Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Dysgu o bell ac ar-lein

Mae yna ystod eang o gyrsiau a chymwysterau y gellir eu hastudio heb fynychu'r coleg neu'r brifysgol. Gallant fod yn gyrsiau o'r DU a ledled y byd.

Darganfyddwch fwy am ddysgu o bell ac ar-lein

Beth yw dysgu o bell ac ar-lein?

Diffiniadau o ddysgu o bell ac ar-lein:

  • Dysgu o bell yw unrhyw ddysgu sy'n digwydd ar draws pellter ac nid yn yr ystafell ddosbarth. Mae'n ffordd o ddysgu lle nad ydych chi'n gorfforol yn yr un ystafell â'r athro, y tiwtor neu'r hyfforddwr. Mae dysgu o bell yn ffordd hyblyg o ddysgu ac ennill cymhwyster cydnabyddedig
  • Mae dysgu ar-lein (a elwir hefyd yn e-ddysgu) yn fath o ddysgu o bell. Addysg sy’n digwydd dros y rhyngrwyd yw dysgu ar-lein
  • Mae dysgu cyfunol yn gyfuniad o ddysgu o bell ac ar-lein gyda rhywfaint o addysgu wyneb yn wyneb. Er enghraifft, mewn cwrs, efallai y bydd gennych chi rywfaint o ddysgu ar-lein ond hefyd bydd gofyn i chi fynychu ar gyfer sesiynau ymarferol neu arholiadau
Beth yw manteision ac anfanteision dysgu o bell ac ar-lein?

Gallai manteision dysgu o bell ac ar-lein gynnwys:

  • Astudio hyblyg ar eich cyflymdra eich hun - chi sy'n dewis pryd rydych chi eisiau astudio ac o ble
  • Gall astudio weithio o amgylch eich ffordd o fyw a'ch ymrwymiadau
  • Y gallu i ailhyfforddi heb orfod mynychu sefydliad addysgol i ennill y cymhwyster
  • Cyfathrebu â dysgwyr o bob cwr o'r byd a fydd yn gwella'r profiad dysgu

 Gallai anfanteision dysgu o bell ac ar-lein gynnwys:

  • Ei chael hi'n anodd neilltuo'r amser i astudio
  • Teimlo'n ynysig heb unrhyw gyswllt wyneb yn wyneb uniongyrchol â dysgwyr eraill na'r athro (er y byddwch yn derbyn cefnogaeth tiwtor)
  • Problemau gyda thechnoleg gwybodaeth a all achosi rhwystredigaeth
  • Gwrthdyniadau a allai ddod o astudio gartref
A yw dysgu o bell neu ar-lein yn iawn i mi?

I benderfynu a yw dysgu o bell ac ar-lein yn addas i chi, dechreuwch drwy feddwl am eich hoff arddull dysgu. Ydych chi:

  • Yn dda am ddysgu ar eich pen eich hun neu a oes angen i chi weithio gydag eraill?
  • Yn hunanysgogol ac yn gallu blaenoriaethu'ch amser yn dda neu a oes angen i eraill eich tywys a rhoi terfynau amser penodol i chi?
  • Yn gallu gweithio'n ddigidol trwy e-bost neu alwad fideo neu a yw'n well gennych ryngweithio corfforol wyneb yn wyneb?
Pa gyrsiau y gallaf eu hastudio a pha gymwysterau y gallaf eu hennill?

Gallwch astudio amrywiaeth o gyrsiau gwahanol ar-lein.

Cyrsiau fel:

  • Y Celfyddydau a'r Dyniaethau
  • Addysg, Plentyndod ac Ieuenctid
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Y Gyfraith
  • Gwyddorau Meddygol
  • Seicoleg a Chynghori
  • Gwyddorau Cymdeithasol

 ...a llawer mwy...

Gair i gall! Bydd UCAS yn caniatáu ichi hidlo opsiynau astudio fel 'Dysgu o Bell' i ddod o hyd i'r rhai y gellir eu gwneud fel cyrsiau o bell ac ar-lein.

Gallwch chi ennill yr un cymwysterau wrth astudio cwrs trwy ddysgu o bell ac ar-lein ag y byddech chi'n mynychu coleg addysg bellach a phrifysgol. Ymhlith y cymwysterau y gallwch astudio tuag atynt y mae:

  • Diplomâu
  • Graddau Sylfaen
  • Graddau Baglor
  • Graddau Meistr
  • Doethuriaethau

Yn dibynnu ar y darparwr gallwch hefyd ddewis astudio modiwlau annibynnol a chyrsiau byr ar wahanol lefelau.

Sut mae dewis y cwrs dysgu o bell neu ar-lein cywir?

Er mwyn sicrhau eich bod chi'n dewis y cwrs cywir, dilynwch yr awgrymiadau defnyddiol hyn:

  • Ymchwiliwch i'r cwrs yn dda. Sicrhewch gymaint o wybodaeth ag y gallwch am y cwrs, y cynnwys a sut mae'n cael ei addysg a'i asesu i sicrhau mai hwn yw'r cwrs iawn i chi
  • Rhowch gynnig ar gwrs am ddim. Cyn ymrwymo a thalu am gwrs beth am roi cynnig ar gwrs am ddim i weld a yw dysgu ar-lein a dysgu o bell yn addas i chi. Mae yna lawer o gyrsiau blasu am ddim ar gael. Cymerwch gip ar y rhestr o ddolenni defnyddiol isod sy'n cynnwys rhai cyrsiau am ddim
  • Cysylltwch â ni i drafod â chynghorydd am y cwrs ac i gadarnhau mai hwn yw'r cwrs iawn i chi cyn i chi ymrwymo. Efallai y bydd ein cynghorwyr Gyrfaoedd hefyd yn gwybod am unrhyw gyllid y gallech fod yn gymwys i'w gael
  • Byddwch yn ymwybodol o'r costau. Bydd disgwyl i chi dalu am eich cwrs. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod beth fydd yr union gost a beth sydd wedi'i gynnwys a chofiwch ddarganfod mwy am yr opsiynau ar gyfer cyllido eich astudiaethau
  • Ystyriwch eich camau nesaf. Meddyliwch am bam yr ydych chi eisiau'r cymhwyster. Mae'n werth sicrhau bod y cwrs rydych chi'n ei wneud yn cael ei gydnabod ar gyfer yr yrfa rydych chi eisiau ei gwneud. Edrychwch ar y cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol swyddi yn Gwybodaeth am Swyddi
  • Byddwch yn ofalus. Mae'n bwysig wrth dalu am gwrs eich bod yn sicr bod y cwrs yn bodoli, ac nid sgam mohono. Gwiriwch y wefan, y sefydliad, a'i gefndir cyn ymrwymo
A fydd angen i mi gwblhau aseiniadau neu sefyll arholiadau pan fyddaf yn dilyn cwrs dysgu o bell neu ar-lein?

Bydd gan bob cwrs ei ofynion ei hun. Ar gyfer rhai cyrsiau, yn enwedig cyrsiau â chymwysterau achrededig mae'n debyg y bydd yn rhaid i chi gwblhau aseiniadau a sefyll arholiadau.

Mae pob cwrs yn wahanol, felly gall rhai cyrsiau fod yn seiliedig ar aseiniadau ac efallai y bydd gan eraill arholiadau.

Efallai na fydd gan rai cyrsiau unrhyw aseiniadau nac arholiadau. Ni fyddai'r mathau hyn o gyrsiau fel arfer yn cynnig cymhwyster achrededig ar y diwedd.

Pa help a chefnogaeth a gaf wrth wneud cwrs dysgu o bell ac ar-lein?

Fel rheol, bydd y darparwr addysg yn darparu unrhyw wybodaeth a deunyddiau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich cwrs ac fel rheol fe'u cyrchir ar-lein. Efallai y bydd llyfrau neu adnoddau yn cael eu hanfon atoch yn y post hefyd.

Bydd gennych diwtor pwrpasol i'ch cefnogi gyda'ch gwaith. Efallai y byddwch chi'n cwrdd bob hyn a hyn â'ch tiwtor neu fyfyrwyr eraill. Weithiau mae gan ddarparwyr dysgu o bell fforymau a grwpiau ar-lein lle gallwch ofyn cwestiynau a chael cefnogaeth.

Sut mae gwneud cais am gwrs a faint fydd yn ei gostio?

Ar ôl i chi ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n teimlo sy'n addas i chi, bydd angen i chi gysylltu â darparwr y cwrs yn uniongyrchol i ddarganfod sut i wneud cais. Efallai y bydd yn rhaid i chi gofrestru gyda nhw yn gyntaf a chwblhau proses ymgeisio.

Bydd cost cwrs yn amrywio yn dibynnu ar y darparwr, pwnc, lefel cymhwyster a hyd yr astudiaeth. Mae'n debygol y bydd y gost yn llai na phe byddech chi'n mynychu sefydliad addysgol yn llawn amser yn gorfforol.

Mae rhai cyrsiau dysgu o bell ac ar-lein yn rhad ac am ddim. Gwiriwch gyda darparwyr unigol.

A fyddaf yn gallu cael help i ariannu cwrs dysgu o bell ac ar-lein?

Mae cyllid ar gyfer cyrsiau dysgu o bell ac ar-lein yn dibynnu ar eich amgylchiadau ac ar y cwrs y mae angen cyllid arnoch ar ei gyfer. Edrychwch ar y canlynol i ddarganfod a allech fod yn gymwys i gael unrhyw gymorth cyllido:

Nodyn Pwysig: Os ydych chi'n ceisio cyllid ar gyfer cwrs, yna gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darganfod yr opsiynau cyllido cyn i chi gychwyn ar eich cwrs a chyn i chi dalu unrhyw arian i'r darparwr.


Dolenni defnyddiol

Nid yw'r dolenni isod yn rhestr lawn o ddarparwyr dysgu o bell ac ar-lein ond byddant yn rhoi man cychwyn i chi. (Mae rhai o'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)

Y Brifysgol Agored yng Nghymru

The Open University

OpenLearn (rhan o'r Brifysgol Agored)

UCAS (gallwch hidlo 'Dysgu o Bell' fel opsiwn astudio)

Chwilio am Gwrs

Distance Learning Centre

Future Learn

ICS Learn
Open Study College

Oxford Open Learning (cynnig TGAU a Safon Uwch fel cyrsiau o bell)

Alison

BBC Bitesize

Training Link (cyrsiau AAT ac ICB ar-lein)

Oxford Homestudy

The Good Things

Study Active (Cyrsiau Hyfforddydd Campfa a Hyfforddydd Personol)

Ymwadiad: Trwy'r dudalen we hon gallwch gysylltu â gwefannau eraill nad ydyn nhw o dan reolaeth Gyrfa Cymru. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros natur, cynnwys ac argaeledd y cyrsiau na'r cynnwys sydd ar gael ar y gwefannau hyn. Nid yw cynnwys unrhyw ddolenni o reidrwydd yn awgrymu argymhelliad nac yn cymeradwyo'r cynnwys neu'r safbwyntiau a fynegir ynddynt.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Mynd i brifysgol

Sut i wneud cais, yn cynnwys terfynau amser, mynychu diwrnodau agored, cyllid myfyrwyr a chlirio.

Coleg a 6ed dosbarth

Dysgwch beth i’w ddisgwyl yn y coleg neu’r 6ed, pa gymorth ariannol y gallech ei gael a mwy.