffurflen UCAS.
Ydych chi'n barod am brifysgol?
Barod ar gyfer Prifysgol yw casgliad o adnoddau gan holl brifysgolion Cymru i'ch helpu i ddechrau addysg uwch.
Gallwn eich helpu gyda

Beth sydd angen ichi ei wybod am wneud cais i brifysgol, dyddiadau cau, y cais, profion derbyn a rhagor.

Dysgwch am bwysigrwydd diwrnodau agored i ddewis prifysgol. Cewch yr awgrymiadau gorau am baratoi at ddiwrnodau agored a beth i'w wneud ar y dydd.

Manteision ac anfanteision astudio addysg uwch dramor. Dewch i wybod a fyddai astudio dramor yn addas i chi.

Beth sydd angen ichi ei wybod am system glirio'r brifysgol a sut mae ymgeisio drwy system glirio.

Archwilio opsiynau ariannu ar gyfer cyrsiau yng Nghymru.

Cewch gymorth yn dewis pynciau a chyrsiau. Cewch wybod am y gofynion mynediad, swyddi'r dyfodol, syniadau gyrfa, a'ch dull dysgu.
Mwy o wybodaeth am fynd i'r brifysgol
(Mae rhai o'r dolenni isod yn Saesneg yn unig)
Ddim yn siŵr am brifysgol?
Mae mynd i’r brifysgol yn benderfyniad mawr a bydd angen ei ariannu, felly mae’n werth ystyried yr holl opsiynau eraill os na fyddwch yn siŵr neu os nad yw’r amser yn iawn:

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra byddwch chi’n gweithio ac yn ennill cyflog. Chwiliwch am brentisiaethau yn eich ardal chi, dysgwch am brentisiaethau a lefelau prentisiaeth, a mynnwch gyngor ar sut i wneud cais.

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr a mwy.

Cewch wybod a ydy blwyddyn i ffwrdd yn addas i chi, a gweld ein rhestr o bethau i'w hystyried. Darllenwch enghreifftiau o sut mae treulio blwyddyn i ffwrdd.

Dewch i weld a yw hunangyflogaeth yn addas i chi a lle i gael rhagor o gefnogaeth.

Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill.

Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.

Cyfle gwarantedig i bawb dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, i ddod o hyd i swydd neu i ddod yn hunangyflogedig. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn siŵr o feithrin agwedd bositif ynoch.