Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Llythyr cais enghreifftiol - Dychwelyd i'r gwaith

Mae'r llythyr cais yma'n tynnu sylw at ba swydd rydych chi'n ymgeisio amdani a'ch sgiliau a'ch rhinweddau allweddol.

Byddai'r llythyr cais yma'n ddefnyddiol pan fyddwch chi:

  • Yn dychwelyd i'r byd gwaith ar ôl cyfnod i ffwrdd

  • Mae bylchau yn eich hanes gwaith neu rydych chi wedi bod mewn sawl swydd gwahanol

A1 Retail Store
Parc Manwerthu Dewi Sant
CF10 1AF

19 Mawrth 2021

Jesse Smith
11 Stone House Court
Porth
CF1 5SD
Rhif ffôn: 01995 387621
Ffôn symudol: 07800 0001111
E-bost: jesse.smith@esiamplebost.co.uk

Annwyl Syr/Fadam,

Rwy'n ysgrifennu i wneud cais am y swydd Cynorthwyydd Manwerthu yr ydych wedi'i hysbysebu ar sawl gwefan swyddi.

Mae gen i 4 blynedd o brofiad o weithio ym maes manwerthu a 2 flynedd o weithio mewn rôl weinyddol. O ran manwerthu, roedd fy mhrif gyfrifoldebau'n cynnwys gweithio gyda chwsmeriaid, trin arian, cadw llawr y siop yn daclus a monitro rheolaeth stoc. Fel cynorthwyydd gweinyddol, fy rôl oedd gweithio'n agos gyda rheolwr y swyddfa, gwrando a dilyn cyfarwyddiadau, cyfathrebu'n effeithiol â staff a rhanddeiliaid a gweithio i derfynau amser.

Yn ddiweddar, cymerais seibiant o'r gwaith i fagu fy mhlant, ond teimlaf fy mod bellach yn barod i ailgydio yn fy ngyrfa a chanolbwyntio ar ddychwelyd i'r gweithle.

Rwyf yn hyderus bod gen i’r sgiliau, y rhinweddau a’r profiad i fod yn rhan werthfawr o’ch tîm. Amgaeaf fy CV/cais sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth amdanaf fi fy hun.

Diolch am ystyried fy nghais. Gobeithiaf glywed gennych yn fuan.

Yn gywir,

Jesse Smith