Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Y camau cyntaf i hunangyflogaeth

Gall gweithio i chi'ch hun fod yn llwybr gyrfa cyffrous a llwyddiannus ond ni fydd yn addas i bawb. Dysgwch am hunangyflogaeth i'ch helpu chi i benderfynu a allai fod yn iawn i chi.

Beth yw hunangyflogaeth?

Mae hunangyflogaeth yn golygu gweithio i chi'ch hun yn hytrach nag i gyflogwr. Rydych chi'n darparu cynhyrchion neu wasanaethau yn uniongyrchol i gwsmeriaid.

Os ydych yn hunangyflogedig, chi sy'n gyfrifol am bob agwedd ar eich gwaith.

Mae pobl hunangyflogedig yn gweithio i, ac yn cael eu talu'n uniongyrchol gan, eu cwsmeriaid. Mae enghreifftiau o rolau hunangyflogedig yn cynnwys ysgrifenwyr llawrydd, ymgyngoryddion annibynnol, artistiaid, a masnachyddion fel plymwyr neu drydanwyr.

Gallwch fod yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig ar yr un pryd. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gweithio i gyflogwr ar ddiwrnodau penodol ac yn rhedeg eich busnes eich hun gyda'r nos neu ar ddiwrnodau eraill.

Allai hunangyflogaeth fod yn iawn i chi?

Manteision hunangyflogaeth

Mae bod yn hunangyflogedig yn cynnig buddion gan gynnwys:

  • Hyblygrwydd o ran pryd a ble rydych chi'n gweithio
  • Rhyddid i wneud eich penderfyniadau eich hun
  • Dilyn yr hyn rydych yn angerddol yn ei gylch a throi'ch sgiliau a'ch hobïau yn ffynhonnell incwm
Heriau a chyfrifoldebau hunangyflogaeth

Os ydych chi'n ystyried hunangyflogaeth, mae pethau i'w hystyried yn cynnwys::

  • Incwm annibynadwy, yn enwedig yng nghyfnodau cynnar y busnes. Mae eich enillion yn dibynnu ar eich gallu i ddod o hyd i gwsmeriaid sy'n talu. Efallai y bydd gennych amser gydag ychydig neu ddim incwm, sy'n gofyn am gynllunio ariannol gofalus
  • Oriau gwaith hirach, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur neu wrth geisio cychwyn eich busnes
  • Diffyg buddion. Os ydych yn hunangyflogedig, nid ydych fel arfer yn derbyn buddion cyflogai fel yswiriant iechyd, cyfraniadau ymddeoliad, absenoldeb salwch neu wyliau â thâl
  • Rheoli eich cyllid, treth, yswiriant a chyfrifoldebau cyfreithiol
Sgiliau a rhinweddau defnyddiol

Er ei bod yn bwysig cael sylfaen o sgiliau a rhinweddau defnyddiol, cofiwch y gellir datblygu a gwella llawer ohonynt dros amser.

Mae'r sgiliau a'r rhinweddau a all helpu i redeg busnes yn dda yn cynnwys:

  • Hunan-gymhelliant. Bydd angen i chi osod eich nodau eich hun, creu cynlluniau, a pharhau i ganolbwyntio ar dasgau heb i neb eich annog
  • Rheoli amser. Byddwch yn gyfrifol am drin pob agwedd ar eich busnes, felly bydd yn rhaid i chi flaenoriaethu tasgau a chwrdd â therfynau amser
  • Hyblygrwydd. Mae unigolion hunangyflogedig yn aml yn gorfod delio â newid. Mae bod yn hyblyg ac yn agored i ddysgu sgiliau newydd neu newid eich ymagwedd yn hanfodol ar gyfer llwyddiant
  • Deall gweithgareddau ariannol sylfaenol. Mae cyllidebu, anfonebu, a rheoli llif arian, yn hanfodol ar gyfer cadw'ch busnes i fynd a gwneud penderfyniadau busnes gwybodus
  • Hyrwyddo. Chi fydd yn gyfrifol am gael cwsmeriaid. Gall sgiliau rhwydweithio, gwerthu a marchnata helpu gyda hyn
  • Sgiliau cyfathrebu. Mae cyfathrebu clir yn bwysig ar gyfer delio â chleientiaid, cwsmeriaid, cyflenwyr a phartneriaid busnes posibl
  • Datrys problemau. Bydd gallu nodi problemau a dod o hyd i atebion yn eich helpu i oresgyn heriau
  • Hyder a gwydnwch. Mae hyder yn eich galluoedd a’r gallu i ddal ati pan fyddwch chi'n wynebu anawsterau yn rhinweddau pwysig. Mae angen y gallu i adlamu’n ôl o fethiant ar gyfer llwyddiant hirdymor
  • Sgiliau trefnu. Mae bod yn drefnus yn hanfodol ar gyfer rheoli eich busnes yn effeithlon
  • Angerdd ac ymrwymiad. Bydd bod â gwir angerdd am eich gwaith yn eich gwthio i wneud yr ymdrech sydd ei hangen

Gall profiad, dysgu a cheisio adborth i gyd helpu i adnabod lle y gallai fod angen i chi ddatblygu. Gall siarad â phobl eraill sy'n hunangyflogedig helpu i ddysgu o'u profiadau a phethau i'w hosgoi.


Dechrau busnes

Eich syniad busnes

Bydd angen cynnyrch neu wasanaeth y mae galw amdano ac y bydd pobl yn talu amdano.

Dylai fod yn cyfateb i'ch sgiliau a'ch diddordebau.

Meddyliwch faint fydd yn ei gostio i ddarparu eich cynnyrch neu wasanaeth. Fyddech chi angen buddsoddiad? Ystyriwch a yw'n realistig ac a fyddai'n gwneud digon o arian i chi.

Mae gan Busnes Cymru lawer o wybodaeth i’ch helpu gyda chamau cynnar dechrau a chynllunio busnes.

Sefydlu busnes

Mae strwythurau cyfreithiol gwahanol ar gyfer busnesau yn y DU. Mae gan bob un o'r rhain ei ystyriaethau treth, atebolrwydd a gweinyddu ei hun. Mae gan Busnes Cymru wybodaeth am eich rhwymedigaethau cyfreithiol a dewis statws cyfreithiol.

Mae gan Gov.uk wybodaeth am weithio i chi'ch hun sy'n cynnwys sefydlu fel masnachwr unigol a strwythurau busnes eraill lle rydych chi'n gweithio i chi'ch hun.

Gofynwch am gymorth

Mae cychwyn a rhedeg busnes yn waith caled. Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau mawr, gwnewch eich ymchwil i sicrhau eich bod yn deall eich dewisiadau a'r hyn y byddant yn ei olygu.

Mae gan Busnes Cymru lawer o wybodaeth a chefnogaeth ar gyfer hunangyflogaeth.

Cefnogir Banc Datblygu Cymru gan Lywodraeth Cymru a gall gynnig cyllid i fusnesau newydd a busnesau sy'n tyfu. Efallai y byddan nhw’n gallu helpu hyd yn oed pan na fydd benthycwyr eraill yn gallu gwneud hynny.

Cysylltwch â ni os hoffech siarad â chynghorydd gyrfa i drafod hunangyflogaeth.

Cysylltiadau defnyddiol

(Mae sawl un o'r dolenni yma yn Saesneg yn unig)

  • Gall Syniadau Mawr Cymru helpu pobl ifanc dan 25 oed i ddechrau eu busnes eu hunain
  • Mae gan Creu Sbarc wybodaeth ddefnyddiol ac mae'n cynnwys astudiaethau achos a digwyddiadau
  • Mae gan Busnes Cymru amrywiaeth o ganllawiau a chymorth busnes os ydych chi'n ystyried dechrau busnes
  • Mae Startups yn darparu llawer o wybodaeth i bobl sy'n dechrau neu'n rhedeg busnes
  • Gall The Prince’s Trust rhoi grantiau, cymorth a chyngor i ddarpar entrepreneuriaid rhwng 18 a 30 oed
  • Mae The Association of Disabled Professionals yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i bobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor, sy'n rhedeg neu sydd eisiau rhedeg eu busnes eu hunain
  • Mae Prime Cymru yn fenter sydd wedi'i hanelu at bobl dros 50 oed a gall helpu pobl sy'n ystyried hunangyflogaeth
  • Mae gan TechRound ganllawiau a syniadau cychwyn busnes
  • Mae gan y Wefan HelpwrArian gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau gyngor ar gychwyn eich busnes eich hun, gan gynnwys treth ac yswiriant pan fyddwch yn hunangyflogedig
  • Dewch i wybod mwy am weithio i chi'ch hun ar Gov.uk

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cymorth Cyflogaeth

Dysgwch am gymorth i'ch helpu i gael gwaith os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd.

Gwirfoddoli

Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill.