Nawr yw’r adeg i ddechrau meddwl am yr hyn rydych chi eisiau ei wneud ar ôl eich arholiadau TGAU. Gallwn eich helpu i ddeall beth yw eich opsiynau a rhoi syniadau i chi er mwyn eich helpu i ddewis.
Dechreuwch drwy ateb y cwestiynau hyn
Ble rydych chi’n gweld eich hun ymhen 5 mlynedd?
Dychmygwch pa swydd fydd gennych neu ble y byddwch yn byw.
Mae gwybod ble yr hoffech fod yn y dyfodol yn eich helpu i ddeall beth fydd angen i chi ei wneud er mwyn cyflawni hynny.
Efallai y byddai’n help i feddwl amdano fel dringo grisiau. Os yw eich nod ymhen 5 mlynedd ar ben y grisiau, i gyrraedd yno bydd angen i chi gynllunio’r ychydig gamau cyntaf.
Mae yna bobl sydd yn gallu eich helpu i gynllunio eich camau nesaf. Siaradwch gyda:
- Rhieni/gwarcheidwaid
- Athrawon
- Ffrindiau
- Cynghorydd Gyrfa
Dechrau feddwl am y farchnad lafur a'r swyddi sydd mewn galw nawr a yn y dyfodol. Edrych ar Dyfodol gwaith yng Nghymru am fwy o wybodaeth.
Beth yw eich sgiliau a’ch diddordebau?
Efallai eich bod yn dda am ddatrys problemau neu gyfathrebu ag eraill. Efallai fod gennych ddiddordeb ac erioed wedi ystyried ei droi’n yrfa.
Mae gwybod beth rydych chi’n hoff ohono a beth rydych yn gallu ei wneud yn dda yn ffordd wych o ddewis yr hyn fydd orau i chi.
Rhowch gynnig ar ein Cwis Paru Gyrfa i baru eich sgiliau a'ch diddordebau i dros 700 o swyddi gwahanol.
Beth yw eich cryfderau?
Gall wybod beth yw eich cryfderau eich helpu i feddwl pa swyddi a allai fod yn addas i chi yn y dyfodol. Efallai eich bod yn berson penderfynol neu fod ag amynedd. Efallai eich bod chi'n greadigol neu'n frwdfrydig iawn.
Gwnewch y Cwis Buzz i ganfod pa fath o bersonoliaeth sydd gennych a pha swyddi allai eich gweddu. Mewn llai na 5 munud gallwch ddarganfod:
- Eich cryfderau a'r hyn sy'n eich cymell
- Rhai swyddi sy'n cysylltu gyda'ch math o bersonoliaeth
Pa ddull sydd orau gennych o ddysgu pethau?
Efallai fod yn well gennych ddysgu drwy:
- Wrando ar rywun yn siarad am y pwnc
- Cael gweld sut i wneud y dasg
- Rhoi cynnig arni eich hun
- Gwylio tasgau’n cael eu gwneud
Gall deall eich dull o ddysgu eich helpu i ddewis eich cam nesaf.
Ymchwilio i'r opsiynau
Dysgwch beth i’w ddisgwyl yn y coleg neu’r 6ed, pa gymorth ariannol y gallech ei gael a mwy.
Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra byddwch chi’n gweithio ac yn ennill cyflog. Chwiliwch am brentisiaethau yn eich ardal chi, dysgwch am brentisiaethau a lefelau prentisiaeth, a mynnwch gyngor ar sut i wneud cais.
Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr a mwy.
Wyt ti rhwng 16-19 oed? Galli di gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith am dâl i dy helpu i allu llywio dy ddyfodol.
Dewch i weld a yw hunangyflogaeth yn addas i chi a lle i gael rhagor o gefnogaeth.