Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cael gwybodaeth am gymwysterau

Yn y Deyrnas Unedig, mae'r cyfan o’r cymwysterau yn amrywio rhwng lefel mynediad a Doethuriaeth ar Lefel 8.

Mae'n bwysig gwybod pa lefel ydy cymhwyster gan ei fod yn cael ei ddefnyddio’n aml mewn:

  • Hysbysebion swyddi. Er enghraifft, 'Rhaid i ymgeiswyr fod â chymhwyster Lefel 3 perthnasol mewn gofal plant’
  • Cyrsiau coleg. Er enghraifft, 'Fel arfer, bydd angen i chi fod ac o leiaf un o'r cymwysterau Lefel 2 canlynol, Tystysgrif Gyntaf BTEC neu o leiaf bedwar TGAU gradd A* i C’

Os oes gennych yrfa mewn golwg, cofiwch edrych ar y lefel a’r math y cymhwyster sydd ei angen bob tro. I wybod mwy edrychwch ar adran ‘Sut i ddod yn’ ar y swyddi yn Gwybodaeth am Swyddi.

Gall cymwysterau fod yn wahanol rhwng Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Lefelau o gymwysterau

Mae Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (CQFW) yn disgrifio'r system gymwysterau yng Nghymru.

Mae'n helpu i ddeall a chymharu cymwysterau a dysgu.

Mae'r fframwaith yn dangos y lefelau dysgu o lefel Mynediad i'r rhai uwch (Lefel 8). Mae'r lefel yn dangos pa mor heriol yw cwrs. Po uchaf yw'r lefel, y mwyaf heriol yw'r cymhwyster.

Gwybod mwy am Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru ar wefan llyw.cymru.

Mathau o gymwysterau

Gellir dilyn y cymwysterau hyn mewn ysgolion, colegau, yn y gweithle neu yn y gymuned a chanolfannau dysgu.

Lefel mynediad

Gall Cymwysterau Lefel mynediad helpu dysgwyr i:

  • Meithrin eu sgiliau
  • Cynyddu eu gwybodaeth mewn pwnc
  • Codi eu hyder

Fe'u dyfernir ar 3 is-lefel o 1, 2 a 3, gyda lefel 3 yr anoddaf.

Edrychwch ar Gymwysterau yng Nghymru am restr wedi'i diweddaru o gymwysterau lefel mynediad.

TGAU

TGAU yw'r prif gymwysterau cyffredinol a gymerir gan bobl ifanc 16 oed, fel arfer mewn addysg amser llawn. Fe'u cynlluniwyd i roi'r sgiliau hanfodol i chi ar gyfer bywyd bob dydd ac fe'u defnyddir fel cymwysterau mynediad i swyddi, dysgu pellach neu hyfforddiant.

Mae TGAU yn gyrsiau lefel 1 neu 2 (yn dibynnu ar y radd a gyflawnwyd) ac maen nhw ar gael mewn amrywiaeth eang o bynciau academaidd a galwedigaethol.

Gellir sefyll arholiadau TGAU yn Gymraeg neu Saesneg.

Fel arfer, mae TGAU yn cael eu cyflawni mewn 2 flynedd ac yn cael eu graddio o A* i G yng Nghymru:

  • Graddau A*-C Fframwaith Credyd a Chymwysterau (FfCCh Lefel 2)
  • Graddau D-G (FfCCh Lefel 1)
  • Gradd U yw Di-ddosbarth

Mae TGAU yng Nghymru yn newid i adlewyrchu'r Cwricwlwm i Gymru. Dysgwch am y newidiadau a'r amserlen ar wefan Cymwysterau Cymru.

Graddau TGAU

Tabl yn dangos sut mae graddau TGAU A * i G yn cymharu â graddau rhif TGAU 9 i 1
Lloegr Cymru Lefel FfCChC
9 A* Lefel 2
8 A*/A Lefel 2
7 A Lefel 2
6 B Lefel 2
5 B/C Lefel 2
4 C Lefel 2
3 D/E Lefel 1
2 E/F Lefel 1
1 F/G Lefel 1
U U Diddosbarth
Lefelau UG a Safon Uwch

Fel arfer, mae Safon Uwch yn cael ei chwblhau mewn dwy flynedd ac yn cael eu graddio A* i E. Maen nhw’n cynnwys unedau Uwch Gyfrannol (UG) ac A2.

Mae nodweddion cyffredin Safon Uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cynnwys:

  • Graddau A i E ar gyfer UG
  • Graddau A* i E ar gyfer Safon Uwch
  • Mae maint y gwaith yn y lefelau UG tua hanner yr hyn sydd yn y Safon Uwch llawn
  • Caiff pob arholiad ei sefyll ar ddiwedd y cwrs (cymwysterau llinol)

Cewch wybod mwy am wahaniaethau allweddol rhwng Safonau UG a Safon Uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar wefan Gov.uk (dolen Saesneg yn unig).

Os ydych yn ystyried gwneud cais am brifysgol rhoddir gwerth rhifiadol i'ch cymwysterau a'ch graddau gan UCAS. Gallwch gael gwybod am bwyntiau tariff UCAS a defnyddio cyfrifiannell tariff UCAS i ddarganfod faint o bwyntiau y mae eich cymwysterau'n werth.

BTECs

Mae'r Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg (BTEC) yn gymwysterau galwedigaethol neu gymwysterau sy'n seiliedig ar yrfa. Maen nhw yn cyfuno dysgu ymarferol a theori ac yn rhoi gwybodaeth eang am sector.

Gellir astudio BTECs o lefel Mynediad i lefel broffesiynol (Lefel 7).

Gellir eu hastudio fel cwrs annibynnol neu ochr yn ochr â chymwysterau eraill mewn ysgolion, colegau ac yn y gweithle.

Mae 3 lefel o BTEC:

  • BTEC Cyntaf. Ar gael o lefel Mynediad i Lefel 2
  • BTEC Cenedlaethol. Ar gael o Lefel 3
  • Prentisiaethau BTEC. Ar gael o Lefel 2 i 5 mewn sectorau gwahanol

Graddau BTEC

 Mae cymwysterau BTEC yn cael eu graddio fel a ganlyn:

  • Llwyddo (Ll)
  • Teilyngdod (T)
  • Rhagoriaeth (Rh)
  • Rhagoriaeth * (Rh*)
  • Diddosbarth (U)


Yn dibynnu ar faint y cwrs, gall dysgwyr dderbyn un, dwy neu dair gradd.

Mae BTECs yn gymwys ar gyfer pwyntiau UCAS yn dibynnu ar y math o gymhwyster a'r graddau a gyflawnwyd. Maent yn cael eu derbyn gan lawer o brifysgolion ar gyfer mynediad i wahanol gyrsiau. Gwiriwch UCAS (dolen Saesneg yn unig) ar gyfer gofynion cyrsiau unigol.

Fframwawith cymwysterdau a chredyd (QCF) / Cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol (NVQ)

Mae Fframweithiau Cymwysterau a Chredyd (QCF) a Chymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) yn gymwysterau seiliedig ar waith ac maen nhw ar gael ar bob lefel. Maent yn rhoi sgiliau i chi wneud swydd benodol.

Maen nhw’n cwmpasu amrywiaeth o yrfaoedd. Maen nhw’n cael eu darparu yn y gweithle neu rywle a sefydlwyd i fod fel gweithle.

Nid ydynt yn gysylltiedig â chwrs neu raglen benodol. Mae QCF/NVQs yn cael eu rhannu'n unedau bach fel y gellir eu cyflwyno a'u hasesu'n hyblyg mewn man gwaith.

Bagloriaeth Cymru

Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru (Bacc) ar gyfer dysgwyr 14 i 19 oed yng Nghymru. Mae'n paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth, astudiaeth bellach a bywyd.

Lefelau Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru yn cael ei dyfarnu ar dair lefel:

  • Sylfaenol (Lefel 1) yn cael ei gymryd yng Nghyfnod Allweddol 4 neu Ôl-16 oed ochr yn ochr â chymwysterau galwedigaethol
  • Cenedlaethol (Lefel 2) a gymerir ochr yn ochr â TGAU neu ôl-16 ochr yn ochr â chymwysterau galwedigaethol
  • Uwch (Lefel 3) a gymerir ochr yn ochr â Safon Uwch neu gymwysterau Lefel 3 eraill. Darganfyddwch fwy am Fagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru ar wefan Cymwysterau Cymru

Does dim arholiadau gyda Bagloriaeth Cymru. Mae'r cymhwyster yn cynnwys 'Tystysgrif Her Sgiliau' ochr yn ochr â chymwysterau atodol.

Dysgwch fwy am gymhwyster Bagloriaeth Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru a Deall Bagloriaeth Cymru ar wefan Cyd Bwyllgor Addysg Cymru (CBAC).

Bydd rhai prifysgolion yn derbyn Bagloriaeth Cymru, ond mae’n bwysig i wirio gofynion mynediad pob prifysgol ar UCAS.

Defnyddiwch gyfrifiannell tariff UCAS (dolen Saesneg yn unig) i ddarganfod faint o bwyntiau UCAS yw gwerth eich cymwysterau.

Sgiliau Hanfodol Cymru

Roedd Sgiliau Hanfodol Cymru yn arfer cael eu hadnabod fel y Sgiliau Allweddol neu’r Sgiliau Sylfaenol.

Maen nhw wedi'u cynllunio i feithrin y sgiliau hynny sydd eu hangen ar ddysgwyr ar gyfer addysg bellach, cyflogaeth a bywyd. Maen nhw’n cynnwys 4 sgil allweddol:

  • Cymhwyso rhif
  • Cyfathrebu 
  • Llythrennedd digidol
  • Cyflogadwyedd 

Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ar gael o lefelau mynediad 1 - 3 a lefelau uwch 1 i 3.

Maen nhw wedi'u hanelu at bobl ifanc 14 – 19 oed mewn ysgolion a cholegau ac yn gyffredinol maen nhw’n cael eu hastudio ochr yn ochr â phynciau eraill fel TGAU, Safon Uwch neu gyrsiau galwedigaethol.

Ewch i wefan Cymwysterau Cymru am fwy o fanylion am Gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Tystysgrifau Addysg Uwch (CertHE)

Mae Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE) yn gymhwyster addysg uwch sy’n cael ei gynnig yn y DU. Mae'n gymhwyster annibynnol cydnabyddedig.

Mae graddau tystysgrifau Addysg Uwch yn gyfwerth â chymhwyster lefel 4 ac mae’n gallu cymryd blwyddyn (amser llawn) neu ddwy flynedd (rhan amser) i'w cwblhau.

Rhaid i fyfyrwyr gael o leiaf 120 o gredydau i ennill y cymhwyster. Mae credydau yn seiliedig ar bob modiwl unigol sy’n cael eu cymryd yn y pwnc.

Mae cwblhau Tystysgrif Addysg Uwch yn gallu arwain at ail flwyddyn o Radd Sylfaenol addas neu raglen radd anrhydedd.

Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNCs) / Diplomas (HNDs)

Mae Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNC) a Diplomas Cenedlaethol Uwch (HND) yn gyrsiau sy’n berthnasol i waith a gellir eu hastudio mewn colegau a phrifysgolion. Maen nhw’n rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr i weithio mewn swydd neu mewn sector benodol.

HNC

Mae HNC yn gymhwyster lefel 4 ac mae'n cymryd blwyddyn yn amser llawn i'w gwblhau a dwy flynedd yn rhan amser. Mae HNC yn gallu arwain at radd Sylfaen.

HND

Mae HND yn gymhwyster lefel 5 ac mae'n cymryd dwy flynedd yn amser llawn  i'w gwblhau. Gellir dilyn y cwrs yn rhan amser hefyd, ond bydd yn cymryd mwy o amser i'w gwblhau.

Gellir ymestyn cymhwyster HNC a HND fel eich bod yn ennill cymhwyster gradd baglor.

Graddau

Lefelau gradd

Mae gradd yn gymhwyster addysg uwch. Gellir astudio ar gyfer ennill gradd a hynny ar bedair lefel wahanol:

Gradd Sylfaen

Mae Gradd Sylfaen yn gyfuniad o waith academaidd yn ogystal â phrofiad gwaith er mwyn ennill sgiliau yn y gweithle. Mae'n gyfwerth â chymhwyster lefel 5.

Mae'n radd ddefnyddiol i'r rhai hynny sy'n dymuno astudio tra’n gweithio neu’n ennill sgiliau proffesiynol a thechnegol i hyrwyddo eu gyrfa.

Mae ennill gradd Sylfaen fel arfer yn cymryd dwy flynedd o astudio amser llawn i'w chwblhau neu'n hirach na hynny i fyfyrwyr rhan amser. Gellir ychwanegu at Radd Sylfaen er mwyn ennill gradd anrhydedd lawn.

Gradd Baglor

Dyma'r math mwyaf cyffredin o radd israddedig. Mae'n gyfwerth â chymhwyster lefel 6 a gellir ei gymryd mewn gwahanol bynciau.

Bydd y math o radd baglor sy’n cael ei ddyfarnu yn ddibynnol ar y pwnc neu’r maes sy’n cael ei astudio. Y cymwysterau mwyaf cyffredin ar gyfer gradd baglor yw:

  • Baglor yn y Celfyddydau (BA)
  • Baglor mewn Gwyddoniaeth (BSc)
  • Baglor yn y Gyfraith (LLB)
  • Baglor mewn Peirianneg (BEng)

Mae astudio ar gyfer ennill gradd Baglor yn gallu cymryd 3-4 blynedd i'w gwblhau.

Er mwyn cael eich derbyn ar gyfer cael eich derbyn ar gyfer gradd baglor, bydd gofyn eich bod wedi bodloni gofynion mynediad y sefydliad ar gyfer y cwrs hwnnw. Bydd nifer y Pwyntiau tariff UCAS (dolen Saesneg yn unig) fydd eu hangen arnoch i ddilyn cwrs penodol yn dibynnu ar ofynion y cwrs a’r brifysgol.

Gradd baglor fel arfer yw'r gofyniad lleiaf ar gyfer sawl proffesiwn.
 

Gradd Meistr

Mae gradd meistr yn cael ei astudio ar ôl ennill gradd baglor. Mae'n gymhwyster lefel 7 ac mae’r radd yn cael ei dyfarnu i fyfyrwyr sy'n dangos lefel uchel iawn o wybodaeth am bwnc neu destun. Mae'n gwrs dwys ac fel arfer mae'n cynnwys ymchwil penodol ac ysgrifennu traethawd ymchwil.

Bydd dilyn gradd meistr amser llawn fel arfer tua 1 i 2 flynedd. Mae astudiaethau rhan amser yn gallu parhau rhwng 2 a 4 blynedd.

Yn dibynnol ar y pwnc a astudiwyd, bydd y math o radd meistr sy’n cael ei dyfarnu yn amrywio. Y dyfarniadau gradd meistr mwyaf cyffredin yw:

  • Meistr yn y Celfyddydau (MA)
  • Meistr mewn Gwyddoniaeth (MSc)

Doethuriaeth (PhD)

Ystyr PhD yw ‘Doethur mewn Athroniaeth'. Gradd ôl-raddedig yw doethuriaeth ac mae'n gymhwyster lefel 8. Dyma'r lefel uchaf o radd.

Mae'r radd hon yn cynnwys ymchwil annibynnol ar bwnc gwreiddiol ac mae’n gallu cymryd 3 blynedd neu fwy i'w chwblhau. Mae'n cynnwys ysgrifennu traethawd ymchwil neu draethawd hir yn seiliedig ar ymchwil helaeth a gwreiddiol.

I ddilyn cwrs doethuriaeth, mae'r rhan fwyaf o brifysgolion yn disgwyl i ddysgwyr feddu ar radd baglor a meistr, ond gall rhai  prifysgolion dderbyn gradd baglor.

Diplomas a thystysgrifau ôl-radd

Mae diplomas a thystysgrifau ôl-radd yn caniatáu i ddysgwyr i feithrin ymhellach eu sgiliau a'u gwybodaeth a enillwyd wrth ddilyn gradd. Maen nhw ar gael mewn amrywiaeth o bynciau.

Mae diplomas a thystysgrifau ôl-radd yn gymwysterau lefel 7.

Mae diploma ôl-radd amser llawn yn cymryd tua 30 wythnos i'w gwblhau gyda thystysgrif ôl radd amser llawn yn cymryd tua 15 wythnos i’w gwblhau. Gellir eu cwblhau'n rhan-amser hefyd.

Mae rhai swyddi’n gofyn am gymhwyster Ôl-radd . Disgwylir i athrawon ddilyn cwrs TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) a gweithwyr cymdeithasol i ddilyn cwrs PGDip mewn Gwaith Cymdeithasol.

Dysgwch am ddiplomâu a thystysgrifau ôl-raddedig ar wefan Prospects.(Dolen Saesneg yn unig)

Cymwysterau proffesiynol a diwydiant, achrediadau a chofrestriadau

Mae cymwysterau proffesiynol a diwydiant ar gael ymhob maes gwaith ar wahanol lefelau.

Mewn rhai swyddi mae derbyn achrediad neu gofrestriad yn ofyniad statudol. Er enghraifft, mae nifer o swyddi gofal iechyd a'r diwydiant cyllid yn gofyn am hynny. Mae'r cymwysterau hyn wedi'u hachredu a'u rheoleiddio gan gyrff proffesiynol ar gyfer pob diwydiant neu faes gwaith.

Mae enghreifftiau o gymwysterau diwydiant, achrediadau a chofrestriadau yn cynnwys:

  • Mae’n rhaid i feddygon gofrestru gyda’r General Medical Council (GMC) i ymarfer
  • Dylyrfewyr Siartredig fod â chymhwysedd RICS (Royal Institution of Chartered Surveyors)
  • Mae angen i nyrsys a bydwragedd gofrestru gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Mae angen i Gyfrifwyr Siartredig gael cymhwysedd ACCA (Associate Chartered Certifed Accountant)
  • Nid oes yn rhaid i weithwyr adeiladu â sgiliau fod â cherdyn CSCS (Construction Skills Certification Scheme) yn gyfreithiol i weithio ar safleoedd adeiladu, ond fel arfer mae angen iddynt ei gael
  • Rhaid i Beirianwyr Nwy gofrestru ar y Gas Safe Register yn gyfreithiol

Cwricwlwm i Gymru

Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar gyfer pob dysgwr 3-16 oed. Dechreuodd y cwricwlwm newydd ym mis Medi 2022. Bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob disgybl ysgol uwchradd erbyn blwyddyn academaidd 2026/27.

Mae pob ysgol gynradd a nifer dda o ysgolion uwchradd a lleoliadau ledled Cymru wedi dechrau gweithredu'r cwricwlwm newydd ac erbyn diwedd y broses gyflwyno yn 2026 bydd pob ysgol yng Nghymru yn dilyn y Cwricwlwm newydd i Gymru.

Bydd pob ysgol a lleoliad yn datblygu ei chwricwlwm ei hun i ganiatáu i'w dysgwyr ddod yn:

  1. Alluog ac uchelgeisiol, yn barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  2. Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
  3. Dinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd
  4. Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Bydd disgyblaethau (y cyfeirir atyn nhw ar hyn o bryd fel pynciau) yn y Cwricwlwm i Gymru yn addas o dan 6 Maes Dysgu a Phrofiad (Meysydd) sef:

  • Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Y Dyniaethau
  • Iechyd a lles
  • Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
  • Mathemateg a rhifedd
  • Gwyddoniaeth a thechnoleg

Am fwy o wybodaeth ewch i Cwricwlwm i Gymru ar hwb.gov.wales. 

Show more

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Coleg a 6ed dosbarth

Dysgwch beth i’w ddisgwyl yn y coleg neu’r 6ed, pa gymorth ariannol y gallech ei gael a mwy.

Mynd i brifysgol

Sut i wneud cais, yn cynnwys terfynau amser, mynychu diwrnodau agored, cyllid myfyrwyr a chlirio.