Fel arfer bydd angen i chi anfon e-bost neu lythyr gyda’ch CV (ac weithiau gyda’ch ffurflen gais) i gyflwyno’ch hun i’r cyflogwr.
Mae e-bost neu lythyr cais yn bwysig gan mai dyma'ch cyswllt cyntaf â'r cyflogwr. Drwy greu argraff gyntaf dda yn eich llythyr / e-bost, bydd y cyflogwr yn fwy tebygol o ddarllen eich CV.
Prif Awgrymiadau
Mae’n bwysig:
- Cadw eich llythyr cais yn syml ac yn gryno, gan dynnu sylw at wybodaeth berthnasol a fydd yn ddefnyddiol i'r cyflogwr
- Cofio darllen dros eich llythyr cyn ei anfon, er mwyn gwirio:
- Am wallau sillafu
- Bod y rhifau ffôn yn gywir
- Bod cyfeiriadau e-byst yn broffesiynol heb unrhyw wallau sillafu
Beth i’w gynnwys mewn llythyr cais
Dylech gynnwys y canlynol yn eich llythyr:
Eich manylion
Ar y llythyr dylech gynnwys eich:
- Enw llawn
- Cyfeiriad personol
- Rhif ffôn (cartref a/neu symudol)
- Cyfeiriad e-bost
Dechrau a gorffen eich llythyr
Os ydych chi'n gwybod enw'r person rydych chi'n ysgrifennu atynt yna dylech ddechrau gyda 'Annwyl Mr/Ms/Mrs xxxx' a gorffen gydag 'Yn gywir’.
Os nad ydych yn gwybod enw'r person rydych chi’n ysgrifennu ato, dylech ddechrau gydag 'Annwyl Syr/Madam' neu 'I bwy bynnag a fynno wybod’. Dylech orffen y llythyr gyda 'Yn gywir’ wrth ddefnyddio’r cyfarchion yma hefyd.
Cyfeiriwch at y swydd rydych yn gwneud cais amdani
Nodwch y swydd rydych chi'n gwneud cais amdani a chyfeirnod y swydd os oes un. Mae'n ddefnyddiol nodi Mae’n ddefnyddiol nodi lle y gwelsoch chi’r hysbyseb am y swydd. Er enghraifft “Rwy'n gwneud cais am swydd Cynorthwyydd Gweinyddol fel yr hysbysebir ar eich gwefan, cyfeirnod AA102."
Cyflwynwch eich hun yn gryno ac eglurwch pam eich bod yn addas ar gyfer y swydd
Nodwch eich prif sgiliau sy'n berthnasol i'r swydd rydych chi'n gwneud cais amdani ac a fydd yn hoelio sylw'r cyflogwr. Er enghraifft “Rwy'n unigolyn sy'n gweithio'n galed gyda 3 blynedd o brofiad ym maes manwerthu. Rwy’n gallu cydweithio ag eraill yn effeithiol ac mae gen i sgiliau cyfathrebu rhagorol ar ôl fy mhrofiad o weithio gyda chwsmeriaid am nifer o flynyddoedd."
Os nad oes gennych lawer o brofiad neu os ydych newydd adael yr ysgol neu'r coleg, dylech egluro eich sefyllfa bresennol. Er enghraifft "Rwyf wedi cwblhau fy arholiadau TGAU/Safon Uwch yn ddiweddar ac rwyf bellach yn awyddus i ddechrau fy ngyrfa ym maes manwerthu. Rwyf wedi treulio amser ar brofiad gwaith ac wedi gwirfoddoli fel rhan o'm cymhwyster Bagloriaeth Cymru."
Dywedwch wrth y cyflogwr pam rydych chi'n meddwl eich bod yn addas ar gyfer y swydd
Esboniwch eich sgiliau perthnasol yn gryno gan sicrhau eu bod yn cyfateb i'r sgiliau yn yr hysbyseb am y swydd. Er enghraifft “Rwy'n chwaraewr tîm da ond gallaf weithio'n effeithiol ar fy mhen fy hun hefyd. Byddwn yn rhan werthfawr ac effeithiol o'ch tîm.”
Paragraff clo’r llythyr
Gorffennwch y llythyr gyda naws bositif a rhowch ddisgrifiad byr o’r brif wybodaeth sydd yn eich llythyr. Er enghraifft “Rwyf wedi atodi fy nghais/CV CV sy'n nodi fy llwyddiannau a’m sgiliau sy'n berthnasol i'r swydd hon. Rwy'n ffyddiog y gallaf fod yn aelod gwerthfawr o'ch tîm ac y bydd hyn yn gyfle i mi ddatblygu fy sgiliau ymhellach. Edrychaf ymlaen at glywed oddi wrthych yn fuan'.
Cofiwch orffen y llythyr gydag ‘Yn gywir’.
Llythyr Ar Hap
Pan fyddwch chi’n e-bostio neu’n ysgrifennu at gyflogwr i ofyn a oes ganddyn nhw unrhyw swyddi gwag, mae hynny’n lythyr neu e-bost ar hap. Am lythyr neu e-bost ar hap:
- Ceisiwch gyfeirio eich llythyr/e-bost at berson a enwir i'w anfon ato — yn aml y Rheolwr Personél neu Adnoddau Dynol, rheolwr y cwmni neu'r perchennog
- Nodwch eich rheswm dros ysgrifennu (gweler yr enghraifft isod)
- Eglurwch pam fod gennych ddiddordeb mewn gweithio i'r cyflogwr hwnnw
- Dywedwch wrthynt pa sgiliau a phrofiad sydd gennych i'w cynnig. Rhaid i'r rhain fod yn berthnasol i'r math o waith yr ydych yn chwilio amdano
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymchwilio i'r cwmni yn gyntaf cyn ysgrifennu. Bydd hyn yn eich helpu i weithio allan pa sgiliau y gallent fod yn chwilio amdanynt. Yna gallwch gynnwys y rhain yn eich llythyr neu e-bost ar hap.
Esiamplau o lythyrau cais
Bydd yr esiampl llythyr cais yma'n addas pan ydych yn ymgeisio am eich swydd gyntaf.
Bydd yr esiampl llythyr cais yma'n addas pan fyddwch yn dychwelyd nôl i'r gwaith ar ôl cyfnod ffwrdd o weithio.
Bydd y llythyr cais yma'n addas pan fyddwch yn ystyried newid gyrfa.
Bydd y llythyr cais yma'n addas pan fyddwch chi'n ysgrifennu at gwmni i ofyn yn ddyfaliadol am gyfleoedd gwaith.
Dogfennau
Mae'r enghreifftiau a roddir yma i roi syniad i chi yn unig. Fe ddylech chi sicrhau eich bod chi'n gwneud pob llythyr yn bersonol i chi a'r swydd rydych chi'n ymgeisio amdani.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.
Darganfyddwch sut i wneud cyfweliad da gan ddefnyddio techneg STAR a chael cyngor cyfweliad ac awgrymiadau paratoi.
Darganfyddwch 6 ffordd i ddod o hyd i swyddi ar-lein
Darganfyddwch sut i ddefnyddio Facebook, X, TikTok a LinkedIn i ddod o hyd i swyddi yn eich ardal chi.
Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra byddwch chi’n gweithio ac yn ennill cyflog. Chwiliwch am brentisiaethau yn eich ardal chi, dysgwch am brentisiaethau a lefelau prentisiaeth, a mynnwch gyngor ar sut i wneud cais.