Mae prifysgolion a cholegau yn defnyddio'r Broses Glirio er mwyn llenwi unrhyw lefydd gwag sydd ar gael ar eu cyrsiau. Proses a gynhelir gan UCAS yw'r broses glirio.
Gallai'r broses glirio fod yn addas i chi os:
- Nad oedd eich canlyniadau yr hyn yr oeddech chi’n eu disgwyl
- Nad oes gennych unrhyw gynigion gan brifysgolion neu golegau
Cafodd bron i 60,000 o fyfyrwyr eu derbyn drwy’r system Glirio y llynedd."
UCAS, 2022
Galla i wneud cais a phryd?
Mae'r broses glirio ar agor rhwng 5 Gorffennaf a 17 Hydref.
Gallwch wneud cais drwy ddefnyddio’r broses glirio os nad oes gennych gynnig eisoes gan brifysgol neu goleg, a bod lleoedd ar y cwrs o hyd.
Gallwch ddefnyddio’r Broses Glirio os:
- Ydych chi’n gwneud cais ar ôl 30 Mehefin
- Na chawsoch unrhyw gynigion (neu ddim yr oeddech am ei dderbyn)
- Na wnaethoch fodloni amodau eich cynigion
- Ydych chi wedi talu’r ffi ymgeisio amlddewis o £27.00
- Os ydych wedi gwrthod lle a gadarnhawyd (dolen Saesneg i UCAS). Darllenwch fwy ar wefan UCAS gan fod angen i chi fod yn glir ynghylch sut mae hyn yn effeithio ar eich cynigion a'ch opsiynau eraill
Sut mae defnyddio’r Broses Glirio?
Dylech chi:
- Wneud cais i UCAS. Os nad ydych eisoes wedi gwneud cais, mae angen i chi gofrestru gydag UCAS a gwneud cais
- Edrych ar eich statws UCAS TRACK. Bydd statws eich cais yn dangos os ydych yn y Broses Glirio ac yn nodi eich rhif Clirio
- Ddarllen UCAS What is Clearing? (dolen Saesneg) i gael yr holl fanylion a sut i wneud cais
- Edrych ar Clearing Plus ar safle UCAS. Mae'r offeryn hwn yn awgrymu cyrsiau a allai fod o ddiddordeb i chi What is Clearing Plus? (dolen Saesneg)
Sut allwn ni eich helpu
Gall ddysgu nad ydych wedi cael lle yn eich dewis prifysgol cadarn achosi straen mawr. Mae'n bwysig peidio â chynhyrfu a rhuthro i wneud penderfyniad. Ond, bydd angen i chi benderfynu beth i'w wneud nesaf er mwyn sicrhau nad ydych chi’n colli allan ar gyfleoedd.
Mae pawb yn wahanol. Gall ein cynghorwyr arbenigol, diduedd, eich helpu i ystyried eich opsiynau. Byddan nhw'n edrych ar eich sefyllfa ac yn rhoi cymorth personol i chi.
Efallai eich bod yn ystyried:
- Newid cwrs
- Dewis prifysgol wahanol
- Cymryd blwyddyn i ffwrdd
- Opsiynau eraill
Gallant ddarparu gwybodaeth am y farchnad lafur. Gall hyn fod o fudd i archwilio'r opsiynau cyflogaeth y gallai cwrs eu cynnig yn y dyfodol.
Byddant yn darparu cyngor a chanllawiau yn rhad ac am ddim i'ch helpu i wneud penderfyniad sy'n addas i chi.
Cysylltwch â ni am gymorth.
Mae'r broses glirio yn golygu mwy na chael lle ar gwrs ar bob cyfrif. Mae'n parhau i fod yn fater o ddewis ynghylch ble byddwch chi'n treulio blynyddoedd nesaf eich bywyd.
Dyma gyngor i baratoi ar gyfer Clirio:
Cofiwch fod prifysgolion a cholegau eisiau myfyrwyr. Bydd timau derbyn yn hapus i helpu.
Cael help a gwybodaeth
Dylech chi:
- Siarad ag un o'n cynghorwyr, eich athrawon, tiwtoriaid neu bennaeth y chweched dosbarth. Gallant eich helpu i ystyried a chynllunio eich camau nesaf. Mae ganddyn nhw brofiad o'r broses Clirio
- Ddefnyddio gwefan UCAS i fanteisio ar y broses glirio (dolen Saesneg)
- Chwilio a gweld lleoedd gwag drwy’r broses glirio ar safle UCAS.(dolen Saesneg). Mae nifer o brifysgolion yn dechrau hysbysebu eu lleoedd gwag o fis Gorffennaf ymlaen.
Byddwch yn barod i wneud galwadau Clirio
Gallwch baratoi i wneud galwadau Clirio drwy sicrhau fod y canlynol gyda chi:
- Eich ID UCAS neu eich Rhif Clirio
- Eich canlyniadau. Cyfrifwch eich UCAS Tariff points (dolen Saesneg)
- Copi o'ch datganiad personol er mwyn cyfeirio ato
- Rhifau’r Llinellau Cymorth Clirio ar gyfer y prifysgolion sydd o ddiddordeb i chi
- Cwestiynau yr ydych am eu gofyn i brifysgolion am y cyrsiau a’r lleoedd gwag sydd ar gael
Bydd y canlynol o gymorth hefyd:
- Dewch o hyd i le tawel i wneud y galwadau
- Gwnewch yn siŵr bod eich ffôn wedi'i wefru a bod gennych dderbyniad da. Mae'n syniad da i gadw'ch gwefrydd gyda chi
- Bydd angen beiro a llyfr nodiadau wrth law
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cael yr help i benderfynu pa gwrs sy'n iawn i chi. Ystyriwch y manteision a'r anfanteision, y cyllid, gofynion mynediad a mwy.

Cewch gymorth yn dewis pynciau a chyrsiau. Cewch wybod am y gofynion mynediad, swyddi'r dyfodol, syniadau gyrfa, a'ch dull dysgu.

Beth sydd angen ichi ei wybod am wneud cais i brifysgol, dyddiadau cau, y cais, profion derbyn a rhagor.

Cewch wybod a ydy blwyddyn i ffwrdd yn addas i chi, a gweld ein rhestr o bethau i'w hystyried. Darllenwch enghreifftiau o sut mae treulio blwyddyn i ffwrdd.
Eisiau meddwl eto am eich opsiynau? Cymerwch olwg ar eich holl opsiynau yn 18.