Mae dewis beth i'w wneud pan fyddwch chi'n gorffen yr ysgol neu'r coleg yn benderfyniad mawr. Gallwn eich helpu i archwilio'ch opsiynau a gwneud y penderfyniad sy'n iawn i chi.
Eich opsiynau

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra byddwch chi’n gweithio ac yn ennill cyflog. Chwiliwch am brentisiaethau yn eich ardal chi, dysgwch am brentisiaethau a lefelau prentisiaeth, a mynnwch gyngor ar sut i wneud cais.

Sut i wneud cais, yn cynnwys terfynau amser, mynychu diwrnodau agored, cyllid myfyrwyr a chlirio.

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr a mwy.

Dewch i weld a yw hunangyflogaeth yn addas i chi a lle i gael rhagor o gefnogaeth.

Cewch wybod a ydy blwyddyn i ffwrdd yn addas i chi, a gweld ein rhestr o bethau i'w hystyried. Darllenwch enghreifftiau o sut mae treulio blwyddyn i ffwrdd.

Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill.

Profiad gwaith yw ennill profiad o fywyd gwaith. Cewch wybod sut mae cael y profiad gwaith sydd ei angen arnoch i gael y swydd rydych am ei chael.

Math o brofiad gwaith yw interniaethau i fyfyrwyr yn y brifysgol neu raddedigion. Maen nhw'n ffordd wych o gael profiad sy'n berthnasol i'ch gradd.
Gwneud penderfyniadau

Cewch gymorth yn dewis pynciau a chyrsiau. Cewch wybod am y gofynion mynediad, swyddi'r dyfodol, syniadau gyrfa, a'ch dull dysgu.

Eich canllaw i ddewis eich pynciau, cyrsiau, hyfforddiant a chyllido eich astudiaethau.

Gall y penderfyniad y byddwch yn ei wneud nawr effeithio ar eich llwybr gyrfa yn y dyfodol.
Cael syniadau
Ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf? Defnyddiwch ein adnoddau i ddod o hyd i feysydd a swyddi a allai fod yn addas i chi.
Archwilio swyddi a diwydiannau
Defnyddiwch ein adnoddau i gael mwy o wybodaeth am swyddi a diwydiannau gwahanol.
Edrychwch ar ein fideos Dyfodol Gwaith yng Nghymru. Bydd y fideos yn rhoi rhyw syniad i chi o ba swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a pha sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw.