Gweld ein 10 ffordd wych i ddod o hyd i gwmni i weithio iddo
Peiriannau chwilio am swyddi ar-lein
Y ffordd amlwg i ddod o hyd i swyddi gwag yw defnyddio gwefannau swyddi ar-lein (bydd rhai o'r rhain yn ddolenni Saesneg yn unig), fel Indeed, Reed, Monster ac Find a job, gweld ein tudalen gwefannau swyddi i weld mwy o safleoedd swyddi.
Ond gallwch hefyd ddefnyddio gwefannau swyddi ar-lein i’ch mantais hyd yn oed os na allwch ddod o hyd i swydd sy’n addas i chi. Gwnewch nodyn o enwau a manylion cyflogwyr y mae gennych ddiddordeb ynddyn nhw. Yna, gallwch gysylltu’n uniongyrchol â nhw gyda’ch CV ac e-bost/llythyr yn egluro eich sgiliau a’ch profiad. Os ydyn nhw’n hysbysebu un swydd, mae’n bosibl y bydd ganddyn nhw swyddi sydd heb eu hysbysebu.
Gwefannau cyflogwyr
Mae nifer o gyflogwyr yn dal i recriwtio drwy eu gwefannau eu hunain. Felly, mae angen i chi wybod sut i’w canfod.
Mae peiriannau chwilio am swyddi ar-lein yn ffordd dda o ganfod cyflogwyr a’u gwefannau. Mae cyflogwyr mawr fel y GIG a Chynghorau hefyd yn hysbysebu ar eu gwefannau eu hunain.
Defnyddiwch gyfeiriaduron busnes lleol ar-lein
Mae Cyfeiriaduron Busnes Ar-lein yn aml ar gael ar wefannau cynghorau ac mae eraill ar gael ar wefannau ar wahân.
Gall Cyfeiriaduron Busnes Lleol Ar-lein roi rhestrau i chi o’r cwmnïau yn eich ardal leol, gan roi mynediad i chi i’w manylion cyswllt, fel y gallwch gysylltu â nhw i ofyn am swydd.
Dechreuwch chwilio ar Cyfeiriadur Busnes Ar-lein Busnes Cymru.
Chwilio am gwmnïau drwy sefydliadau masnach, cymdeithasau neu ffederasiynau
Wrth edrych am yrfa benodol mewn diwydiant penodol, mae defnyddio gwefannau sefydliadau a masnach yn ffordd wych o ganfod cyflogwyr posibl. Cewch wybodaeth am yrfaoedd penodol, gan gynnwys dolenni i rai o sefydliadau a chymdeithasau sectorau ar Gwybodaeth am Swyddi.
Gallwch hefyd chwilio am sefydliadau sy’n gysylltiedig â math penodol o grefft neu ddiwydiant drwy’r rhyngrwyd: y geiriau allweddol i’w defnyddio yn y peiriant chwilio - ‘Sector’ + ‘Sefydliad neu Ffederasiwn neu Gymdeithas’ + DU, er enghraifft - Peirianneg + Sefydliad + DU. Bydd hyn yn rhoi rhestrau o Sefydliadau Peirianneg i chi. Bydd gan rai o’r gwefannau hyn fynediad am ddim i gyfeiriaduron o’u haelodau. Gallwch gysylltu â’r cwmnïau yr hoffech weithio iddyn nhw, neu weld eu gwefannau ar gyfer unrhyw swyddi sy’n cael eu hysbysebu. Os nad ydych chi'n siŵr pa fath o swydd sydd o ddiddordeb i chi eto rhowch gynnig ar ein Cwis Paru Gyrfa i gael syniadau.
Darllenwch yr adrannau busnes a chyllid yn eich papurau newydd lleol naill ai ar-lein neu’r fersiynau papur
Mae hyn yn ffordd wych o ganfod pa gwmnïau sy’n ehangu yn eich ardal, neu sy’n symud i’ch ardal. Mae’n bosibl i chi hyd yn oed ganfod enw cyswllt mewn erthygl bapur newydd er mwyn gwybod pwy i gysylltu â nhw. Yna gallwch ddefnyddio’r chwiliadur ar-lein i ganfod mwy am y cwmni neu i weld a oes ganddo unrhyw swyddi ar ei wefan.
Cael mynediad i wefannau arbenigol – edrychwch am wefannau arbenigol wrth i chi chwilio am swyddi
Yna gallwch gadw cofnod o’r rheini sydd o ddiddordeb i chi a dychwelyd atyn nhw yn ddiweddarach.
Mae’r enghreifftiau o wefannau arbenigol yn cynnwys:
- Fast Growth 50 sy’n rhestru’r 50 cwmni sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Gan eu bod yn gwmnïau sy’n tyfu, mae’n bosibl y byddan nhw’n recriwtio a gallech ddechrau eich e-bost/llythyr eglurhaol atyn nhw gan ddweud sut wnaethoch chi ddod o hyd i’r cwmni neu’r swydd wag (dolen Saesneg yn unig)
- Gofalwn.Cymru - swyddi gwag mewn gofal
- FE jobs – swyddi mewn colegau ledled y DU (dolen Saesneg yn unig)
Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol
Gall y Cyfryngau Cymdeithasol fod yn ffordd wych o wneud cysylltiadau a chanfod gwaith.
Gofynnwch am gyngor ar sut i ddod o hyd i waith drwy wefannau cyfryngau cymdeithasol fel LinkedIn, Facebook a Twitter. Dysgwch sut i gael y presenoldeb cywir ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae gan asiantaethau recriwtio wefannau eu hunain sy’n hysbysebu swyddi
Mae nhw hefyd yn hysbysebu drwy wefannau swyddi ar-lein mawr. Darganfyddwch fwy am asiantaethau recriwtio.
Swyddi i raddedigion
Ceir amrywiaeth o leoedd i chwilio am swyddi i raddedigion:
- Hysbysfyrddau swyddi prifysgolion – cysylltwch â gwasanaeth gyrfaoedd eich prifysgol
- Gwefannau swyddi i raddedigion
- Gwefannau swyddi ar-lein
- Gwefannau cyflogwyr – os ydych yn gwybod am gyflogwr yr hoffech weithio iddo, edrychwch ar ei wefan a chwiliwch am gyfleoedd i raddedigion
- Civil Service (dolen Saesneg yn unig)
Prentisiaethau
Ceir 3 prif ffordd o ganfod prentisiaethau gwag:
- Defnyddio Chwilio am Brentisiaeth
- Chwiliwch am Gyflogwyr sy’n cynnig Prentisiaethau a mynd yn uniongyrchol i’w gwefannau
- Mae gwefannau swyddi ar-lein hefyd yn hysbysebu rhai prentisiaethau
Peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun
Mae digon o bobl sydd eisiau eich helpu i ddod o hyd i waith, felly gallwch chi:
- Ymuno hefo clwb swyddi lleol
- Trefnu cyfweliad gyda Chynghorydd Gyrfa i gael rhagor o gymorth - cysylltwch â ni neu ewch i Ganolfan Gyrfa leol i gael rhagor o gymorth
Gallwch ddod o hyd i swyddi sydd ddim ar-lein hefyd
- Holwch eich cysylltiadau. Gofynnwch i bawb rydych yn eu hadnabod am unrhyw gwmnïau maen nhw wedi clywed amdanynt, a chysylltwch â nhw. Os ydych yn teimlo’n ansicr am sut i gysylltu â chwmnïau, defnyddiwch ein hawgrymiadau ar gyfer ysgrifennu llythyrau/e-byst i greu argraff, a ffonio i holi am swyddi
- Hysbysebion yn ffenestri cwmnïau. Mae rhai cyflogwyr yn dal i hysbysebu drwy roi hysbyseb yn eu ffenestri neu ar hysbysfyrddau
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.

Darganfyddwch sut i ddefnyddio Facebook, Twitter a LinkedIn i ddod o hyd i swyddi yn eich ardal chi.

Cewch wybod beth mae asiantaethau recriwtio yn ei wneud, ble mae dod o hyd iddynt, a pham mae'n werth cofrestru.

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra'n gweithio a chael cyflog. Dysgwch fwy am brentisiaethau, chwiliwch am swyddi gwag a mwy.

Dysgwch am gymorth i'ch helpu i gael gwaith os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd.