Gan fod ffioedd prifysgolion yn codi yn y DU, gall astudio dramor fod yn opsiwn cyffrous i chi. OND, mae'n gam mawr ac mae llawer o bethau i'w hystyried.
Efallai eich bod yn ystyried astudio dramor fel opsiwn arall yn lle prifysgol yn y DU neu fel rhan o'ch astudiaethau israddedig yma. Beth bynnag yw'r rheswm, bydd angen i chi wneud llawer o'r ymchwil eich hun a meddwl yn ofalus am yr opsiynau. Gallwn eich helpu i ddechrau ymchwilio a chynllunio'ch amser dramor
Wyddech chi? Mae tua 30,000 o fyfyrwyr y DU yn mynd i dramor i astudio bob blwyddyn. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain, 96%, yn mynd dramor fel rhan o gwrs gradd israddedig yn y DU.( HESA, 2017)
5 rheswm dros astudio dramor
- Mae’n creu argraff ar gyflogwyr – Mae cyflogwyr yn awyddus iawn i gael pobl sy’n meddu ar brofiad byd-eang ac sy’n ymwybodol o wahanol ddiwylliannau. Mae astudio dramor yn ffordd wych o sefyll allan ymhlith y dorf.
- Gall fod yn rhatach - efallai na fydd cost astudio dramor yn llawer uwch nag astudio gartref wrth i ffioedd dysgu gynyddu ym mhrifysgolion y DU. Mae amrywiaeth eang o gyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Saesneg.
- Gallwch ddysgu iaith – gall astudio dramor fod yn un o’r ffyrdd gorau o ddysgu sgiliau ieithyddol gwerthfawr gan agor mwy o ddrysau i amrywiaeth eang o swyddi.
- Gallwch ddatblygu eich cryfderau – mae gadael cartref i astudio dramor yn antur ond yn gam mawr hefyd. Gall wynebu’r her a goresgyn pob rhwystr ddatblygu eich sgiliau a’ch gwneud yn berson mwy hyderus, sy’n gallu addasu’n well.
- Antur, teithio a phersbectif academaidd newydd - bydd y profiad yn sicr yn antur, fe allech chi gwrdd â ffrindiau a chysylltiadau newydd a newid eich barn am eich astudiaethau a'ch syniadau am yrfa.
Wyddech chi? Roedd 39% o gyflogwyr y DU yn anfodlon ar ymwybyddiaeth ddiwylliannol ryngwladol graddedigion. (CBI,2017)
Wyddech chi? Mae myfyrwyr sy’n mynd dramor 9% yn fwy tebygol o gael gradd dosbarth 1af neu 2:1 a 24% yn llai tebygol o fod yn ddi-waith. (UUKi Gone International, 2017)
Rhestr wirio er mwyn astudio dramor
Ymchwiliwch i’ch cwrs
Bydd angen i chi gynllunio’n ofalus iawn.
- Ymchwiliwch i’ch cwrs – Mae’n bwysig ymchwilio i ba gwrs sydd orau i chi yn union fel pe baech yn astudio yn y DU. Yn dibynnu ar eich cynlluniau gyrfa, gallwch gymharu cymwysterau rhyngwladol â rhai y DU yn UK NARIC
- Ymchwiliwch i’ch prifysgol. Ymchwiliwch i’r wlad – Gall hyn olygu iaith a diwylliant newydd a ffordd o fyw cwbl wahanol i’ch ffordd o fyw arferol.
Ariannu eich astudiaethau dramor?
Y ffyrdd mwyaf cyffredin y gallwch astudio dramor yw:
- Drwy leoliad tramor fel rhan o’ch cwrs mewn prifysgol neu goleg yn y DU
- Drwy gwblhau cwrs addysg uwch cyflawn dramor
Gallwch wneud cais am gyllid llawn gan Cyllid Myfyrwyr Cymru os byddwch yn astudio y tu allan i’r DU fel rhan o gwrs rydych yn ei astudio mewn Prifysgol neu goleg yn y DU. Efallai y bydd arian ar gael drwy ERASMUS+ os bydd yr astudiaethau hynny mewn gwlad o fewn yr UE. Gall hyn newid gan ddibynnu ar BREXIT, ond gallwch gael rhagor o wybodaeth gan eich prifysgol neu goleg yn y DU.
Ni allwch wneud cais am gyllid gan Cyllid Myfyrwyr Cymru os byddwch yn dechrau ac yn cwblhau eich cwrs y tu allan i’r DU. Bydd ffioedd dysgu a chostau byw yn amrywio’n sylweddol rhwng gwledydd a phrifysgolion. Gall cyfanswm y costau fod yn uwch neu’n is na chostau’r DU.
Gwnewch gais am gymorth ariannol i asiantaeth gyllid y wlad dan sylw. Siaradwch â’r brifysgol neu’r coleg yr hoffech ei mynychu/fynychu i gael rhagor o wybodaeth am gyllid ac ysgoloriaethau posibl.
Ymchwiliwch yn ofalus iawn i sut y gallwch ariannu eich costau byw dramor:
Your Europ (Saesneg yn unig)
UK Council for International Affairs (Saesneg yn unig)
Fisa? Brechiadau? Archwiliadau Meddygol? Yswiriant?
Yn dibynnu ar ba brifysgol a gwlad yr hoffech fynd iddynt, efallai y bydd gofynion eraill cyn y gallwch wneud cais i astudio a byw yn y wlad, megis fisa, brechiadau neu yswiriant. Sicrhewch eich bod yn holi’r brifysgol y mae gennych ddiddordeb ynddi yn ofalus.
Sut i wneud cais
Gwneir pob cais am gyrsiau addysgu uwch yn y DU drwy UCAS. Mae prosesau gwneud cais prifysgolion a cholegau mewn gwledydd eraill yn amrywio’n helaeth ac nid yw pob un ohonynt drwy system ganolog fel UCAS. Gofynnwch i’r brifysgol y mae gennych ddiddordeb ynddi sut i wneud cais.
Dechreuwch ymchwilio
(Mae'r mwyafrif o'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cewch wybod a ydy blwyddyn i ffwrdd yn addas i chi, a gweld ein rhestr o bethau i'w hystyried. Darllenwch enghreifftiau o sut mae treulio blwyddyn i ffwrdd.

Sut i wneud cais, yn cynnwys terfynau amser, mynychu diwrnodau agored, cyllid myfyrwyr a chlirio.

Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.