Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Ysgrifennu ceisiadau

Os ydych chi wedi anfon llawer o geisiadau am swyddi ond heb gael cyfweliad, gallai'r awgrymiadau hyn helpu.

Mae cyflogwyr yn penderfynu a ydynt am gyfweld â chi ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais.

Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gwneud cais

Cadwch eich cais yn benodol i'r swydd

Mae angen i'r sgiliau a'r profiadau yr ydych yn eu cynnwys gyd-fynd â'r rhai a restrir yn y disgrifiad swydd a manyleb y person.

Bydd cynnwys gwybodaeth berthnasol yn dangos eich bod wedi darllen a deall yr hyn y mae'r cyflogwr yn chwilio amdano. Mae cais sydd wedi'i feddwl allan yn ofalus ac sy'n dangos y sgiliau a'r profiad y mae'r cyflogwr yn chwilio amdanynt yn fwy tebygol o gael cyfweliad i chi.

Os nad yw eich atebion yn cyfateb i’r wybodaeth a sydd ar gael, efallai y bydd cyflogwyr yn meddwl nad oes gennych gymaint o ddiddordeb â hynny yn y swydd. Mae nhw'n darllen llawer o geisiadau, felly mae angen i'ch cais chi ddangos eich bod chi wir eisiau'r swydd honno.

Cofiwch ddefnyddio enghreifftiau penodol a dweud wrth gyflogwyr am eich llwyddiannau a'ch cyraeddiadau.

Byddwch yn bositif a gwerthwch eich hun

Wrth i chi ysgrifennu, canolbwyntiwch ar effaith gadarnhaol yr hyn rydych chi wedi'i wneud. Gallech ddefnyddio geiriau fel 'wedi cyflawni', 'wedi trefnu' neu 'wedi cynhyrchu' i ddangos i gyflogwyr pa dasgau rydych wedi'u cwblhau.

Cofiwch ddefnyddio enghreifftiau penodol a rhoi gwybod i gyflogwyr beth yw eich llwyddiannau a'ch cyflawniadau.

Defnyddiwch iaith y cyflogwr

Dangoswch eich bod yn deall pa fath o berson y mae'r cyflogwr yn chwilio amdano. Dylech gynnwys geiriau ac ymadroddion sy'n cyd-fynd â'r hyn y maen nhw wedi gofyn amdano yn yr hysbyseb.

Gwiriwch yr hyd

Mae gan rai ceisiadau derfyn geiriau llym iawn ar hyd yr atebion y gallwch eu rhoi. Os oes terfyn geiriau, rhaid i chi gadw o fewn hynny.

Rhestr Wirio Ceisiadau Am Swyddi

Cyn dechrau dylech chi:

  • Ddarllen y swydd ddisgrifiad yn ofalus i ddysgu am y swydd
  • Ymchwiliwch i'r cwmni ar-lein. Efallai y bydd gan rai cwmnïau awgrymiadau hefyd ar gyfer llenwi eu ceisiadau
  • Defnyddiwch eich CV neu geisiadau eraill rydych chi wedi'u cwblhau fel man cychwyn 
  • Darllenwch y cwestiynau cais yn ofalus i wneud yn siŵr eich bod yn deall beth sydd angen i chi ei wneud
  • Ysgrifennwch ddrafft cyntaf eich atebion. Edrychwch yn ôl drostyn nhw i weld os allwch chi eu gwella. Efallai y byddwch chi eisiau ychwanegu mwy o wybodaeth neu dynnu pethau allan
  • Gwiriwch a yw'r cais yn cynnwys lle i chi ysgrifennu amdanoch chi’ch hunan. Os felly, darllenwch wybodaeth am ddatganiadau personol

Wrth i chi lenwi'r cais dylech chi:

  • Wneud yn siŵr eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau'n gywir
  • Atebwch bob cwestiwn mor llawn â phosibl
  • Byddwch yn onest
  • Byddwch yn gywir. Gwiriwch ddyddiadau ac enwau ddwywaith i wneud yn siŵr eu bod yn gywir

Wedi i chi gwblhau'r cais, dylech:

  • Gwiriwch y sillafu a'r gramadeg. Sicrhewch nad oes unrhyw wallau sillafu neu wallau teipio
  • Sicrhewch fod popeth rydych wedi'i ysgrifennu yn gywir.
  • Cadwch gopi o’ch cais am y swydd. Yna gallwch ei ddefnyddio fel sylfaen ar gyfer ceisiadau eraill. Gallwch hefyd gyfeirio'n ôl i weld beth rydych wedi'i ysgrifennu os bydd y cyflogwr yn eich gwahodd i gyfweliad neu’n eich ffonio

Angen help?

Cysylltu â ni am gyngor a chymorth i gwblhau ceisiadau am swyddi. Rydyn ni yma i helpu.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Creu CV

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.

Datganiad Personol

Cewch gymorth a syniadau i gwblhau eich datganiad personol. Gall y datganiad personol fod yn un o'r rhannau pwysicaf o'ch cais.

Datganiad Personol enghreifftiol 1 - Alex

Gweld enghraifft o ddatganiad personol wedi'i chwblhau ar gyfer swydd manwerthu. Gall darllen datganiad personol wedi'i chwblhau eich helpu i ddeall yn well sut i ysgrifennu un eich hun.

Technegau cyfweld

Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.