Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Llythyr cais enghreifftiol - Newid gyrfa

Llythyr cais enghreifftiol - Newid gyrfa

Mae'r llythyr cais yma'n tynnu sylw at ba swydd rydych chi'n ymgeisio amdani a'ch sgiliau a'ch rhinweddau allweddol.

Byddai'r llythyr cais yma'n ddefnyddiol pan fyddwch chi'n newid gyrfaoedd.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Parc Heath
Caerdydd
CF14 4XW

19 Mawrth 2021

Jack Neill
11 Stone House Court
Porth
CF1 5SD
Rhif ffôn: 01995 387621
Ffôn symudol: 07800 0001111
E-bost: jackneill@esiamplebost.co.uk

Annwyl Syr/Fadam,

Hoffwn wneud cais am y swydd Rheolwr Gwasanaeth Iechyd yr ydych wedi'i hysbysebu ar eich gwefan.

Mae gen i 8 mlynedd o brofiad o weithio fel Nyrs Iechyd Meddwl ac yn fwyaf diweddar fel rheolwr safle adeiladu yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau adeiladu yn amrywio o byllau nofio, ysgolion ac adeiladau uchel. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf rwyf wedi gweithio ar brosiectau ledled Cymru, y DU ac Ewrop ac wedi delio ag amrywiaeth o wahanol bobl i sicrhau bod prosiectau wedi'u cwblhau. Mae gen i sgiliau cyfathrebu a threfnu arbennig ac rwy'n gweithio'n eithriadol o dda o dan bwysau.

Teimlaf fy mod wedi cyflawni'r hyn a allaf yn y diwydiant adeiladu. Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb yn y sector iechyd a byddwn wrth fy modd yn gallu dychwelyd a defnyddio fy mhrofiad rheoli. Credaf y byddai fy sgiliau presennol yn amhrisiadwy i'r swydd hon. Yn fy rôl bresennol, rwy'n gyfrifol am reoli rhwng 10 a 150+ o dimau adeiladu, yn amserlennu eu gwaith, yn arolygu gwaith, yn cefnogi’r gwaith o gynllunio prosiectau ac yn ysgrifennu gweithdrefnau iechyd a diogelwch ar gyfer y safleoedd adeiladu. Rwyf hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o wahanol staff a buddsoddwyr. Mae'r sgiliau rwyf wedi'u datblygu fel rheolwr yn y diwydiant adeiladu yn addas iawn ar gyfer y swydd hon.

Rwy'n hyderus bod gen i'r sgiliau, y rhinweddau a'r profiad i fod yn Rheolwr Gwasanaeth Iechyd llwyddiannus. Amgaeaf fy CV/cais sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am fy nghymwysterau a’m sgiliau.

Diolch am ystyried fy nghais. Gobeithiaf glywed gennych yn fuan.

Yn gywir,


Jack Neill