Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Nathalie

Llun agos o'r pen ac ysgwydd o Nathalie

Mae Nathalie yn rhannu ei phrofiadau o ddysgu Cymraeg a'i hawgrymiadau ar gyfer dysgwyr eraill.

Mae Nathalie yn Wirydd Data gyda Gyrfa Cymru wedi’i lleoli yng Nghwmbrân. Symudodd i Gymru chwe blynedd yn ôl a phenderfynodd ddechrau dysgu Cymraeg.

Ein cwestiynnau i Nathalie

1. Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau dysgu neu wella eich sgiliau Cymraeg?

Rydw i wedi bod â diddordeb mewn ieithoedd erioed, ond rydw i’n byw mewn ardal lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei siarad llawer. Pan wnes i symud i Gymru yn 2018 a dechrau gweithio gyda Gyrfa Cymru, fe wnes i drochi mwy yn yr iaith, a gwnes i ddysgu fy mod i eisiau dysgu mwy.
 

Yn ogystal, roeddwn i eisiau helpu fy merch i gofleidio ei threftadaeth a'i chefnogi i ddysgu Cymraeg wrth iddi fynd trwy ei haddysg."

2. Sut mae dysgu Cymraeg wedi effeithio ar eich gwaith dyddiol chi gyda Gyrfa Cymru?

Rydw i dal i fod yn gynnar iawn ar fy nhaith dysgu Cymraeg ond mae deall e-byst, neu pan fydd rhywun yn siarad Cymraeg mewn cyfarfod, yn fy ysbrydoli. Rydw i’n mwynhau trafod fy nysgu gydag aelodau o’m tîm sy'n siarad Cymraeg.

3. Sut byddai bod yn ddwyieithog o fudd i'ch tîm a'ch rôl o fewn Gyrfa Cymru?

Does dim llawer o aelodau o’m tîm yn siarad Cymraeg (yn enwedig yn fy ardal) felly byddai bod yn ddwyieithog yn sgil wych i ddod i'r tîm.

4. Sut mae eich hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg wedi datblygu ers i chi ddechrau dysgu?

Rydw i’n ceisio darllen a deall y Gymraeg rydw i’n gweld bob dydd yn gyson. Rydw i hefyd wedi dechrau ceisio ystyried yr hyn rydw i’n ei ddweud yn Saesneg a'i gyfieithu yn fy mhen. Mae gen i ffordd bell iawn i fynd serch hynny!

5. Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i oedolion eraill sydd â rhywfaint o sgiliau Cymraeg yn barod ond sy’n betrusgar i’w defnyddio?

Rydw i dal yn eithaf swil am siarad Cymraeg, ond byddwn i'n dweud bod y bobl rydw i wedi siarad gyda nhw yn fwy na pharod i helpu ac maen nhw’n gwerthfawrogi dy fod ti’n dysgu. Mae'n iawn cael pethau'n anghywir.

6. Pa adnoddau neu strategaethau sydd fwyaf defnyddiol i chi wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg?

Rydw i’n defnyddio Duolingo yn bennaf i gadw pethau’n ffres yn fy meddwl, mae Say Something in Welsh yn ddefnyddiol iawn a rydw i hefyd yn defnyddio Reddit.


Gwybod mwy am ddysgu Cymraeg


 
Dysgu Cymraeg

Darganfyddwch fanteision dysgu Cymraeg a ble i ddysgu Cymraeg yn eich ardal.