Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Gwaith asiantaeth recriwtio

Mae ymuno ag asiantaeth recriwtio yn gallu eich cyflwyno i swyddi nad ydynt wedi'u hysbysebu ar-lein a'ch cynorthwyo i gael profiad gwaith hollbwysig.

Bydd mwy a mwy o swyddi'n cael eu hysbysebu drwy asiantaethau yn y blynyddoedd i ddod, felly peidiwch â cholli cyfle.

Beth yw asiantaethau recriwtio?

Mae asiantaethau recriwtio yn paru unigolion sy'n chwilio am swydd â swyddi addas sy'n cael eu hysbysebu ganddyn nhw. Mae cyflogwyr yn cofrestru ag asiantaethau i chwilio am weithwyr ac fe allwch chi gofrestru gydag asiantaeth i ddod o hyd i waith.

Mae'r mathau o asiantaethau yn cynnwys:

  • Asiantaethau sy'n arbenigo mewn meysydd gwaith megis adeiladu, technoleg gwybodaeth, nyrsio a swyddi gofal iechyd eraill. Os oes gennych sgil, crefft neu gymwysterau arbennig, chwiliwch ar-lein am yr asiantaethau sy'n cynnig y math hwn o waith
  • Asiantaethau sy'n hysbysebu swyddi gwag mewn amrywiol feysydd gwaith. Ambell waith, mae'r asiantaethau hyn hefyd yn arbenigo mewn swyddi lleol. Chwiliwch ar-lein am asiantaethau cyflogaeth ac ychwanegwch eich cod post neu dref

Pam mae cyflogwyr yn defnyddio asiantaethau

Mae cyflogwyr yn defnyddio asiantaethau oherwydd:

  • Mae'n ffordd di-drafferth a sydyn i ddod o hyd i'r ymgeisydd cywir - yr asiantaeth sy'n mynd trwy'r ceisiadau iddynt ac yn paru y person cywir gyda'r cyflogwyr a'r swydd
  • Weithiau dim ond swydd dros dro sydd angen ei llenwi
  • Nid oes arian ganddyn nhw i gyflogi rhywun yn barhaol, ond mae ganddyn nhw waith sydd angen ei wneud

Beth yw'r manteision i chi?

Mae asiantaethau yn gallu cynnig gwaith dros dro i chi, er enghraifft, wythnos fel derbynnydd gyda un cyflogwr ac yna wythnos arall gyda chyflogwr gwahanol.

Ambell waith, mae asiantaethau yn hysbysebu swyddi y mae angen eu llenwi'n gyflym. Ni fyddwch yn gweld y swyddi hyn ar-lein, a dim ond y bobl ar eu llyfrau fydd yn clywed amdanynt.

Manteision gwaith dros dro:

  • Cael eich troed yn y drws mewn cwmni neu ddiwydiant a allai arwain at waith llawn amser yn y dyfodol
  • Cael profiad gwaith i’w roi ar eich CV, hyd yn oed os yw’r gwaith dros dro mewn maes gwahanol i’r yrfa o’ch dewis
  • Cyfle i roi cynnig ar rywbeth gwahanol, sy’n gallu eich helpu i benderfynu a yw'n iawn i chi

Cofiwch! Mae asiantaethau yn hysbysebu swyddi gyda chytundebau hirach a hyd yn oed swyddi llawn amser hefyd.

Eich hawliau fel gweithiwr asiantaeth

Mae yna gyfreithiau penodol i'ch amddiffyn chi pan fyddwch chi’n gweithio drwy asiantaeth.  Mae Arolygiaeth Safonau Asiantaethau Cyflogaeth (EAS) yn gorfodi'r deddfau hyn, fel rheolydd asiantaethau cyflogaeth a busnesau cyflogaeth. Os oes angen eu help arnoch, ewch i wefan EAS (Saesneg yn unig).

Eich camau nesaf

Cofrestrwch ag asiantaeth i osgoi colli cyfleoedd. (Efallai y bydd rhai o'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gwefannau Swyddi

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.

Creu CV

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.

Technegau cyfweld

Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.

Cymorth Cyflogaeth

Dysgwch am gymorth i'ch helpu i gael gwaith os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd.