Cymraeg. Mae'n perthyn i ni gyd."
Llywodraeth Cymru
Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth i filiwn o bobl allu mwynhau siarad a defnyddio'r Gymraeg erbyn 2050. Felly, mae’r amser yn berffaith i ddechrau dysgu. Dysgwch fwy am Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.
Ble i ddysgu Cymraeg
P'un ai ydych chi'n dechrau neu’n dymuno gwella eich Cymraeg, mae yna lawer o opsiynau. Gallech chi:
- Ddod o hyd i gyrsiau Dysgu Cymraeg yn eich ardal chi. Gallech ddysgu o gartref gydag opsiynau dysgu ar-lein. Edrychwch ar wefan Dysgu Cymraeg am fwy o wybodaeth
- Rhowch gynnig ar Say Something in Welsh (dolen Saesneg yn unig)
- Defnyddiwch ap neu wefan Duolingo (dolen Saesneg yn unig)
- Chwiliwch am wahanol Gyrsiau Cymraeg sydd ar gael ar Chwilio Am Gwrs, er enghraifft chwiliwch 'Cymraeg Dosbarth Lefel 1' neu 'Cymraeg i'r Teulu', 'Cymraeg: Sylfaen', 'Cymraeg: Lefel Mynediad'. Mae llawer o brifysgolion yn cynnig cyrsiau Cymraeg i oedolion hefyd
- Cofrestrwch yn rhad ac am ddim o fis Medi 2022 ar gyrsiau Cymraeg gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae angen i chi fod rhwng 18 a 25 oed neu’n staff addysgu. Edrychwch ar wefan Dysgu Cymraeg am wybodaeth
- Dewch o hyd i'ch Menter Iaith leol ar Y Mentrau Iaith Cryfhau'r Gymraeg yn y Gymuned. Mae Menter Iaith yn helpu pobl i fwynhau defnyddio'r Gymraeg yn eu cymunedau
- Ewch ar ymweliad i'r Eisteddfod Genedlaethol a'r Pentref Dysgu Cymraeg
- Edrychwch ar y cyrsiau Cymraeg sydd ar gael yn Nant Gwrtheyrn
Rhai o fanteision dysgu’r Gymraeg
Mae gan lawer o lefydd yng Nghymru draddodiad cryf o siarad Cymraeg. Gall dysgu a siarad Cymraeg eich helpu i archwilio ac ymgysylltu â'ch cymuned leol. Gallwch fwynhau rhaglenni teledu, radio, chwaraeon, cerddoriaeth a llenyddiaeth Gymraeg.
Dyma beth sydd gan rai dysgwyr Cymraeg i'w ddweud am eu profiad nhw o ddysgu’r iaith:
Dechreuais ddysgu Cymraeg 4 blynedd yn ôl mewn dosbarthiadau nos i oedolion. Mae'n deimlad gwych symud ymlaen o adnabod ambell air ar y teledu neu'r radio i allu deall cryn dipyn o'r hyn sy'n cael ei ddweud. Mae wedi bod yn wych cwrdd â dysgwyr eraill yng Nghymru a thu hwnt - mae'n gymuned hyfryd i fod yn rhan ohoni."
Sam, Caerffili
Dechreuais ddysgu Cymraeg oherwydd roedd yn bwysig i mi deimlo'n gysylltiedig â'm gwreiddiau. Bydd fy mab yn mynd i ysgol Gymraeg hefyd, felly hoffwn i siarad Cymraeg gydag ef a'r ysgol. Mae’n mynychu meithrinfa Gymraeg ar hyn o bryd ac mae fy ngwersi Cymraeg wedi fy helpu i ddefnyddio’r iaith wrth sgwrsio bob dydd gyda’r feithrinfa."
Fiona, Sir Gaerfyrddin
Y Gymraeg yn y gweithle
Siarad Cymraeg yn y gweithle
Gall meddu ar sgiliau Cymraeg arwain at fwy o gyfleoedd gwaith oherwydd:
- Mae rhai swyddi a hysbysebir yng Nghymru yn aml yn gofyn am y Gymraeg fel sgil hanfodol neu ddymunol
- Rhaid i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn annog gweithwyr i ddysgu Cymraeg drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
- Gall sgiliau’r Gymraeg fod yn hanfodol ar gyfer rhai swyddi mewn sectorau fel Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol, Addysg, Gwasanaethau Cyhoeddus a'r diwydiannau Creadigol
- Bydd angen i bobl siarad neu fod yn barod i ddysgu lefel ‘cwrteisi’ sylfaenol o’r Gymraeg i gael swyddi gyda Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob aelod o staff i ddysgu drwy raglenni hyfforddi
Mae siarad a chysylltu â chydweithwyr a chwsmeriaid yn eu hiaith gyntaf yn bwysig. Nodwyd gan Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2019:
- Roedd 80% o siaradwyr Cymraeg yn siarad Cymraeg ag o leiaf rhai o’u cydweithwyr a oedd yn siarad Cymraeg
- Roedd 93% o weithwyr Cymraeg rhugl yn siarad rhywfaint o Gymraeg gyda phobl y tu allan i'w sefydliad
Darllenwch rai o’r blogiau mae cyflogwyr fel Boots a’r Principality wedi’u hysgrifennu am gael cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg gan Comisiynydd y Gymraeg am gynnig gwasanaethau i’r cyhoedd yn y Gymraeg. Edrychwch ar flogiau Cynnig Cymraeg ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.
Cymorth i gyflogwyr
Edrychwch ar rai o'r gwahanol ffyrdd y gall cyflogwyr gefnogi eu gweithwyr i ddysgu Cymraeg:
- Mae Cymraeg Gwaith yn rhaglen sydd wedi'i chynllunio i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae Cymraeg Gwaith yn cynnig hyfforddiant amrywiol, hyblyg sydd wedi ei ariannu'n llawn. Dysgwch fwy ar Cymraeg Gwaith Work Welsh ar wefan Dysgu Cymraeg.
- Mae Helo Blod yn wasanaeth cyfieithu a chynghori Cymraeg cyflym a chyfeillgar sy’n cynnig cyfieithu Cymraeg yn rhad ac am ddim i’ch busnes. Mynnwch gip ar wefan Helo Blod ar Fusnes Cymru.
- Mae’r Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth gan y Comisiynydd a roddir i sefydliadau sy'n parchu'r iaith Gymraeg drwy gynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg i'r cyhoedd. Cewch wybod mwy am y Cynnig Cymraeg ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Archwilio rhai o'r opsiynau swyddi sydd ar gael pan fyddwch chi'n astudio'r Gymraeg.

Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned. (Saesneg yn unig)

Cyllid sydd ar gael yng Nghymru i fyfyrwyr yn y coleg a'r brifysgol.

Cewch wybod rhagor am yr hyn sydd ynghlwm wrth addysg gymunedol ac addysg i oedolion, a ble i ganfod cyrsiau.

Cewch wybod am astudio gartref ac yn eich amser eich hun. Cewch wybod am fanteision ac anfanteision, a ble mae canfod cyrsiau.