Archwilio’r hyn sydd angen i chi ei wybod am ddyddiadau cau UCAS, dewis cyrsiau a phrifysgolion, ceisiadau, datganiadau personol, profion derbyn a chyllid.
(Mae llawer o'r dolenni ar y dudalen yma yn Saesneg yn unig).
Gwneir pob cais am gyrsiau addysg uwch yn ganolog drwy UCAS.
Dyddiadau a dyddiadau cau allweddol UCAS
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod am ddyddiadau a dyddiadau cau:
- Mae yna ddyddiadau allweddol drwy gydol y flwyddyn, er enghraifft pan fydd ceisiadau’n agor a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau
- Mae dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais am feddygaeth, deintyddiaeth neu filfeddygaeth, neu ar gyfer Rhydychen neu Gaergrawnt yn gynharach na mwyafrif y cyrsiau eraill
- Mae gan geisiadau cerddoriaeth i UCAS Conservatoires ddyddiau cau gwahanol
- Mae'n bwysig eich bod yn gwirio gyda'r prifysgolion unigol am y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Amserlen dyddiadau allweddol
Mwy o wybodaeth am ddyddiadau a dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau prifysgol ar wefan UCAS.
Dydd Iau 15 Hydref 2026 yw'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Dyma’r dyddiad cau hefyd ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau meddygaeth, deintyddiaeth a milfeddygaeth/gwyddoniaeth. Gallwch ychwanegu cyrsiau gyda dyddiadau cau gwahanol yn nes ymlaen, ond dim ond hyd at 5 dewis sydd gennych.
Dydd Mawrth 15 Rhagfyr 2026 yw'r dyddiad cau ar gyfer cyrsiau hyfforddi TAR i athrawon yng Nghymru. Gallwch wneud cais ar ôl y dyddiad hwn, ond efallai na fydd eich cais yn cael ystyriaeth gyfartal. Gall cyrsiau aros ar agor os oes lleoedd gwag ar gael.
Dydd Mercher 13 Ionawr 2027 yw'r dyddiad cau ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau israddedig gan gynnwys y rhan fwyaf o gyrsiau dawns, drama neu theatr gerddorol.
Os ydych chi wedi defnyddio pob un o'ch 5 dewis wrth wneud cais drwy UCAS, ond heb dderbyn unrhyw gynigion, neu os ydych chi wedi eu gwrthod, gallwch ychwanegu dewis arall gydag Extra.
Ewch i UCAS i gael gwybod mwy am UCAS Extra a sut mae'n gweithio.
Bydd ceisiadau a dderbynnir erbyn dydd Mercher 30 Mehefin 2027 am 6pm yn cael eu hanfon at brifysgolion a cholegau. Bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl yr amser hwn yn mynd trwy’r system glirio yn awtomatig.
1 Gorffennaf 2027 yw'r diwrnod olaf y gallwch ychwanegu dewis Extra at eich cais. Os ydych wedi methu â gwneud cais ar gyfer Extra neu os nad oes gennych chi unrhyw gynigion o hyd gallwch wneud cais trwy’r system glirio.
Os nad oes gennych chi unrhyw gynigion neu os nad yw'ch canlyniadau chi fel y disgwyl, gallwch wneud cais am le yn y brifysgol trwy'r System glirio. Mwy o wybodaeth am Y System Glirio.
Mae'r system glirio yn agor ar 2 Gorffennaf 2027. Gwneud cais am gyrsiau sydd ar gael drwy Offeryn chwilio UCAS.
Dydd Iau 23 Medi 2027 yw'r dyddiad cau olaf ar gyfer cyrsiau mynediad 2027.
Dewis y cwrs cywir
Wrth ddewis pwnc a chwrs mae'n bwysig ystyried:
- Beth yw’r gobeithion am swydd ar ôl i chi orffen
- A fydd y cwrs hwn yn eich arwain at eich nodau gyrfa
- Pa fath o gwrs fyddai'n gweddu orau i chi, llawn amser, rhan-amser, dysgu o bell, neu radd ryngosod
Chwilio am gyrsiau ar offeryn chwilio UCAS gan wneud mwy o ymchwil yn defnyddio gwefannau prifysgolion unigol.
Am fwy o help i benderfynu efallai y byddech hefyd yn hoffi:
Dewis prifysgolion
Byddwch yn astudio ac yn byw yn y brifysgol rydych chi'n ei ddewis am 3 blynedd neu fwy, felly mae'n bwysig eich bod chi'n meddwl yn ofalus am eich penderfyniad ac yn ystyried y cwestiynau hyn i'ch helpu i benderfynu:
- Ydych chi eisiau bod yn bell o gartref neu'n agos?
- A fyddai'n well gennych brifysgol ar gampws neu brifysgol mewn dinas?
- Pa gyfleusterau eraill sy'n bwysig i chi, er enghraifft, clybiau chwaraeon y brifysgol?
- Pa mor ddrud fydd hi i fyw yn y dref neu'r ddinas?
- Sut mae'r cysylltiadau trafnidiaeth?
Gallwch wneud digon o ymchwil ar wefannau prifysgolion ond dyw hyn byth cystal ag ymweld â'r brifysgol ar ddiwrnod agored. Defnyddiwch opendays.com i wirio pryd mae prifysgolion yn cynnal eu diwrnodau agored ac ewch i weld.
Gallwn eich helpu i baratoi a gwneud y mwyaf o ddiwrnodau agored eich Prifysgol.
Dolenni defnyddiol ar gyfer ymchwilio i gyrsiau a phrifysgolion
Archwiliwch gyrsiau a phrifysgolion ar y gwefannau canlynol:
- UCAS
- The Student Room Uni Guide
- Cymharu Prifysgolion
- Canllaw Prifysgol y Guardian
- Discover uni
- University Ready - Y Brifysgol Agored
Cryfhau eich cais
Dod o hyd i brofiad gwaith neu waith gwirfoddol
Mae prifysgolion eisiau gweld eich bod wedi ymrwymo i'r cwrs, pwnc neu faes gyrfa. Mae profiad gwaith neu wirfoddoli nid yn unig yn ffordd wych o roi cynnig ar eich syniadau gyrfa, ond gall helpu i ddatblygu'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch a dangos eich angerdd am y pwnc.
Dysgwch sut y gallech wirfoddoli neu gael profiad gwaith.
Cymryd rhan mewn gweithgareddau uwch-gwricwlaidd
Ffordd arall o ddangos eich ymrwymiad a'ch angerdd am y pwnc neu'r cwrs yw trwy ymgymryd â 'gweithgareddau uwchgwricwlaidd', hynny yw gweithgareddau ychwanegol sy'n ymwneud yn benodol â'r pwnc. Gallai enghreifftiau gynnwys ymweld ag amgueddfeydd os mai hanes yw eich pwnc, neu gymryd rhan mewn cystadlaethau ysgrifennu os mai Saesneg yw eich pwnc.
Mwy o syniadau ar gael yn 'The 34 Best Super-Curricular Activities for Applicants to Top Universities' Academi Royale Rhydychen.
Ysgrifennu eich datganiad personol
Ysgrifennwch eich datganiad i ddangos eich bod yn addas a fod gennych ddiddordeb yn y cyrsiau rydych chi'n gwneud cais amdanyn nhw. Cofiwch mai dim ond un datganiad personol y gallwch gyflwyno ar y cais UCAS.
Gofyn am gymorth:
- Ewch i Sut i ysgrifennu datganiad personol israddedig UCAS ar UCAS
- Gwiriwch ganllaw UCAS ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) wrth ysgrifennu eich datganiad personol. Gall defnyddio offer AI effeithio ar eich siawns o gael cynnig lle
- Mae enghreifftiau o ddatganiadau personol ar The Student Room a University Compare ond cofiwch beidio â chopïo
- Gofynnwch i athrawon, ffrindiau a theulu brawfddarllen eich datganiad
Byddwch yn ateb tri chwestiwn ar y canlynol:
- Pam rydych chi eisiau astudio'r pwnc neu'r cwrs?
- Sut mae eich cymwysterau a'ch astudiaethau wedi eich helpu i baratoi ar gyfer y cwrs?
- Sut rydych chi wedi bod yn paratoi y tu allan i addysg, er enghraifft profiad gwaith a pham mae'r profiadau hyn yn ddefnyddiol?
Paratoi ar gyfer profion derbyn
Yn dibynnu ar y cwrs a'r brifysgol, efallai y bydd gofyn i chi gymryd prawf gallu neu brawf derbyn neu gyflwyno portffolio o'ch gwaith. Rhai enghreifftiau:
- Bydd y rhan fwyaf o gyrsiau mewn Meddygaeth, Deintyddiaeth a Milfeddygaeth yn gofyn i chi gymryd prawf gallu fel Prawf Tueddfryd Clinigol y Brifysgol (UCAT)
- Mae gan Rydychen a Chaergrawnt brofion ac asesiadau derbyn sy'n benodol i gyrsiau
- Efallai y bydd angen cwblhau cyrsiau'r Gyfraith – LNAT – Law National Aptitude Test
- Mae llawer o gyrsiau celfyddydau a chreadigol fel Ffotograffiaeth neu Bensaernïaeth yn gofyn i chi gyflwyno portffolio o'ch gwaith
Gwiriwch wefan y brifysgol neu UCAS pa brofion neu gyflwyniadau eraill sy'n ofynnol ar gyfer eich cwrs a'r dyddiadau cau ar gyfer sefyll y prawf neu gyflwyno gwaith.
Rhowch gynnig ar gwblhau profion sampl ar-lein. Rhowch ddigon o amser i chi'ch hun i baratoi unrhyw bortffolios neu gyflwyniadau eraill sydd eu hangen.
Archwiliwch fwy am brofion derbyn:
- Profion Derbyn (UCAS)
- LNAT – Law National Aptitude Test
- Profion Ymarfer UCAT
- Prawf Tueddfryd Clinigol y Brifysgol (UCAT)
Cael geirda addas
Cofiwch fod angen geirda arnoch gan eich ysgol neu goleg. Dysgwch fwy ar Geirda ar gyfer ceisiadau israddedig UCAS ar UCAS.
Paratoi ar gyfer cyfweliadau a chlyweliadau
Efallai y cewch eich gwahodd i gyfweliad neu glyweliad. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar y pwnc a'r brifysgol, mae rhai enghreifftiau'n cynnwys:
- Bydd y rhan fwyaf o gyrsiau meddygaeth, deintyddiaeth a milfeddygaeth yn eich gwahodd i gyfweliad
- Efallai y bydd angen cyfweliad ar gyrsiau galwedigaethol eraill fel nyrsio
- Mae Rhydychen a Chaergrawnt yn eich gwahodd i gyfweliad
- Fel arfer, mae angen clyweliad ar gyrsiau celfyddydau perfformio
Gwiriwch fanylion derbyn y brifysgol a'r cwrs rydych chi'n meddwl amdano. Edrychwch ar gwahoddiadau i gyfweliadau israddedig ar UCAS.
Cyllido eich astudiaethau
Ymchwiliwch i gyllido eich astudiaethau yn gynnar a gwnewch nodyn o'r dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau am gyllid. Dysgwch fwy ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Mwy o wybodaeth
Efallai i chi hefyd hoffi
Dysgwch am bwysigrwydd diwrnodau agored i ddewis prifysgol. Cewch yr awgrymiadau gorau am baratoi at ddiwrnodau agored a beth i'w wneud ar y dydd.
Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi profiad. Cewch wybod sut mae ei gael, gan gynnwys drwy brofiad gwaith, gwirfoddoli ac interniaeth.
Dysgwch am opsiynau ariannu yn y brifysgol, gan gynnwys benthyciadau, grantiau a sut i wneud cais.
Cewch wybod a ydy blwyddyn i ffwrdd yn addas i chi, a gweld ein rhestr o bethau i'w hystyried. Darllenwch enghreifftiau o sut mae treulio blwyddyn i ffwrdd.
Beth sydd angen ichi ei wybod am system glirio'r brifysgol a sut mae ymgeisio drwy system glirio.
Dod o hyd i wybodaeth a dolenni defnyddiol i helpu i archwilio astudio dramor.
Eisiau meddwl eto am eich opsiynau? Cymerwch olwg ar eich holl opsiynau yn 18.