Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Sut i wneud penderfyniadau gyrfa da

Bydd angen i bob un ohonom wneud penderfyniadau a dewisiadau gyrfa ar wahanol adegau o’n bywydau. Gall y penderfyniad y byddwch yn ei wneud nawr effeithio ar eich llwybr gyrfa yn y dyfodol. Ceisiwch ddewis yr hyn fydd yn eich helpu i gyflawni eich nodau gyrfa.

Er mwyn gwneud penderfyniadau gyrfa da:

1. Nodwch y penderfyniad y mae angen i chi ei wneud

Ysgrifennwch "Y penderfyniad y mae angen i mi ei wneud yw...." ar eich ffôn neu ddarn o bapur. Bydd hyn yn eich helpu i gofio popeth.

2. Ceisiwch ddarganfod beth yw eich holl opsiynau

Efallai y bydd gennych lawer o opsiynau i ddewis ohonynt, neu efallai mai dim ond 2 fydd ar gael i chi.  Er mwyn darganfod eich opsiynau gallwch:

  • Ymchwilio ar-lein. Mae llawer o wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael yn ystod pob cam gwahanol yn ein hadran Cynllunio eich Gyrfa. I edrych ar opsiynau gyrfa rhowch gynnig ar ein Cwis Paru Gyrfa
  • Ystyried y farchnad lafur sy'n newid. Y swyddi sydd mewn galw nawr ac yn y dyfodol. Edrych ar Dyfodol gwaith yng Nghymru
  • Cysylltwch â ni i siarad â Chynghorydd Gyrfa. Gallwch hefyd siarad â’ch athrawon neu diwtoriaid os ydych yn yr ysgol neu’r coleg

3. Defnyddiwch dechnegau da ar gyfer gwneud penderfyniadau er mwyn eich helpu i ddewis

Sut ydych chi’n gwneud penderfyniadau fel arfer? Isod, mae rhestr o dechnegau da ar gyfer gwneud penderfyniadau, a rhai technegau y dylech eu hosgoi. Er mwyn gwneud penderfyniad da gallech ddefnyddio un neu fwy o’r technegau da.

Mae technegau da ar gyfer gwneud penderfyniadau yn cynnwys:

  • Rhestru manteision ac anfanteision pob opsiwn
  • Ymchwilio i’r opsiynau. Ceir llawer o wybodaeth am wahanol swyddi a’r cymwysterau a’r pynciau sydd eu hangen arnoch yn ein hadran Gwybodaeth am swyddi. Mae yno hefyd wybodaeth am y llwybrau i bob gyrfa.
  • Siaradwch â’ch teulu a’r bobl rydych yn ymddiried ynddyn nhw am eich opsiynau
  • Trafodwch eich syniadau gyda phobl sy’n arbenigo yn y broses o’ch cynorthwyo megis Cynorthwyydd Gyrfa neu Athro (os ydych yn yr ysgol)
  • Dewiswch opsiynau yr ydych yn dda am eu gwneud. Rydych yn fwy tebygol o lwyddo os gallwch wneud rhywbeth yn dda. Gall ein tudalennau Cwis Buzz a sgiliau a chryfderau eich helpu chi i nodi'r hyn rydych chi'n ei wneud yn dda
  • Dewiswch opsiynau yr ydych yn eu mwynhau. Rydych yn fwy tebygol o ddyfalbarhau os ydych yn mwynhau rhywbeth
  • Dychmygwch eich hun yn y dyfodol. Beth yr hoffech fod yn ei wneud ymhen 5 mlynedd? Gall hyn eich helpu i ddewis y llwybr cywir er mwyn i chi allu byw y bywyd yr ydych yn ei obeithio yn y dyfodol

Ceisiwch osgoi’r technegau hyn o wneud penderfyniadau:

  • Peidiwch â dewis pethau oherwydd bod eich ffrindiau yn gwneud hynny
  • Peidiwch â gofyn i bobl eraill wneud penderfyniadau ar eich rhan
  • Peidiwch â dewis pen neu gynffon ar ddarn arian i benderfynu
  • Peidiwch â phenderfynu’n fyrbwyll heb feddwl yn ddwys am y peth
  • Peidiwch â phenderfynu oherwydd bod arnoch ofn

4. Sicrhewch fod gennych gynllun wrth gefn (rhag ofn)

Mae’n syniad da cael cynllun wrth gefn bob amser, sef Cynllun B. Ni fydd eich dewis cyntaf yn llwyddiannus bob tro. Er enghraifft, efallai y caiff cwrs y byddwch wedi’i ddewis ei ganslo. Felly, drwy gael cynllun wrth gefn ni fyddwch yn mynd i banig os na fydd eich dewis cyntaf ar gael.

5. Rhoi eich penderfyniad ar waith

Rydych wedi gwneud eich penderfyniad.  Dyma’r adeg i roi eich penderfyniad ar waith.  Er enghraifft, gall hyn olygu cofrestru ar gyfer cwrs neu gyflwyno eich dewis o bynciau ar gyfer y flwyddyn nesaf.  Gall y cam cyntaf fod mor syml â chysylltu â choleg neu brifysgol i gael gwybodaeth am ddiwrnodau agored.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi