Dechreuwch chwilio am swydd newydd yma. Archwilio mwy o gyflogwyr sy'n recriwtio yng Nghymru.
Mae gan y dudalen hon gysylltiadau â chyflogwyr mawr sy'n cyflogi yn eich ardal chi.
Pwy sy'n recriwtio yng Nghymru?
Mae'r dolenni isod yn mynd â chi i wefannau cyflogwyr ac asiantaethau sy'n recriwtio nawr.
Bydd swyddi gwag yn newid dros amser, felly edrychwch yn ôl yn rheolaidd.
Manwerthu
Mae’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig
Gwefannau swyddi manwerthu eraill
Mae’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig
Lletygarwch ac arlwyo
Mae swyddi’n parhau i gael eu hysbysebu gyda thafarndai, bwytai, caffis ac ati. Mae llawer o'r swyddi hyn gyda busnesau bach, lleol ond dyma rai o'r cwmnïau a gwefannau mwy: Mae’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig
Gwestai
Mae gwestai'n recriwtio drwy safleoedd swyddi cyffredinol fel Indeed, Reed a Dod O Hyd I Swydd. Mae rhai yn recriwtio drwy eu gwefannau eu hunain.Gall eraill ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ac ar lafar.
Dyma ychydig o westai Cymru fel man cychwyn: Mae’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig
Gwefannau eraill ar gyfer swyddi mewn gwestai
Mae’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig
Dewch o hyd i westai sy’n lleol i chi drwy chwilio am restrau gwestai. Yna gallwch gysylltu â'r gwestai neu ddod o hyd i swyddi gwag ar eu gwefannau. Mae enghreifftiau o restrau yn cynnwys:
Britain's Finest
Hotels.com
Trip Advisor
Dysgwch fwy am swyddi lletygarwch a thwristiaeth ar wefan Cymru'n Gweithio.
Dosbarthu, logisteg a thrafnidiaeth
Mae rhai o’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig
Ewch i wefan Cymru'n Gweithio i gael gwybodaeth ddefnyddiol am weithio yn y sectorau Trafnidiaeth a Logisteg.
Iechyd
Mae rhai o’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig
Gofal
Mae rhai o’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig
Gallwch ddysgu mwy am weithio yn y sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar ar wefan Cymru’n Gweithio
Addysg
Mae rhai o’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig
Gwasanaethau cyhoeddus
Mae rhai o’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig
Diogelwch
Mae’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig
Cynhyrchu bwyd a gwasanaethau eraill
Mae’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig.
Bwriad ymgyrch recriwtio Feed the Nation yw dod o hyd i weithwyr dros dro mewn gwasanaethau cynhyrchu bwyd hanfodol, er enghraifft mewn archfarchnadoedd a gwasanaethau dosbarthu.
Mae OCS yn chwilio am weithwyr hanfodol mewn meysydd fel glanhau, arlwyo, gwasanaeth cwsmeriaid a diogelwch, i gefnogi'r GIG ac eraill.
Mae swyddi gwag tebyg ar gael drwy safleoedd Sodexo a Compass.
Adeiladu a labro
Mae rhai o’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig.
Gall cyfleoedd gwaith fod ar gael ym maes adeiladu. Chwiliwch am swyddi gwag ar wefannau swyddi ar-lein fel the Construction Job, Constructor, Totaljobs, Indeed, Reed a Dod o hyd i swydd.
Mae rhai cwmnïau adeiladu yn recriwtio ar eu gwefannau. Dyma rai enghreifftiau:
Mae’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig
Mae cwmnïau adeiladu hefyd yn defnyddio Asiantaethau Recriwtio i hysbysebu gwaith tymhorol.
Fel arfer bydd angen i chi gael Cerdyn Iechyd a Diogelwch CSCS i weithio ar safleoedd adeiladu.
Mae'r cynllun CSCS wedi newid rhai o reolau'r cynllun dros dro er mwyn helpu deiliaid cardiau presennol:
- Bellach mae gennych 12 mis yn lle 6 i adnewyddu cerdyn ar ôl iddo ddod i ben
- Os yw’ch cerdyn wedi dod i ben yn ddiweddar, efallai y byddwch yn dal i allu ei ddefnyddio i gael gwaith am y tro, yn ôl disgresiwn eich cyflogwr
Ewch i Wefan CSCS i gael gwybodaeth am y sefyllfa ddiweddaraf.
TGCH
Mae’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig
Peirianneg
Mae’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig
Gweithgynhyrchu
Mae’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig
Bancio a chyllid
Mae’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig
Dechrau arni?
Yn poeni nad oes gennych lawer o brofiad gwaith ond yn dal i chwilio am waith cyflogedig? Mae cyfleoedd ar gael i chi gael eich troed ar ysgol y farchnad swyddi.
Os ydych rhwng 16-19 oed a ddim mewn gwaith neu addysg amser llawn, gallech fod yn gymwys ar gyfer rhaglen Twf Swyddi Cymru+ Llywodraeth Cymru.
Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yw Twf Swyddi Cymru+, sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnat ti i gael swydd neu hyfforddiant pellach. Bydd gen ti hefyd fynediad at hyfforddiant am ddim, lleoliadau gwaith a swyddi â thâl gyda chyflogwyr yn dy ardal.
Dysgwch fwy am Twf Swyddi Cymru+ ar wefan Cymru’n Gweithio.
Ydych chi eisiau ennill wrth ddysgu? Beth am ystyried prentisiaeth?
Gweler ein Adran Prentisiaethau neu dewch o hyd i gyfleoedd prentisiaeth. Gallwch weld mwy o gwmnïau sy'n hysbysebu prentisiaethau ar ein tudalennau Cyflogwyr sy'n Cynnig Prentisiaethau.
Cymorth arall os ydych chi’n ddi-waith
Cofiwch y gall Gyrfa Cymru eich helpu gyda'ch camau nesaf, gyda chyngor am chwilio am swydd a mynediad at opsiynau ailhyfforddi. Mae hyn yn cynnwys cymorth yn dilyn colli swydd.
Dysgwch fwy am gyllid ailhyfforddi, gweler ein Adran Cael swydd am awgrymiadau chwilio am swydd, neu cysylltwch â ni am fwy o help.
Chwilio am swydd yn ddiogel
Cadwch eich llygaid ar agor am sgamiau wrth chwilio am swyddi ar wefannau. Mae mwy o bobl yn cael eu targedu gan sgamiau swyddi ar-lein. I gael gwybod mwy am sut i osgoi sgamiau swyddi ewch i Jobs Aware (Saesneg yn unig).
Ymgeisiwch am swyddi nawr
I weld swyddi gwag ledled Cymru ewch i'n Tudalen Bwletin Swyddi Gwag.
Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn trydar swyddi gwag yn rheolaidd – dysgwch fwy ar ein tudalen ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i chwilio am swyddi.
Efallai y byddwch hefyd yn hoffi

Edrychwch ar ein rhestr o rai o’r cyflogwyr mwy sy’n derbyn prentisiaid.

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.

Darganfyddwch 10 ffordd wych o ddod o hyd i gwmni i weithio iddo.

Cewch wybod beth mae asiantaethau recriwtio yn ei wneud, ble mae dod o hyd iddynt, a pham mae'n werth cofrestru.

Archwiliwch rai o ddiwydiannau pwysicaf Cymru. Dysgwch pa swyddi y gallech eu gwneud, nawr, ac yn y dyfodol.

Dewch i wybod pa swyddi sydd ar gael nawr ac yn y dyfodol, a pha sgiliau y mae cyflogwyr eisiau.

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.

Awgrymiadau ar sut i lunio cais er mwyn cael cyfweliad.

Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.

Gwnewch argraff gyntaf dda yn eich e-bost neu lythyr eglurhaol gyda'n cymorth ni.