Llythyr cais enghreifftiol - swydd gyntaf
Mae'r llythyr cais yma yn tynnu sylw at ba swydd rydych chi'n ymgeisio amdani a'ch sgiliau a'ch rhinweddau allweddol.
Byddai'r llythyr cais yma'n ddefnyddiol pan fyddwch chi'n gwneud cais am eich swydd gyntaf.
Olivia Morgan
139 Stryd Thomson
Casnewydd
NP69 6ZY
Ffôn: 01633 988444
Ebost: olivia.morgan@newmail.com
25 Ionawr 2023
Ms Jackie Spencer
Rheolydd
Salon Gwallt The Little Boutique
36-38 Stryd Fawr
Casnewydd
NP12 1RS
Annwyl Ms Spencer
Rwy'n ysgrifennu i wneud cais am swydd Steilydd Iau, a welais yn cael ei hysbysebu yn ffenestr eich siop ac ar Facebook.
Yn ddiweddar, rwyf wedi cwblhau Diploma lefel 3 mewn Gwallt a Harddwch yn y coleg. Rwyf nawr yn awyddus i ddechrau gweithio ac adeiladu ar fy sgiliau presennol. Mae gen i brofiad o dorri, lliwio a steilio ac rwyf wedi gweithio yn y salon sydd ar safle’r coleg ers 2 flynedd. Es i ar leoliad i salon lleol yn ystod fy nghwrs lle datblygais fy sgiliau ymhellach. Rwyf hefyd yn gwirfoddoli i elusen leol, lle, o dan oruchwyliaeth, rwyf wedi torri gwallt ffoaduriaid lleol. Mae hyn yn dangos fy mod i’n gweithio'n galed, yn ddibynadwy ac yn barod i fynd yr ail filltir.
Rwyf wedi datblygu sgiliau gweithio mewn tîm, cyfathrebu a thrin arian parod da trwy fy ngwaith rhan-amser mewn siop ddillad.
Rwy’n credu bod gennyf y sgiliau a’r rhinweddau i ddysgu mwy a dod yn rhan werthfawr o’ch tîm. Amgaeaf fy CV/cais sy’n cynnwys mwy o wybodaeth.
Diolch am ystyried fy nghais. Gobeithiaf glywed gennych yn fuan.
Yr eiddoch yn gywir
Olivia Morgan
Dogfennau
Gweld mwy
Bydd yr esiampl llythyr cais yma'n addas pan fyddwch yn dychwelyd nôl i'r gwaith ar ôl cyfnod ffwrdd o weithio.
Bydd y llythyr cais yma'n addas pan fyddwch yn ystyried newid gyrfa.
Bydd y llythyr cais yma'n addas pan fyddwch chi'n ysgrifennu at gwmni i ofyn yn ddyfaliadol am gyfleoedd gwaith.
Gwnewch argraff gyntaf dda yn eich e-bost neu lythyr eglurhaol gyda'n cymorth ni.