Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori James

 Delwedd o James yn y top brand Cymru'n Gweithio, graffeg o lyfr gyda baner Cymru, beiro a phapur a chlustffonau

Mae James yn gynghorydd gyrfa yng nghanolfan gyrfaoedd Abertawe. Symudodd i Gymru bum mlynedd yn ôl ac mae wedi bod yn dysgu Cymraeg ers wyth mis.


Mae James yn siarad am ei brofiadau fel dysgwr ac yn rhannu rhai o'i awgrymiadau gorau i ddysgu Cymraeg.

Ein cwestiynau i James

1.Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau dysgu Cymraeg?

Gan fy mod yn dod o Loegr, roeddwn i eisiau bod yn rhan o ddiwylliant a hanes Cymru a gallu gwneud defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith. Gyda dau blentyn ifanc, roeddwn i hefyd eisiau eu cefnogi yn eu haddysg a’u hannog nhw i siarad Cymraeg hefyd.

2. Sut mae dysgu Cymraeg wedi effeithio ar eich gwaith dyddiol gyda Gyrfa Cymru?

Rydw i ar lefel sgwrs mynediad, ac mae wedi fy ngalluogi i gyfarch a gofyn cwestiynau sylfaenol yn Gymraeg, fel gofyn sut mae pobl. Rydw i’n bwriadu parhau i’w dysgu a'i defnyddio'n fwy effeithiol yn y dyfodol.

Rydw i wedi gweld y gall fod yn ffordd dda o feithrin perthynas â chwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg."

3. Sut mae eich hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg wedi datblygu ers i chi ddechrau dysgu?

Rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus gydag ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Nid yw’n rhywbeth y byddwn wedi’i wneud o’r blaen.

4. Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i oedolion sy’n betrusgar i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg presennol?

Defnyddiwch eich sgiliau a dechreuwch ddysgu mwy os yw’n bosibl. Mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o ddiwylliant a hunaniaeth Cymru a gall gynyddu cyfleoedd gwaith.

5. Beth oedd fwyaf defnyddiol i chi wrth ddysgu Cymraeg?

Ceisio siarad Cymraeg cymaint â phosibl gyda phobl, ymarfer a gwneud iddi deimlo'n fwy naturiol. Peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriad. Rydw i wedi sylwi bod siaradwyr Cymraeg yn hapus iawn i gael mwy o bobl yn dysgu'r iaith ac maen nhw’n barod i annog a chefnogi.

Mae Say Something In Welsh yn adnodd ardderchog i ymarfer ymhellach, a gall Duolingo helpu i ddysgu rhai o’r pethau a’r geiriau sylfaenol. Rydw i hefyd wedi sefydlu clwb adolygu amser cinio  dros Teams gyda fy nosbarth, i'n helpu ni i ymarfer yr hyn rydyn ni'n ei ddysgu."


Gwybod mwy am ddysgu Cymraeg

Dysgu Cymraeg

Darganfyddwch fanteision dysgu Cymraeg a ble i ddysgu Cymraeg yn eich ardal.