Croeso i’n bwletin swydd! Bydd y bwletin swydd yma’n rhoi mynediad ichi i swyddi cyfredol byw ledled Cymru.
Yn ystod y cyfnod anodd hwn mae amrywiaeth eang o swyddi ar gael ledled Cymru. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r cyfleoedd sydd ar gael a gwneud cais am swyddi.
(Mae’r rhestrau swyddi mewn Saesneg yn unig gan fod hwn yn brosiect peilot.)
Cofrestrwch ar gyfer ein bwletin swydd a byddwn yn anfon swyddi sy’n cyfateb yn syth i'ch mewnflwch. Byddwch yn derbyn:
- Swyddi gwag personol sy'n cyfateb i'ch dewisiadau o swyddi
- Y 50 swydd agosaf at eich lleoliad
Tanysgrifiwch i’r Bwletin Swydd er mwyn cael diweddariad wythnosol o’r swyddi sydd fwyaf addas i chi.
Edrychwch ar gyflogwyr sy'n recriwtio nawr i ddod o hyd i gyfleoedd cyfredol yng Nghymru.
Os ydych yn gyflogwr sy’n awyddus i recriwtio ac am i ni ychwanegu eich swyddi gwag at ein bwletin swyddi, anfonwch e-bost i swyddigwag@gyrfacymru.llyw.cymru gyda’r manylion a dolen i’r hysbyseb swydd, lle y bo’n bosibl.
Cael help i wneud cais am swyddi
Cael help a chefnogaeth ar ein gwefan i:
- Ysgrifennu CV buddugol (yn cynnwys templedi CV ac esiamplau o CVs)
- Wneud eich ffurflen gais am swydd y gorau y gall fod
- Wella eich technegau cyfweld (ac awgrymiadau ar gyfer cyfweliadau fideo a ffôn)
- Baratoi ar gyfer asesiadau
- Greu llythyr cais neu e-bost
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.

Darganfyddwch 10 ffordd wych o ddod o hyd i gwmni i weithio iddo.

Darganfyddwch sut i ddefnyddio Facebook, Twitter a LinkedIn i ddod o hyd i swyddi yn eich ardal chi.