Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Iechyd a Gofal - Cyflogwyr

Gellir dod o hyd i brentisiaethau sy'n gysylltiedig ag Iechyd a Gofal yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), optegyddion, deintyddfeydd neu feddygfeydd, fferyllfeydd a chartrefi gofal.

Gall mathau o brentisiaethau gynnwys:

  • Gwaith cymorth biofeddygol
  • Gwyddor iechyd
  • Gweinyddu cleifion
  • Gofal iechyd
  • Cynorthwyydd optegol
  • Technegydd fferylliaeth
  • Nyrs ddeintyddol

Iechyd

Rhai cyflogwyr sy’n recriwtio prentisiaid mewn meysydd cysylltiedig gydag iechyd -

(Mae rhai o'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)

Gofal

Mae'r diwydiant gofal yn recriwtio prentisiaid mewn dull gwahanol i ddiwydiannau eraill. Yn y diwydiant gofal fel arfer bydd angen i chi wneud cais am swydd gofal, ac yna efallai y bydd y cyflogwr yn eich rhoi ar raglen brentisiaeth i ennill cymwysterau. Dyma pam na fyddwch yn gweld llawer o brentisiaethau mewn gofal yn cael eu hysbysebu.

Dod o hyd i swyddi gofal ar:

Mae gofal plant yn rhan o ofal ac mae cyflogwyr mewn gofal plant yn hysbysebu am brentisiaethau. Defnyddiwch Chwilio am Brentisiaethau i ddod o hyd i brentisiaethau sy'n gysylltiedig â gofal plant.

Lleoedd eraill i ddod o hyd i gyflogwyr â swyddi gwag

I ddod o hyd i fwy o gyflogwyr sy’n cynnig prentisiaethau, neu i edrych am gwmnïau llai sy’n recriwtio rhowch gynnig ar y canlynol hefyd:

Sylwch: Caiff pob dolen we ei hadolygu'n rheolaidd ond gall cyflogwyr newid dolenni gwe ar unrhyw adeg. Drwy glicio'r dolenni uchod byddwch yn mynd i wefannau cyflogwyr. Nid oes gan Gyrfa Cymru unrhyw reolaeth dros natur, cynnwys ac argaeledd prentisiaethau ar y safleoedd hyn. Nid yw cynnwys unrhyw gysylltiadau o reidrwydd yn awgrymu argymhelliad nac yn cymeradwyo'r cynnwys neu'r safbwyntiau a fynegir ynddynt.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi