Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Sut i ddewis cwrs yn 16 oed

Ydych chi’n meddwl am ba gyrsiau Safon Uwch, BTEC neu gyrsiau eraill i'w dilyn ar ôl eich TGAU? Gallwn eich helpu gyda'r penderfyniad pwysig hwn.

Pam fod dewis y cwrs cywir yn bwysig

Mae angen i chi ddewis y cwrs cywir i gael:

  • Gyrfa neu swydd sydd o ddiddordeb i chi. Efallai y bydd rhai cyflogwyr yn gofyn am gymwysterau penodol. Archwilwch Gwybodaeth am Swyddi i ddod o hyd i’r gofynion mynediad a'r cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol swyddi
  • Symud ymlaen i gwrs gradd sydd o ddiddordeb i chi. Os ydych chi'n bwriadu gwneud gradd yn y dyfodol mae angen i chi ddewis cwrs sy'n bodloni gofynion mynediad y brifysgol. Cofiwch wirio’r gofynion bob amser ar ucas.com (Saesneg yn unig)

Dewiswch gymhwyster sy'n addas i chi

Archwiliwch y mathau o gyrsiau a’r cymwysterau y gallwch eu hastudio ar ôl TGAU.

Safon Uwch

Gelwir Safon Uwch hefyd yn A2.

Ble allwch chi astudio Safon Uwch:
Ysgol, coleg, neu ddysgu o bell a dysgu ar-lein

Hyd y cwrs:
Fel arfer yn cael ei astudio dros 2 flynedd os yw'n llawn amser

Beth alla i ei wneud ar ôl Safon Uwch?
Prifysgol, coleg, prentisiaeth neu swydd

Sawl cymhwyster Safon Uwch gallwch chi eu hastudio:
Fel arfer mae 3 Safon Uwch yn cael eu hastudio dros 2 flynedd

Math o asesu:
Arholiad gyda gwaith cwrs ar gyfer rhai pynciau, fel celf a dylunio

Graddau:
Yng Nghymru mae Safon Uwch yn cael eu graddio fel A*-E. Fel arfer bydd prifysgolion yn gofyn i chi gyflawni graddau penodol yn eich arholiadau Safon Uwch, ac mae rhai cyrsiau yn gofyn am bynciau penodol. Ewch i ucas.com i wirio'r graddau sy'n ofynnol ar gyfer y cyrsiau gradd sydd o ddiddordeb i chi.

Lefelau Uwch Gyfrannol

Mae lefel Uwch Gyfrannol yn un hanner Safon Uwch. Byddwch yn astudio Uwch Gyfrannol ym Mlwyddyn 12 ac A2 (Safon Uwch lawn) ym Mlwyddyn 13 os benderfynwch chi gario mlaen.

Ble allwch chi astudio Uwch Gyfrannol:
Ysgol, coleg, neu ddysgu o bell a dysgu ar-lein

Hyd y cwrs:
Fel arfer yn cael ei astudio dros flwyddyn os yw'n llawn amser

Beth alla i ei wneud ar ôl lefelau UG?
Gallwch astudio Safon Uwch lawn naill ai mewn ysgol neu goleg, prentisiaeth neu swydd. Mae lefelau UG yn cario pwyntiau tariff UCAS ar gyfer rhai cyrsiau

Sawl cymhwyster Uwch Gyfrannol gallwch chi eu hastudio:
Fel arfer gallwch astudio 1 neu 2 Lefel UG ym Mlwyddyn 12 neu yn y coleg, a naill ai cwblhau’r cymhwyster i Safon Uwch lawn ym mlwyddyn 13 neu yn y coleg, neu gallwch chi adael y cymhwyster fel hanner Safon Uwch

Math o asesu:
Arholiad gyda gwaith cwrs ar gyfer rhai pynciau, fel celf a dylunio

Graddau:
Yng Nghymru mae Safon Uwch yn cael eu graddio fel A-E. Os ydych chi’n bwriadu astudio Lefelau A llawn ac yna mynd i’r brifysgol, efallai y bydd yr ysgol neu'r coleg yn gofyn i chi gyflawni graddau penodol er mwyn symud ymlaen

BTECs

Ble allwch chi astudio cymwysterau BTEC:
Mae cymwysterau BTEC yn cael eu hastudio'n bennaf yn y coleg. Efallai y bydd cyfleoedd mewn rhai ysgolion a chyfleoedd dysgu o bell ar gael

Hyd y cwrs:
Fel arfer yn cael ei astudio mewn 2 flynedd os yw'n llawn amser

Beth alla i ei wneud ar ôl astudio BTEC:
Gallwch astudio Safon Uwch lawn naill ai mewn ysgol neu goleg, prentisiaeth neu swydd

Sawl cymhwyster BTEC gallwch chi eu hastudio:
Fel arfer astudir 1 cwrs BTEC gan ei fod yn cyfateb i 3 Safon Uwch

Math o asesu:
Mae BTEC yn gymhwyster mwy ymarferol ac fel arfer caiff ei asesu gan waith cwrs, aseiniadau a phrosiectau

Graddau:
Gellid dyfarnu 3 gradd, Rhagoriaeth (D), Teilyngdod (M) a Pas (P). Mae cymwysterau BTEC yn cario pwyntiau tariff UCAS. Fodd bynnag, oherwydd eu bod yn canolbwyntio ar un maes pwnc, maen nhw’n tueddu i gael eu derbyn ar gyfer y cyrsiau sy'n ymwneud â'r pwnc hwnnw

Fframwaith Cymwystrau a Chredydau (FFfCCh)

Fe'i cyfeirir fel NVQ's cynt.

Lle gallwch chi astudio FFfCCh:
Darparwyr hyfforddiant, coleg neu ar safle'r cyflogwr fel rhan o brentisiaeth

Hyd y cwrs:
Fel arfer 1 i 3 blynedd yn dibynnu ar y lefel

Beth alla i ei wneud ar ôl astudio FFfCCh:
Symud ymlaen i swydd fel arfer

Sawl cymhwyster FFfCCh gallwch chi eu hastudio:
Fel arfer 1 cymhwyster FFfCCh sy’n cael ei astudio

Math o asesu:
Mae cymwysterau FFfCCh yn alwedigaethol ac yn aml yn seiliedig ar waith ac felly fel arfer yn cael eu hasesu drwy waith cwrs, aseiniadau a phrosiectau. Efallai y byddwch hefyd yn cael eich arsylwi a'ch asesu yn cyflawni tasgau tra mewn swydd

Graddau:
Gyda chymhwyster FFfCCh gallwch ennill Dyfarniad, Tystysgrif neu Ddiploma. Mae gan gymwysterau FFfCCh lefelau o 1 i 8

Twf Swyddi Cymru+

Gallai Twf Swyddi Cymru+ fod yn addas i chi os na chawsoch chi’r graddau TGAU sydd eu hangen arnoch, neu os nad oes gennych yr hyder i symud ymlaen eto.

Rhaglen hyfforddi a dabbling i bobl ifanc 16-19 oed ydyw sy’n rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen arnoch i gael swydd neu i symud ymlaen i hyfforddiant pellach neu i brentisiaeth.

Dysgwch fwy am Twf Swyddi Cymru+

Trwyddedau sy'n benodol i swyddi

Os ydych yn symud ymlaen yn syth i swydd efallai y bydd angen i chi gael cerdyn, trwydded neu dystysgrif sy'n benodol i'r swydd.

Er enghraifft, i weithio ar safleoedd adeiladu, bydd angen i chi ddal cerdyn CSCS. I weithio gyda bwyd ac arlwyo bydd angen Tystysgrif Hylendid Bwyd arnoch.

Chwiliwch am gyrsiau sy'n benodol i swyddi ar Chwilio am gwrs

Dewis y pwnc cywir

Mae dewis y pwnc cywir yr un mor bwysig â dewis y math cywir o gwrs.

Dewis ble i astudio

Gallech barhau â’ch addysg yn 16:

Dewiswch gyrsiau ar gyfer prifysgol

Y cwrs mwyaf cyffredin i'w ddilyn er mwyn cael lle ar gwrs prifysgol yw Safon Uwch. Mae prifysgolion fel arfer yn gofyn am 3 Safon Uwch. Mae Safon Uwch yn gymhwyster lefel 3. Gallwch hefyd gael lle ar rai cyrsiau prifysgol gyda BTEC neu gymwysterau lefel 3 eraill. Mae'n dibynnu ar y cwrs.

Mae gan bob cwrs ofynion mynediad penodol, gan gynnwys:

  • Pynciau Safon Uwch Penodol neu gymwysterau lefel 3 eraill
  • Ennill graddau penodol yn y pynciau hynny

Mae rhai cyrsiau gradd hefyd yn edrych ar ba raddau a gawsoch yn eich TGAU, yn enwedig Saesneg a mathemateg, ac weithiau gwyddoniaeth.

Edrychwch ar y wefan Informed Choices (Saesneg yn unig) i weld pa bynciau y gallai fod eu hangen arnoch os ydych chi’n ystyried astudio i wneud gradd.

Ewch i ucas.com ar gyfer gofynion mynediad y cyrsiau gradd y gallai fod o ddiddordeb i chi.


Ddim yn siŵr am eich syniadau gyrfa?

Os nad ydych chi'n gwybod eto beth rydych chi am ei wneud fel gyrfa, ac efallai eich bod chi'n ansicr ynghylch beth sydd orau i'w astudio nesaf, yna rhowch gynnig ar ein Cwis Paru Gyrfa  i gael rhai syniadau gyrfa.

Gall ein cynghorwyr gyrfa eich helpu i ddewis y cwrs cywir. Siaradwch â'ch cynghorydd yn yr ysgol neu cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad. Take a look at the Informed Choices website to see which subjects you might need if you are thinking about going on to do a degree.

Visit UCAS for the entry requirements of degree courses you might be interested in.


Efallai i chi hefyd hoffi