Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Interniaethau

Math o brofiad gwaith i fyfyrwyr prifysgol neu raddedigion yw interniaethau.

Ennill profiad sy’n berthnasol i’ch gradd

Os ydych yn astudio ar gyfer gradd, neu wedi graddio’n ddiweddar, mae interniaeth yn ffordd wych o ennill profiad sy’n berthnasol i’ch gradd.

Cafodd tua 50% o gyn interniaid a myfyrwyr lleoliad eu recriwtio i swyddi i raddedigion yn yr un sefydliad yn 2022."

(Institute of Student Employers, Tachwedd 2022)

Cwestiynau cyffredin ynglyn â interniaethau:

Pa mor hir mae interniaethau yn para?

Rhwng wythnos a 12 mis, yn dibynnu ar y diwydiant a'r cyflogwr.

Fel rhywun sydd wedi graddio, efallai y bydd gennych fwy o hyblygrwydd i dderbyn interniaeth am gyfnod hirach na phe baech yn dal i astudio.

A fydda i’n cael cyflog yn ystod interniaeth?

Yn ôl Llywodraeth y DU, os ydych yn cael eich ystyried fel gweithiwr, dylech fod yn cael eich talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Edrychwch ar hawliau cyflog interniaethau ar gov.uk. (dolen Saesneg yn unig)

Nid oes gennych hawl i dderbyn tâl os:

  • Yw’r lleoliad yn rhan o'ch cwrs prifysgol
  • Rydych chi ond yn cysgodi rhywun ac nid ydych chi'n gwneud gwaith eich hun
  • Mae eich interniaeth yn cael ei hystyried yn rôl wirfoddol
Pa ddiwydiannau sy’n cynnig interniaethau?

Mae unrhyw ddiwydiant yn gallu cynnig interniaeth, ond dyma rai o’r prif ddiwydiannau sy’n recriwtio interniaid:

  • Gwasanaethau bancio ac ariannol
  • Cyfrifyddiaeth a gwasanaethau proffesiynol
  • Cwmnïau cyfreithiol
  • Cwmnïau peirianyddol a diwydiannol
  • Manwerthu
  • Y Sector cyhoeddus
  • Cwmnïau adeiladu
Lle y gallaf ddod o hyd i a gwneud cais am interniaethau?

Gallwch chwilio am interniaethau drwy ddefnyddio peiriant chwilio, gwefannau swyddi neu LinkedIn. Bydd gofynion y cais yn amrywio yn ôl cyfle a chwmni.

Mae gan y gwefannau canlynol wybodaeth am interniaethau a chyfleoedd: (Mae'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gwirfoddoli

Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill. 

Profiad gwaith

Profiad gwaith yw ennill profiad o fywyd gwaith. Cewch wybod sut mae cael y profiad gwaith sydd ei angen arnoch i gael y swydd rydych am ei chael.

Prentisiaethau gradd

Dewch i wybod mwy am raglen prentisiaethau gradd yng Nghymru.


Cymorth a chyngor ar wneud cais

Creu CV

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.

Llythyrau Cais ac e-byst

Gwnewch argraff gyntaf dda yn eich e-bost neu lythyr eglurhaol gyda'n cymorth ni.

Technegau cyfweld

Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.