Beth yw prentisiaethau gradd?
Mae prentisiaethau gradd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Gan roi'r cyfle i gyfuno gweithio gydag astudio'n rhan-amser yn y brifysgol, mae'r prentisiaethau'n rhedeg drwy gydol y cwrs gradd, gyda phrentisiaid yn treulio rhan o'u hamser yn y brifysgol a'r gweddill gyda'u cyflogwr.
Sut maen nhw’n gweithio?
Yn union fel gyda phrentisiaethau traddodiadol, mae prentisiaid gradd yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr cyflogedig profiadol er mwyn ennill sgiliau a phrofiad ymarferol wrth dderbyn hyfforddiant allanol. Golyga hyn fod prentisiaid gradd yn cwblhau eu cwrs gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo mewn gwaith, yn ogystal â’r wybodaeth lefel uwch a ddaw gyda chymhwyster gradd. Mae’r cyflogwr yn talu cost eu cyflog ac mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cymorth gyda ffioedd dysgu’r brifysgol.
Beth yw’r manteision i gyflogwyr?
Mae prentisiaethau gradd yn hyblyg - gellir eu cynllunio o amgylch anghenion y cyflogwr a gallan nhw helpu i lenwi bylchau mewn sgiliau, wrth sgowtio am ddoniau newydd, fel ffordd o leihau costau recriwtio, er mwyn aros yn gystadleuol a helpu gyda thwf busnes. Gall busnesau o unrhyw faint yng Nghymru dderbyn prentisiaid gradd felly cofrestrwch eich diddordeb nawr i ddysgu mwy.
Pwy sy’n cael ymgeisio?
Unrhyw un yng Nghymru sy’n bodloni gofynion mynediad y brifysgol ar gyfer y brentisiaeth radd. Am ragor o wybodaeth am wneud cais am brentisiaeth gradd, cysylltwch â ni yn Gyrfa Cymru neu cysylltwch â'r prifysgolion yn uniongyrchol.
Pa brentisiaethau gradd sydd ar gael yng Nghymru?
Mae cyfleoedd ar gael yn bennaf mewn TG, peirianneg, gweithgynhyrchu uwch. Mae rhai o brifysgolion Cymru hefyd yn cynnig cyfleoedd mewn meysydd gyrfa eraill.
Ewch i dudalen prentisiaethau gradd pob prifysgol i gael gwybodaeth fanwl am y cyrsiau sydd ar gael:
- Prifysgol Abertawe (dolen Saesneg)
- Prifysgol Bangor
- Prifysgol Caerdydd
- Prifysgol Caerdydd
- Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
- Prifysgol De Cymru (Gweler hefyd eu rhaglen Rhwydwaith 75 ar gyfer cyfleoedd ychwanegol)
- Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Y Brifysgol Agored yng Nghymru (dolen Saesneg)
Mae gan UCAS (dolen Saesneg) hefyd wybodaeth am brentisiaethau gradd a phrentisiaethau gradd gwag.
Facebook: apprenticeshipscymru
Twitter: @apprenticewales