Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Addysg oedolion a chymunedol

Mae cannoedd o raglenni addysg oedolion a chymunedol ar gael ledled Cymru. 

Gwybod mwy am addysg oedolion a chymunedol

Ar gyfer pwy mae’r cyrsiau?

Caiff cyrsiau addysg oedolion a chymunedol eu hanelu fel arfer at bobl:

  • nad ydyn nhw wedi astudio ers peth amser  
  • sydd am gael cymhwyster neu sgil newydd 
  • sydd am ddychwelyd i ddysgu ar ôl cael seibiant

Rydych yn debygol o gwrdd â phobl o wahanol gefndiroedd ar gyrsiau o’r fath megis rhieni ifanc neu bobl wedi ymddeol. 

Beth yw manteision astudio cwrs?

Yn ogystal â chael cymhwyster mewn pwnc rydych yn ei fwynhau, byddwch hefyd yn:

  • cwrdd â phobl newydd
  • magu hyder
  • gwella sgiliau
  • gwella rhagolygon swyddi
Pa fath o gyrsiau y gallaf eu hastudio?

Mae llu o gyrsiau gwahanol i ddewis ohonynt, gan gynnwys:

  • Tecstiliau creadigol 
  • Ffotograffiaeth ddigidol 
  • Sgiliau digidol
  • ESOL (Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill)
  • Sgiliau hanfodol yn y gweithle
  • Diogelwch Tân 
  • Ffrangeg
  • TG
  • Diogelu
  • Addysgu, dysgu a datblygu 

a llawer iawn mwy................

Defnyddiwch Addysg Oedolion Cymru i ddod o hyd i'r mathau o gyrsiau sydd ar gael yn lleol i chi. 

Pa fath o gymwysterau y gallaf eu hennill?

Bydd y  math o gymhwyster a gewch yn dibynnu ar y cwrs y byddwch am ei astudio.  Yn aml ceir cyrsiau ar lefel sylfaenol iawn, felly gallwch ddechrau fel dysgwr a gweithio tuag at gwrs fwy heriol ar lefel ganolig neu uwch. Gall canolfannau gynnig cyrsiau ffurfiol hefyd megis cyrsiau TGAU.

Gall y ganolfan a thiwtor y cwrs roi gwybodaeth bellach i chi. Edrychwch ar y math o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael ar Addysg Oedolion Cymru.

Sut gallaf ddod o hyd i gwrs?

Mae’r cyrsiau’n aml yn cael eu cynnal mewn canolfannau cymunedol neu golegau lleol.  Efallai y bydd rhai ohonyn nhw’n cynnal cyrsiau dydd tra bod eraill yn cynnig dosbarthiadau nos. 

Mae sawl ffordd y gallwch chwilio am gwrs:

  • Cysylltwch â’ch coleg addysg bellach lleol, bydd ganddyn nhw adran 'addysg a'r gymuned' fel arfer
  • Chwilio am gwrs yn eich ardal - dysg Oedolion Cymru
  • Edrychwch ar wefan eich Awdurdod Lleol am rest o gyrsiau cymunedol yn eich ardal

Efallai y byddech hefyd yn hoffi


Coleg a 6ed dosbarth

Dysgwch beth i’w ddisgwyl yn y coleg neu’r 6ed, pa gymorth ariannol y gallech ei gael a mwy.

Gwirfoddoli

Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill. 

Profiad gwaith

Profiad gwaith yw ennill profiad o fywyd gwaith. Cewch wybod sut mae cael y profiad gwaith sydd ei angen arnoch i gael y swydd rydych am ei chael.