Llythyr cais enghreifftiol - ar hap
Mae'r llythyr eglurhaol hwn yn egluro pam fod gennych ddiddordeb mewn gweithio i gyflogwr penodol ac yn amlygu'ch sgiliau a'ch rhinweddau allweddol.
Byddai'r llythyr eglurhaol hwn yn ddefnyddiol pan fyddwch yn cysylltu â chyflogwr nad yw wedi hysbysebu swydd, ond a allai fod â'r math o waith yr ydych yn chwilio amdano.
Mr John Smith
33 Stryd Jameson
Pontypridd
CF99 9YY
Ffôn: 01234 771424
Ebost: johnsmith555@mail.com
25 Medi 2022
Ms Janet Rees
Rheolydd Gyfarwyddwr
Goodlook Blinds
Parc Menter y Cymoedd
Pontypridd
CF99 6ZN
Annwyl Ms Rees
Rwy’n ysgrifennu atoch ynglŷn â chyfleoedd cyflogaeth gyda’ch cwmni gan fy mod yn awyddus i sicrhau cyflogaeth gyda sefydliad lleol, llwyddiannus.
Fy enw i yw John Smith ac rwyf wedi darparu fy CV cyfredol er gwybodaeth i chi.
Mae gen i sawl blwyddyn o brofiad yn y sector manwerthu. Tra’n gweithio gyda manwerthwr dillad gwely lleol, cynyddais werthiant math penodol o ddillad gwely 50 y cant trwy arddangos y cynnyrch hwn yn fwy amlwg.
Mae gen i sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Rwy'n helpu cwsmeriaid yn rheolaidd i ddewis cynhyrchion a chefais ganmoliaeth gan y rheolwyr am helpu cwsmeriaid anabl o amgylch y siop lle'r oeddwn yn cael fy nghyflogi.
Rwy'n gyfarwydd â gweithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol, gan gwblhau tasgau'n llwyddiannus i'r safon uchaf posibl o fewn graddfeydd amser penodol. Rwy'n addasadwy ac yn hyblyg yn y gweithle ac yn barod i ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant pellach sydd ar gael i mi.
Teimlaf fod y cyfuniad o’m sgiliau a’m profiadau yn fy ngwneud yn ymgeisydd delfrydol ar gyfer swydd o fewn eich sefydliad.
Edrychaf ymlaen at glywed gennych.
Yr eiddoch yn gywir
John Smith
Dogfennau
Gweld mwy
Bydd yr esiampl llythyr cais yma'n addas pan ydych yn ymgeisio am eich swydd gyntaf.
Bydd yr esiampl llythyr cais yma'n addas pan fyddwch yn dychwelyd nôl i'r gwaith ar ôl cyfnod ffwrdd o weithio.
Bydd y llythyr cais yma'n addas pan fyddwch yn ystyried newid gyrfa.
Gwnewch argraff gyntaf dda yn eich e-bost neu lythyr eglurhaol gyda'n cymorth ni.