Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i chwilio am swyddi

Mae cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio fwyfwy gan gyflogwyr i hysbysebu swyddi gwag.

Mae 91% o'r holl gyflogwyr yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd fel rhan o'u proses recriwtio."

StandOut CV

Bydd y gwefannau cyfryngau cymdeithasol y mae cyflogwyr yn eu defnyddio i rannu eu swyddi gwag yn dibynnu ar eu busnes. Ni fydd pob swydd ar bob safle, felly byddwch yn ymwybodol o'r gwahanol rai a ddefnyddir. Mae'r rhan fwyaf o blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn gofyn i ddefnyddwyr greu cyfrif i fewngofnodi.

Dod o hyd i swyddi yn defnyddio Facebook

Ar Facebook, gallwch gysylltu â phobl eraill. Gallwch ymuno â grwpiau a chysylltu â chyflogwyr a sefydliadau.

Ar Facebook gallwch gysylltu â phobl, grwpiau a sefydliadau eraill.

Mae pobl yn aml yn defnyddio Facebook i rannu gwybodaeth gyda theulu a ffrindiau. Gall defnyddwyr bostio sylwadau, rhannu lluniau, fideos a dolenni i swyddi eraill.

Dewch o hyd i swyddi ar Facebook drwy:

  • Ddefnyddio'r bar chwilio. Teipiwch 'Swyddi ar Facebook' a bydd grwpiau yn eich ardal yn ymddangos, er enghraifft 'Swyddi ym Mangor', 'Swyddi gwag yng Ngogledd Cymru'. Gallwch ddewid dilyn, ymuno neu hoffi'r grwpiau hyn a gweld y swyddi gwag diweddaraf
  • Chwilio am gyflogwyr a chwmnïau penodol. Gallwch hoffi neu ddilyn eu tudalen i weld eu postiadau ar eich porthiant cartref. Gallwch chi ddiweddaru'ch gosodiadau i reoli'r hysbysiadau a'r postiadau a welwch.
    Mae hon yn ffordd dda o ddod o hyd i swyddi gwag ond mae hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn y mae'r cwmni'n ei wneud, a fydd yn ddefnyddiol os byddwch yn cael cyfweliad gyda nhw
  • Dilynwch dudalennau unrhyw asiantaethau recriwtio lleol sy'n postio'r mathau o swyddi sydd o ddiddordeb i chi
  • Gallwch ysgrifennu neges ar eich llinell amser eich hun i roi gwybod i'ch ffrindiau, eich teulu a'ch cysylltiadau eich bod chi’n chwilio am waith. Efallai eu bod yn gwybod am swyddi y gallan nhw roi gwybod i chi amdanyn nhw. Gofynnwch i'ch cysylltiadau mae'n ffordd wych o ddod o hyd i waith
     
Show more

Dod o hyd i swyddi yn defnyddio LinkedIn

Mae LinkedIn yn canolbwyntio ar gyflogaeth ac yn gadael i chi adeiladu hunaniaeth broffesiynol. Gallwch rwydweithio ag eraill, chwilio am swyddi, gwneud cysylltiadau busnes a rhannu eich proffil proffesiynol.

Mae gan LinkedIn adran swyddi lle gallwch chwilio am swyddi. Gallwch hefyd roi gwybod i bobl eich bod yn chwilio am waith drwy ddewis 'agored i ddod o hyd i swydd newydd' (‘open to finding a new job’) yn eich proffil.
Adeiladwch eich rhwydwaith LinkedIn a'r hyn rydych chi’n ei weld ar eich hafan drwy wneud cysylltiadau. Gwnewch hyn drwy:

  • Ymuno â grwpiau cyn-fyfyrwyr ysgol, coleg neu brifysgol
  • Cysylltu â chydweithwyr presennol a blaenorol
  • Ymchwilio i gwmnïau y mae gennych ddiddordeb ynddynt a'u dilyn
  • Chwilio am ac ymuno â grwpiau sy'n ymdrin â phynciau o ddiddordeb

Mae creu eich proffil LinkedIn fel gwneud CV ar-lein. Defnyddiwch ef i amlygu eich sgiliau a'ch profiad a gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ddiweddaru. Mae penawdau LinkedIn yn awgrymu'r wybodaeth y mae angen i chi ei gynnwys.
 

Ewch i Creu CV os oes angen syniadau arnoch. Cymerwch y Cwis Buzz i'ch helpu i nodi eich cryfderau ar gyfer eich proffil LinkedIn.

Show more

Dod o hyd i swyddi yn defnyddio X

Mae X, a elwid gynt yn Twitter, yn sianel newyddion a rhwydweithio cymdeithasol ar-lein.

Gallwch ddefnyddio X i bostio, i roi sylwadau, i ail-bostio ac i garu neges. Gan ddefnyddio'r bar chwilio gallwch ddod o hyd i restr o gwmnïau sy'n hysbysebu. Er enghraifft, chwiliwch am 'Swyddi yn Abertawe' neu defnyddiwch hashnod #jobsinmidwales

Mae'r cynnwys ar X yn symud yn gyflym iawn. Manteisiwch i'r eithaf ar X trwy bostio'n rheolaidd.


Dod o hyd i swyddi ar X drwy:

  • Ddilyn cyflogwyr, safleoedd swyddi neu recriwtwyr sydd o ddiddordeb i chi
  • Chwilio am gyfrifon ar wahân y gallai sefydliadau mwy eu defnyddio ond i rannu eu swyddi gwag
  • Dilyn eich cyfrif Canolfan Byd Gwaith lleol
  • Defnyddio hashnodau i gyfyngu ar eich chwiliad, er enghraifft #jobsinwales #jobsinGwynedd #jobsinconstruction #healthjobs

Mae adeiladu eich rhwydwaith eich hun ar X yn cymryd amser ac ymdrech. Cymryd rhan mewn sgyrsiau drwy:

  • Hoffi swyddi diddorol ac ateb
  • Ail-bostio cynnwys diddorol gan sefydliadau a sôn am gyfrifon eraill gan ddefnyddio eu henw proffil @
  • Dilyn ac ymgysylltu â ffrindiau a phobl rydych wedi gweithio gyda nhw
  • Cymryd rhan mewn sgyrsiau X. Mae'r rhain yn digwydd yn rheolaidd ac yn defnyddio hashnod penodol. Dewch o hyd i rai sy'n ymwneud â swyddi neu bynciau sydd o ddiddordeb i chi

Mae gan y Ganolfan Byd Gwaith gyfrifon sy'n trydar swyddi gwag a gwybodaeth chwilio am swyddi ddefnyddiol sy'n cynnwys pob rhanbarth yng Nghymru. Dilynwch y cyfrifon yn eich ardal. Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn tueddu i bostio ar yr un pryd bob wythnos, ond gallwch chwilio amdanynt a dod o hyd iddynt ar unrhyw adeg.

Tabl o gyfrifon Twitter y Ganolfan Byd Gwaith a hashnodau rhanbarthol defnyddiol
Awdurdod LleolCyfrif Twitter JCPHashnod Awr Adolygu Dydd Gwener 11am i 12pm (yn Saesneg)Hashnod sbotolau lleol a'r diwrnod ac amser y mae’r trydariadau yn cael eu postio (yn Saesneg)
Abertawe@JCPinSwanseaBay#SBayReview#SpotlightSwansea
Monday 11am
Blaenau Gwent@JCPinSEWales#TheSEWalesReview
#BlaenauGwentJobs
#SpotlightBG
Tuesday 2pm
Bro Morgannwyg
@JCPinSEWales
#TheSEWalesReview
#ValeJobs
#SpotlightCardiffVOG
Thursday 2pm
Caerdydd@JCPinSEWales#TheSEWalesReview
#CardiffJobs
#SpotlightCardiffVOG
Thursday 2pm
Caerffili@JCPinSEWales#TheSEWalesReview
#CaerphillyJobs
#SpotlightCaerphilly
Tuesday 11am
Casnewydd@JCPinSEWales#TheSEWalesReview
#NewportJobs
#SpotlightNewport
Thursday 11am
Castell-nedd Port Talbot@JCPinSwanseaBay#SBayReview#SpotlightNeath
Tuesday 11am
#SpotlightPT
Wednesday 11am
Ceredigion@JCPinWestWales#TheWestWalesReview#SpotlightCeredigion
Thursday 11am
Conwy@JCPinNWWales#TheNWWalesReview#SpotlightConwy
Wednesday 2pm
Gwynedd@JCPinNWWales#TheNWWalesReview#SpotlightGwynedd
Tuesday 2pm
Merthyr Tudful@JCPinSEWales#TheSEWalesReview
#MerthyrTydfilJobs
#SpotlightMerthyr
Monday 2pm
Pen-y-bont ar Ogwr@JCPinSwanseaBay#SBayReview#SpotlightBridgend
Thursday 11am
Powys@JCPinNEMidWales#NEMidWalesReview#SpotlightPowys
Thursday 2pm
Rhondda Cynon Taf@JCPinSEWales#TheSEWalesReview
#RCTJobs
#SpotlightRCT
Monday 11am
Sir Ddinbych@JCPinNEMidWales#NEMidWalesReview#SpotlightDenbighshire
Tuesday 2pm
Sir Fynwy@JCPinSEWales#TheSEWalesReview
#MonmouthshireJobs
#SpotlightMonmouthshire
Wednesday 2pm
Sir Gaerfyrddin@JCPinWestWales#TheWestWalesReview#SpotlightCarms
Wednesday 11am
Sir Penfro@JCPinWestWales#TheWestWalesReview#SpotlightPembs
Tuesday 11am
Sir y Fflint@JCPinNEMidWales#NEMidWalesReview#SpotlightFlintshire
Wednesday 2pm
Torfaen@JCPinSEWales#TheSEWalesReview
#TorfaenJobs
#SpotlightTorfaen
Wednesday 11am
Wrecsam@JCPinNEMidWales#NEMidWalesReview#SpotlightWrexham
Monday 2pm
Ynys Mon@JCPinNWWales#TheNWWalesReview#SpotlightAnglesey
Monday 11am

Mae @JCPyngNghymru yn gyfrif Twitter Y Ganolfan Byd Gwaith sy'n trydar yn y Gymraeg ar gyfer pob rhanbarth.

Mae adeiladu eich rhwydwaith eich hun ar Twitter yn cymryd amser ac ymdrech. Mae pobl yn rhannu meddyliau a chynnwys diddorol am wahanol ddiwydiannau. Dechreuwch drwy ddod o hyd iddyn nhw a'u dilyn.

Cymerwch ran mewn sgyrsiau drwy:

  • Hoffi trydariadau diddorol a thrydar ateb
  • Aildrydar cynnwys diddorol gan sefydliadau a sôn am gyfrifon eraill gan ddefnyddio eu henw proffil @
  • Dilyn ac ymgysylltu â ffrindiau a phobl rydych chi wedi gweithio gyda nhw
  • Cymryd rhan mewn sgyrsiau Twitter. Mae'r rhain yn digwydd yn rheolaidd ac yn defnyddio hashnod penodol. Dewch o hyd i rai sy'n rhoi sylw i swyddi neu bynciau sydd o ddiddordeb i chi
Show more

Dod o hyd i swyddi yn defnyddio TikTok

Mae Tik Tok yn blatfform rhannu fideos. Gall defnyddwyr wylio, creu, golygu a rhannu fideos.

Gall creu fideo syml i'w rannu fod yn ffordd dda o rannu eich sgiliau a'ch gwybodaeth â chynulleidfa fwy, gan gynnwys darpar gyflogwyr.

Yn y bar chwilio gallwch chwilio am swyddi yn eich ardal neu chwilio am swyddi penodol, er enghraifft ‘Swyddi mewn Iechyd yng Ngorllewin Cymru’ i weld beth sy’n ymddangos.

Gyda miliynau o fideos yn cael eu rhannu, efallai y bydd dod o hyd i waith trwy Tik Tok yn cymryd peth amser. Ceisiwch ddilyn cyfrifon cydnabyddedig neu gwmnïau dibynadwy.

Show more

Pethau i'w cofio wrth ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol


Pan fyddwch chi'n defnyddio gwahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'ch presenoldeb cymdeithasol ar-lein.

Mae cyflogwyr yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i greu darlun o ddarpar weithwyr. Gallant benderfynu peidio â chynnig swydd i rywun os ydynt yn gweld rhywbeth ar broffil y person hwnnw nad ydynt yn cytuno ag ef.cyfryngau cymdeithasol.

Mae 21% o recriwtwyr yn cyfaddef eu bod wedi gwrthod ymgeisydd ar ôl edrych ar eu proffil Facebook”StandOut CV

Ein prif gynghorion wrth ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol

  • Ystyriwch gael cyfrifon ar wahân, un cymdeithasol ar gyfer rhannu gyda theulu a ffrindiau, a'r llall yn broffil proffesiynol. Mae Facebook yn caniatáu i chi gael un cyfrif a phedwar proffil gwahanol. Gall eich proffil proffesiynol gael ei ddefnyddio i chwilio am swyddi a'ch galluogi i greu brand proffesiynol i chi'ch hun i’w rhannu â darpar gyflogwyr
  • Os mai dim ond un cyfrif sydd gennych ar gyfer chwilio cymdeithasol a gwaith, byddwch yn ymwybodol o'r hyn rydych yn ei rannu. Dylech ddewis proffil a llun clawr da sy'n adlewyrchu pwy ydych chi er mwyn creu argraff dda. Osgowch bostio unrhyw beth na fyddech am i ddarpar gyflogwr ei weld
  • Gwiriwch eich gosodiadau preifatrwydd. Gallwch chi reoli pwy all weld eich gwahanol bostiadau
  • Cadwch eich cyfrifon yn weithredol gyda phostiadau a sylwadau cyfredol. Ysgrifennwch a rhannwch bethau diddorol. Defnyddiwch y sianeli sy'n gweithio i chi yn unig. Gall diweddaru pob un ohonynt gymryd amser
  • Dod o hyd i bobl a chysylltu â nhw i gael gwybod am swyddi Dilyn cyrff sector o ddiwydiannau y mae gennych ddiddordeb mewn gweithio iddynt, er enghraifft
  • Gwnewch sylwadau cwrtais a phriodol ar unrhyw bostiadau. Ceisiwch ychwanegu gwerth at yr hyn sy'n cael ei rannu
  • Byddwch yn ymwybodol o gyfrifon ffug. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymchwilio i'r cwmni i sicrhau ei fod yn swydd wag go iawn a dilys

Archwilio

Gwefannau Swyddi

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.

Swyddi Dyfodol Cymru

Archwiliwch ranbarthau a diwydiannau Cymru. Dysgwch pa swyddi y gallech eu gwneud, nawr ac yn y dyfodol.