Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Sut i gael Prentisiaeth

Cymerwch olwg ar ein canllaw ar sut i gael prentisiaeth.

Dod o hyd i brentisiaethau gwag

Y prif lefydd i ddod o hyd i brentisiaethau gwag yw:

Beth sydd ei angen arnoch i wneud cais am brentisiaeth

Cyn i chi wneud cais bydd angen:

  • CV wedi'i ysgrifennu'n dda neu ffurflen gais. Bydd eich cais am brentisiaeth yn un ymhlith llawer o rai eraill. Cyflwynwch y CV neu'r cais gorau posibl
  • Y cyfarwyddiadau a’r wybodaeth am y broses ymgeisio am brentisiaeth (gallai hyn fod yn y disgrifiad swydd neu ar wefan y cwmni). Mae rhai cyflogwyr yn rhoi llawer o awgrymiadau a gwybodaeth i chi i'ch helpu i ysgrifennu eich CV neu gais
  • E-bost neu lythyr cais. Mae hyn yn bwysig wrth i chi gyflwyno eich hun i'r cyflogwr mewn e-bost neu lythyr cais

Cysylltu â ni os hoffech gael rhywfaint o help gyda'ch CV, cais neu lythyr eglurhaol.

Paratoi ar gyfer cyfweliadau ac asesiadau

Byddwch yn barod am asesiadau a chyfweliadau:

  • Os yw’r brentisiaeth yr ydych yn gwneud cais amdani yn cael ei hasesu, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd rhai profion ymarfer. Gall y cyflogwr gynnig profion ymarfer neu awgrymiadau ar eu gwefan eu hunain
  • Os cewch gynnig cyfweliad am brentisiaeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymarfer eich technegau cyfweld cyn y cyfweliad

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cyflogwyr sy'n cynnig Prentisiaethau

Archwiliwch ein rhestr o gwmnïau mwy sy'n cynnig prentisiaethau yng Nghymru. Mae ystod eang o brentisiaethau gwag yn cael eu hysbysebu ar wahanol adegau o'r flwyddyn.

Beth yw Prentisiaeth?

Mae prentisiaeth yn swydd lle rydych chi'n ennill cymwysterau cydnabyddedig tra byddwch chi'n gweithio. Dysgwch am gymhwysedd, cyflog, gwybodaeth am hyfforddiant a'r amrywiaeth o brentisiaethau sydd ar gael.

Cymorth Cyflogaeth

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael i'ch helpu chi i gael gwaith os ydych chi’n anabl neu os oes gennych chi gyflwr iechyd.