Mae prentisiaethau yng Nghymru yn swyddi sy'n cynnwys cymwysterau cydnabyddedig. Rydych chi’n ennill cyflog tra byddwch chi’n gweithio ac yn dysgu.
Ynglŷn â Phrentisiaethau
Cewch atebion i gwestiynau cyffredin i'ch helpu i benderfynu a yw prentisiaeth yn iawn i chi.
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer prentisiaeth?
Bydd y cyflogwr sy'n hysbysebu'r brentisiaeth yn nodi'r cymwysterau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen. Mae'n rhaid i chi wneud cais am brentisiaeth fel unrhyw swydd arall.
Bydd gan wahanol lefelau o brentisiaethau ofynion mynediad gwahanol. Dysgwch fwy am lefelau prentisiaeth.
Pa mor hen sydd angen i mi fod i wneud cais am brentisiaeth?
Mae prentisiaethau'n agored i unrhyw un dros 16 oed, gan gynnwys pobl sydd ag anabledd, cyflwr iechyd neu anhawster dysgu. Nid oes terfyn oedran uchaf.
Gallwch wneud cais am brentisiaeth tra byddwch yn dal yn yr ysgol ond bydd angen i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn erbyn diwedd gwyliau’r haf i ddechrau’r brentisiaeth.
Faint fydda i'n cael fy nhalu mewn prentisiaeth?
Mae isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid ond gall cyflogwyr yn aml dalu mwy na hyn. Mae'r hyn a gewch eich talu yn dibynnu ar y cyflogwr. Dysgwch fwy am yr isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid ar gov.uk (dolen Saesneg).
Faint o gystadleuaeth sydd yna ar gyfer prentisiaethau?
Mae prentisiaethau yn gyfle mor wych fel y gallant fod yn gystadleuol iawn. Mae'n bwysig iawn eich bod yn llunio cais neu CV.
Ewch i sut i gael prentisiaeth am fwy o gefnogaeth.
Galla i wneud prentisiaeth os oes gennyf radd?
Gallwch wneud prentisiaeth os oes gennych radd neu gymhwyster arall.
Ni allwch ddechrau prentisiaeth os ydych yn dal i fod mewn addysg llawn amser neu ran-amser.
Pa fath o hyfforddiant fyddwn i'n ei wneud ar brentisiaeth?
Bydd eich cyflogwr yn penderfynu sut maen nhw am i chi gael eich hyfforddi i wneud y gwaith. Dyma rai o'r ffyrdd y mae prentisiaid yn cael eu hyfforddi:
- Yn y gwaith
- Yn y coleg a allai fod yn llawn amser neu'n rhan-amser
- Mewn canolfan hyfforddi y gallech fynd iddi unwaith yr wythnos neu mewn blociau o ychydig ddyddiau neu wythnosau
- Yn y brifysgol os ydych chi'n gwneud Prentisiaeth lefel uwch neu radd
Yr hyn sy'n sicr yw y cewch hyfforddiant. Bydd ble a sut y byddwch yn hyfforddi yn dibynnu ar eich cwrs a'ch cyflogwr.
Byddwch yn cael gwybodaeth am hyn pan fyddwch yn mynd drwy'r cais neu gallech ofyn am fanylion yn eich cyfweliad.
Pa brentisiaethau sydd ar gael?
Mae ystod eang o brentisiaethau ar gael, a llawer o gyflogwyr gwahanol yn eu cynnig, gan gynnwys:
- Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
- Busnes a gweinyddiaeth
- Adeiladu
- Y Diwydiannau Creadigol
- Peirianneg
- Gwasanaethau ariannol a chyfreithiol
- Iechyd a gofal
- Technolegau digidol TGCh
- Cerbyd modur
- Manwerthu, gwasanaethau cwsmeriaid a gwerthu
- Twristiaeth, lletygarwch a hamdden
- Trafnidiaeth a logisteg
Defnyddiwch Chwilio am Brentisiaethau i weld y swyddi gwag sydd ar gael nawr. Gallwch edrych ar yr holl swyddi gwag neu eu hidlo yn ôl math o waith neu’r ardal lle rydych chi'n byw.
Edrychwch ar y rhestr lawn o Gyflogwyr sy'n cynnig Prentisiaethau a restrir gan y diwydiant. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi o'r amrywiaeth o Brentisiaethau, a'r cyflogwyr sy'n eu cynnig.
Gallwch weld rhestr lawn o'r mathau o brentisiaethau sydd ar gael ar Apprenticeships Certification Wales (dolen Saesneg).
Chwilio a chymhwyso
Dod o hyd i brentisiaethau yng Nghymru
Archwiliwch ein rhestr o gwmnïau mwy sy'n cynnig prentisiaethau yng Nghymru. Mae ystod eang o brentisiaethau gwag yn cael eu hysbysebu ar wahanol adegau o'r flwyddyn.
Astudiaethau achos
Darllenwch straeon am lwyddiannau bywyd go iawn ar ein gwefan Cymru’n Gweithio.
Gweld mwy o astudiaethau achos prentisiaethau ar Prentisiaethau. Dewis Doeth.
Mwy o wybodaeth
Dysgwch fwy am fuddion prentisiaethau a'r gefnogaeth sydd ar gael yn Prentisiaethau: canllaw i ddysgwyr ar wefan Llywodraeth Cymru.
Archwilio
Gwybod ble i chwilio am brentisiaethau, a sut i wneud y gorau o’ch cais.
Mae 4 math gwahanol o brentisiaethau. Dysgwch beth yw’r lefelau a beth mae lefelau'r brentisiaeth yn ei olygu.
Dysgwch am brentisiaethau gradd yng Nghymru ac archwiliwch y cyfleoedd sydd ar gael.