Bydd Cyfrif Dysgu Personol yn eich galluogi i astudio cyrsiau rhan-amser hyblyg wedi'u hariannu'n llawn o gylch eich cyfrifoldebau presennol.
Ydych chi dros 19 oed ac yn byw yng Nghymru ac yn ennill llai na *£30,596 y flwyddyn. Ydy’ch swydd mewn perygl, neu ydych chi am ddatblygu eich gyrfa mewn economïau digidol neu wyrdd cymeradwy? Gallwn eich helpu i gam nesaf eich stori lwyddiant.
*Nid oes cap enillion o £30,596 ar gyrsiau cymeradwy neu gymwysterau mewn sgiliau digidol neu wyrdd.
Beth yw Cyfrif Dysgu Personol?
Bydd Cyfrif Dysgu Personol yn dy alluogi di i astudio’n rhan-amser o amgylch dy gyfrifoldebau presennol. Bydd yn dy alluogi i ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnat ti i newid dy yrfa neu symud ymlaen yn dy swydd bresennol. Bydd dy astudiaeth yn cael ei chynnal drwy goleg yng Nghymru naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb neu gyfuniad o’r ddau.
Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu cyrsiau a chymwysterau hyblyg, wedi’u hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Byddi di’n gallu ennill sgiliau a chymwysterau newydd sydd eu hangen ar gyflogwyr lleol i'th helpu i ddatblygu dy yrfa bresennol neu ei newid yn gyfan gwbl.
Pwy sy’n gymwys ar gyfer Cyfrif Dysgu Personol?
Byddwn yn gwirio dy gymhwysedd pan fyddi di’n gwneud cais.
Rhaid i ti:
- Fyw yng Nghymru
- Fod eisiau ennill sgiliau/cymwysterau mewn sectorau â blaenoriaeth
- Fod yn 19 oed neu’n hŷn
Yn ogystal, rhaid i ti fodloni o leiaf un o'r meini prawf canlynol:
- Bod yn gyflogedig (gan gynnwys hunangyflogedig), yn ennill llai na’r incwm canolrifol* (£30,596); nid oes cap enillion os ydych yn gwneud cais am raglen sydd wedi’i chymeradwyo i ddatblygu sgiliau digidol neu wyrdd neu
- Gweithiwr ar gontract dim oriau neu
- Yn aelod o staff asiantaeth neu
- Mewn perygl o gael eich diswyddo neu
- Droseddwyr ar ryddhad diwrnod
Gall gofalwyr amser llawn (cyflogedig neu ddi-dâl) gael cynnig darpariaeth a ariennir gan Cyfrif Dysgu Personol ble mae lle ar gyrsiau presennol.
Ni fyddi di’n gymwys os wyt ti:
- O dan 19 oed neu
- Mynychu ysgol neu goleg yn llawn amser fel disgybl neu fyfyriwr neu
- Mewn addysg uwch llawn-amser neu
- Mewn Dysgu Seiliedig ar Waith a ariennir gan Lywodraeth Cymru neu
- Yn ddinesydd tramor anghymwys neu
- Yn derbyn Grant Dysgu Llywodraeth Cymru neu Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu
- Yn ddi-waith (heb gontract cyflogaeth)
Colli Swydd a Chyfrif Dysgu Personol
Mae'r rhaglen Cyfrif Dysgu Personol ar gael i ti os wyt ti mewn perygl o gael dy ddiswyddo. Os cewch eich diswyddo tra rydych yn ymgymryd â’ch dysgu, fe'ch anogir i barhau â'ch dysgu os yw amgylchiadau'n caniatáu.
Bydd y Cyfrifon Dysgu Personol yn cael eu rheoli mewn cydweithrediad â'r rhaglen ReAct+. Dylech barhau â'ch dysgu a pheidio â gadael rhaglen y Cyfrif Dysgu Personol yn gynnar i gael mynediad at ReAct+.
Os wyt ti’n astudio drwy Gyfrif Dysgu Personol ni fyddi’n gallu derbyn cymorth hyfforddiant galwedigaethol ReAct+ ar yr un pryd.
Fodd bynnag, gelli gael gafael ar gymorth canlynol y rhaglen ReAct+ os wyt ti’n gymwys:
- Elfen cymhorthdal cyflog y rhaglen ReAct+ (Cymorth Recriwtio i Gyflogwyr)
- Grant hyfforddi cyflogwyr ReAct+ (Cymorth Hyfforddiant i Gyflogwyr)
- Parhau i hyfforddi drwy'r Cyfrif Dysgu Personol
Sut i wneud cais am Gyfrif Dysgu Personol
Mae'r broses ymgeisio yn hawdd ac yn syml. Mae'n cynnwys cyfweliad digidol gyda chynghorydd gyrfa profiadol Cymru’n Gweithio cyn i ti gael dy dderbyn. Bydd y cynghorydd gyrfa yn rhoi cyfle i ti drafod dyheadau a nodau gyrfa a gwneud yn siŵr mai'r cwrs yw'r llwybr cywir i ti. Cysyllta â ni i drefnu cyfweliad.
Noder os gwelwch yn dda: Gelli di hefyd gysylltu â cholegau'n uniongyrchol.
Ble gallaf i ddefnyddio Cyfrif Dysgu Personol?
Mae colegau ledled Cymru yn cynnig cyrsiau drwy'r Cyfrif Dysgu Personol:
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi’u teilwra a allai gynnwys cymorth ariannol, hyfforddiant sgiliau a Chymorth Datblygu Personol er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r pethau sy'n eich rhwystro rhag cael swydd.

Cyllid sydd ar gael yng Nghymru i fyfyrwyr yn y coleg a'r brifysgol.