Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Cyfweliadau fideo a ffôn

Mae paratoi ar gyfer cyfweliadau fideo a ffôn yr un mor bwysig â pharatoi ar gyfer cyfweliadau wyneb-yn-wyneb.

Mathau o gyfweliadau ffôn a fideo

Gellir cynnal cyfweliadau fideo ar wahanol lwyfannau fel Teams, Zoom, Skype neu Facetime.

  • Cwestiynau a recordiwyd yn barod. Byddwch yn cael y cwestiynau hyn o flaen llaw. Byddwch yn recordio eich hun yn ateb y cwestiynau ar fideo neu ffôn. Efallai byddwch yn gorfod eu hateb o fewn amser penodedig
     
  • Cwestiynau byw. Mae'n debyg i gyfweliad wyneb-yn-wyneb ble byddwch yn gwrando ar y cyfwelydd yn gofyn y cwestiynau cyn ateb

Paratoi ac ymarfer

Mae ymchwilio'r cwmni ac ail-ddarllen eich CV a ffurflen gais yn rhai o'r ffyrdd y gallwch ei wneud cyn cyfweliad. Dewch o hyd i gymorth am dechnegau cyfweld a sut i Cwestiynau ac atebion cyfweliad swydd.

Mae cyfweliad a recordiwyd yn barod yn ffordd wych i chi ymarfer o flaen llaw. Wrth ymarfer, dywedwch eich atebion allan yn uchel os yn bosibl. I gael adborth gofynnwch wrth aelod o'r teulu neu ffrind i'ch ffonio i wrando arnoch.


Rhestr wirio cyfweliadau fideo

Cyn y cyfweliad fideo:

  • Neilltuwch amser cyn y cyfweliad i drefnu’r cyfarpar

Mae’r manylion yn bwysig:

  • Darllenwch y manylion. Ydy nhw'n eich ffonio ar fideo, os felly a oes gennych y ddolen neu gyfrinair i gysylltu? Ymunwch â’r fideo ychydig o funudau cyn cychwyn y cyfweliad
  • Sicrhewch bod eich enw defnyddiwr ar y platform fideo (er enghraifft, Teams, Zoom, Skype, Facetime) yn broffesiynol
  • Gwisgwch yn broffesiynol. Dylech wisgo fel petaech chi mewn cyfweliad wyneb-yn-wyneb. Efallai y bydd gofyn i chi sefyll i addasu’r golau neu gamera. Ceisiwch osgoi dillad patrymog neu streipiog

Lleoliad, goleuadau a chefndir:

  • Gwnewch yn siŵr bod y goleuadau a’r cefndir yn addas. Golau naturiol o ffenestr neu o lamp y tu ôl i’r camera sydd orau
  • Dewiswch leoliad tawel, lle na fydd ymyriadau
  • Byddwch yn ymwybodol o'r cefndir yn y fideo. Ceisiwch eistedd gyda wal tu ôl i osgoi ymyriadau. Gwnewch yn siŵr bod yr ardal tu ôl i chi yn daclus

Offer electronig:

  • Gwnewch yn siŵr bod y camera, yr offer sain a’r meddalwedd yn gweithio. Gwiriwch eich cysylltiad â’r rhyngrwyd
  • Gwnewch yn siŵr bod eich cyfrifiadur neu’ch gliniadur gyda batri yn llawn. Sicrhewch bod y plwg yn y soced wedi’i switsio ymlaen
  • Mae’n rhaid diffodd sain pob dyfais electronig ac ap. Caewch bob meddalwedd sy’n anfon hysbysiadau

Yn ystod y cyfweliad fideo:

  • Rhowch wybod i’r cyflogwr os oes problemau technegol fel byffro, rhewi neu ansawdd y sain
  • Gwnewch nodiadau. Defnyddiwch nodiadau ar gyfer cyfeirnodau, ond peidiwch â gwneud hyn yn amlwg. Drwy edrych i lawr drwy’r amser, bydd y cyflogwr yn gwybod eich bod yn darllen nodiadau, a byddwch hefyd yn colli cyswllt llygaid â nhw
  • Cael eich CV, cais am swydd a'ch disgrifiad am yr swydd gyda chi i gyfeirio at
  • Gwnewch gyswllt llygad. Gosodwch y camera ar lefel y llygad gan edrych i’r camera ac nid ar y sgrin
  • Byddwch yn ymwybodol o iaith y corff. Peidiwch â chodi eich llaw i’ch wyneb na chwifio eich breichiau o gwmpas, a ceisiwch eistedd yn unionsyth
  • Peidiwch â siarad dros y cyfwelydd. Os oes oedi, arhoswch nes eich bod yn siŵr ei fod wedi gorffen siarad 

Ar ddiwedd y cyfweliad fideo:

  • Gofynnwch unrhyw gwestiynu sydd gennych. Bydd cwestiynau yn dibynnu ar y swydd ond er enghraifft; Faint o bobl byddaf yn gweithio gyda? Pwy fydd yn adrodd iddo? A fedrwch chi ddweud wrthaf am ddiwrnod arferol yn y swydd?
  • Gofynnwch beth sy'n digwydd nesaf. A fydd cam arall i'r broses cyfweld? Os ddim, pryd y cewch chi wybod ganlyniad y cyfweliad?
  • Diolchwch i'r cyflogwr am eu hamser ac am y cyfle
  • Gwnewch yn siwr eich bod wedi logio allan o ddolen y cyfweliad cyn siarad neu drafod

Rhestr gwirio cyfweliadau ffôn

Mae cyflogwyr sy’n gofyn i chi ffonio ynglŷn â swydd yn debygol o gynnal y cyfweliad dros y ffôn. Byddwch yn barod am hyn.

Cyn cyfweliad ffôn bydd angen:

  • Manylion hysbyseb y swydd a’r swydd-ddisgrifiad
  • Eich CV
  • Rhestr o gwestiynau yr hoffech ei ofyn ar ddiwedd y cyfweliad
  • Y rhif ffôn a rhif yr estyniad, os rhoddwyd un
  • Enw’r person neu’r adran i siarad â nhw. Os na roddwyd enw, esboniwch pam rydych yn ffonio, er mwyn cael eich trosglwyddo i’r estyniad cywir
  • Gwneud yn siŵr, os ydych yn cysylltu ar ffôn symudol, bod y batri’n llawn a’ch bod wedi ychwanegu credyd
  • Beiro a phapur gerllaw er mwyn ysgrifennu manylion er enghraifft amser, lle, enw’r person y byddwch yn ei weld, os cewch gynnig ail gyfweliad
  • I chi ysgrifennu yr hyn yr hoffech ei ddweud cyn ffonio’r cyflogwr
  • Oriawr neu gloc ar gyfer y cwestiynau sy’n cael eu hamseru

Yn ystod cyfweliad ffôn:

  • Cyfeiriwch at eich nodiadau, CV neu’r swydd-ddisgrifiad, ond peidiwch â swnio fel eich bod yn darllen sgript
  • Gwisgwch yn daclus. Byddwch yn teimlo'n hyderus a bydd yn eich rhoi mewn meddylfryd proffesiynol
  • Sefwch/ eisteddwch yn syth a gwenwch. Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n eich gweld, mae’n bosibl synhwyro gwên mewn sgwrs ffôn a bydd sefyll neu eistedd yn syth yn eich gwneud i deimlo'n hyderus
  • Byddwch yn frwdfrydig am y swydd, ac amrywiwch dôn eich llais
  • Gwrandewch yn astud, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw wedi gorffen siarad cyn i chi siarad. Peidiwch â thorri ar draws y cyfwelydd
  • Dylech gael gwydriad o ddŵr wrth eich hymyl. Pan yn nerfus mae'r ceg yn mynd yn sych
  • Gwnewch nodiadau. Ysgrifennwch nodiadau pwysig mae'r cyflogwyr yn ei ddweud, efallai y bydd yn bwysig cyfeirio yn ôl atynt os cewch ail gyfweliad

Ar ddiwedd y cyfweliad ffôn:

  • Gofynnwch unrhyw gwestiynu sydd gennych. Bydd cwestiynau yn dibynnu ar y swydd ond er enghraifft; Faint o bobl byddaf yn gweithio gyda? Pwy fydd yn adrodd iddo? A fedrwch chi ddweud wrthaf am ddiwrnod arferol yn y swydd?
  • Gofynnwch beth sy'n digwydd nesaf. A fydd cam arall i'r broses cyfweld? Os ddim, pryd y cewch chi wybod ganlyniad y cyfweliad?
  • Diolchwch i'r cyflogwr am eu hamser ac am y cyfle
  • Gwnewch yn siwr eich bod wedi dod oddi ar y ffôn cyn siarad neu drafod

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Technegau cyfweld

Darganfyddwch sut i wneud cyfweliad da gan ddefnyddio techneg STAR a chael cyngor cyfweliad ac awgrymiadau paratoi.

Creu CV

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.