Gall dewis beth i'w astudio deimlo fel penderfyniad mawr, yn enwedig pan mae llawer o opsiynau ar gael.
Nid oes un dewis "cywir" i bawb. Yr hyn sy'n bwysicaf yw dod o hyd i opsiynau sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau, eich cryfderau a'ch nodau yn y dyfodol, tra'n cadw drysau’n agored ar gyfer yr hyn a ddaw nesaf.
Cwestiynau i'w gofyn i chi'ch hun
Gofynnwch y cwestiynau hyn i chi'ch hun i ddechrau archwilio pa bwnc a allai fod fwyaf addas i chi.
Beth sydd o ddiddordeb i mi?
Meddyliwch am y pynciau a'r gweithgareddau rydych chi'n eu mwynhau fwyaf. Gall diddordeb a mwynhad mewn pwnc wneud gwahaniaeth mawr i gymhelliant a llwyddiant. Meddyliwch am:
- Bynciau rydych chi'n mwynhau dysgu amdanyn nhw
- Gweithgareddau rydych chi'n teimlo'n hyderus am eu gwneud
- Pynciau rydych chi'n chwilfrydig i wybod mwy amdanyn nhw
- Adborth rydych chi wedi'i gael am eich sgiliau a'ch cryfderau gan athrawon a thiwtoriaid
Sut mae'n well gen i ddysgu?
Gall dysgu sut mae pwnc yn cael ei addysgu helpu wrth ddewis rhwng gwahanol fathau o bynciau. Mae pobl yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd, ac mae'r rhan fwyaf yn defnyddio cyfuniad o ddulliau. Eallai y byddai'n well gennych:
- Ddysgu gweledol. Darllen, defnyddio diagramu a gwylio fideos
- Gwrando a thrafod. Gwrando ar esboniad, cymryd rhan mewn sgwrs neu waith grŵp
- Dysgu ymarferol. Bod yn ymarferol, gwneud arbrofion ac yn rhoi eich sgiliau ymarferol ar waith yn yr hyn a wnewch
Pa yrfa ydw i eisiau ei ddilyn?
Mae rhai pynciau'n gysylltiedig â llwybrau a gyrfaoedd penodol, tra bod eraill yn cefnogi amrywiaeth eang o opsiynau.
Mae rhai pynciau yn datblygu sgiliau sy'n ddefnyddiol mewn llawer o swyddi fel:
- Ieithoedd. Defnyddiol ym mron pob swydd lle mae cyfathrebu, ysgrifennu, darllen a gweithio gyda phobl yn bwysig.
- Mathemateg. Angenrheidiol mewn swyddi lle mae meddwl rhesymegol, trin data a datrys problemau yn allweddol.
- Humanities. Defnyddiol mewn swyddi lle mae ymchwil, meddwl beirniadol a ffurfio dadleuon yn bwysig.
- Ymarferol a thechnegol. Gall gefnogi swyddi ymarferol mewn peirianneg, mecaneg ac adeiladu
Efallai y bydd angen pynciau neu raddau penodol ar rai swyddi, fel:
- Gwyddorau ar gyfer rolau iechyd a meddygol
- TGAU gradd 'C' neu uwch mewn Saesneg/Cymraeg a Mathemateg ar gyfer addysgu yng Nghymru. Mae addysgu cynradd hefyd yn gofyn am radd ‘C’ neu uwch mewn gwyddoniaeth
Os ydych chi'n siŵr eich bod chi eisiau astudio yn y brifysgol, dylech chi bob amser wirio'r gofynion penodol ar gyfer prifysgolion a chyrsiau ar UCAS ac Informed Choices (dolenni Saesneg yn unig).
Gweithredu
Cyn gwneud penderfyniad mae'n werth cymryd eich amser i:
Ymchwiliwch i'ch opsiynau
Mae dysgu mwy yn ei gwneud hi'n haws dewis yn hyderus. Mae angen i chi wybod:
- Beth mae pob pwnc neu gwers yn ei gynnwys
- Sut mae dysgu'n cael ei asesu (arholiadau, gwaith cwrs neu waith ymarferol)
- Beth mae dysgwyr eraill wedi mynd ymlaen i astudio
- Os oes angen gradd neu sgil penodol i astudio'r cwrs
Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi weld enghraifft hefyd o'r math o waith y byddwch chi'n ei wneud.
Edrychwch ar addysg a hyfforddiant ôl-16 i ddarganfod beth sydd ar gael yng Nghymru.
Rhestrwch y manteision a'r anfanteision
Weithiau, y ffordd hawsaf o ddod i benderfyniad yw ysgrifennu rhestr o fanteision ac anfanteision ar gyfer pob un o'ch opsiynau.
Ewch trwy'ch rhestr a meddyliwch am bwysigrwydd pob pwynt i chi. Erbyn y diwedd bydd gwell syniad gyda chi o'r hyn sy'n bwysig i chi a pha opsiwn sydd orau. Meddyliwch am y:
- Pethau positif am bob pwnc
- Pethau negyddol am bob pwnc
- Beth allai pob pwnc arwain ato
Siarad ag eraill
Gall safbwynt ffres eich helpu i deimlo'n fwy hyderus ynglŷn â'ch dewis.
Gall siarad â phobl eraill gynnig sicrwydd i chi a ffyrdd newydd o feddwl am bethau. Gallai hyn gynnwys siarad â:
- Athrawon neu diwtoriaid
- Cynghorwyr Gyrfa
- Teulu neu ffrindiau
Cysylltwch â Gyrfa Cymru i siarad â chynghorydd gyrfa am eich opsiynau.
Cael cymorth i wneud penderfyniadau
Rhowch gynnig ar ein gemau gwneud penderfyniadau i ddysgu mwy am eich steil o wneud penderfyniadau, ac i wella eich sgiliau gwneud penderfyniadau.
Gall fod yn anodd gwneud penderfyniadau pan fyddwch yn gwybod eu bod am gael effaith ar eich dyfodol. Mae'r pecyn cymorth hwn ar wneud penderfyniadau yn awgrymu camau i’ch arwain trwy'r broses.
Efallai i chi hefyd hoffi
Eich canllaw i ddewis cyrsiau ar ôl blwyddyn 11 gan gynnwys Safon Uwch, BTEC neu gyrsiau eraill.
Archwilio opsiynau ariannu ar gyfer cyrsiau yng Nghymru.
Deallwch lefelau cymhwyster a pham maen nhw'n bwysig. Dysgwch am gymwysterau, gan gynnwys NVQ, TGAU, BTEC, Safon Uwch, graddau a HND.