Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Prentisiaethau Uwch a Phrentisiaethau Gradd (mynediad Safon Uwch) - Cyflogwyr

Beth yw prentisiaethau uwch a phrentisiaethau gradd?

Mae angen cymwysterau Safon Uwch neu gymhwyster cyfatebol fel arfer ar gyfer Prentisiaethau uwch a Phrentisiaethau gradd.

Mae’r prentisiaethau hyn yn arwain at gymhwyster Addysgu Uwch. Gallai hyn fod yn dystysgrif/diploma Gradd Sylfaen neu Addysg Uwch (lefel 4 a 5), Gradd Baglor (lefel 6) neu hyd yn oed radd Meistr (lefel 7). Gall hefyd gynnwys cymwysterau proffesiynol sy’n berthnasol i’r diwydiant.

Cewch gyflog ac fel arfer rhoddir cymhorthdal tuag at eich ffioedd prifysgol neu eu talu’n llawn hyd yn oed.

Mae’n debygol y byddwch yn astudio’n rhan amser ac yn gweithio’n rhan amser i’ch cyflogwr. Bydd prentisiaethau yn cymryd rhwng 1 a 5 mlynedd i’w cwblhau.

Mae mwy a mwy o gyflogwyr, yn arbennig cyflogwyr mwy o faint, yn recriwtio prentisiaid uwch neu brentisiaid gradd. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn cwmni penodol, gallwch ddod o hyd i’w gwefan ar beiriant chwilio er mwyn edrych am gyfleoedd.

Cyflogwyr

Isod ceir rhai o’r cyflogwyr sy’n cynnig prentisiaethau lefel uwch neu lefel gradd:

(Mae rhai o'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)


Explore

Mynd i brifysgol

Sut i wneud cais, yn cynnwys terfynau amser, mynychu diwrnodau agored, cyllid myfyrwyr a chlirio.