Darganfyddwch sut a pham mae’r Gymraeg yn bwysig i fusnes, cymuned a chwsmeriaid Dewi.
Mae Dewi yn Rheolwr Gyfarwyddwr gyda DEWIS Architecture, cwmni sydd wedi ei leoli yn Llanfairpwll ar Ynys Môn. Mae ei fusnes yn darparu ystod eang o wasanaethau sy’n ymwneud ag adeiladu ac adeiladwaith.
Mae DEWIS Architecture yn gweithio gyda llawer o gleientiaid ac yn gweithredu mewn llawer o sectorau megis, treftadaeth, hamdden, tai, addysg, masnach, diwydiant a manwerthu.
Ein cwestiynau i Dewi
1.Sut mae’r Gymraeg yn chwarae rhan yn eich busnes a’ch gwasanaeth i gwsmeriaid?
Defnyddir y Gymraeg yn naturiol fel prif iaith y swyddfa. Defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol gyda llawer o gleientiaid, awdurdodau lleol, cyrff eraill a chontractwyr adeiladu.
2. Sut ydych chi’n hyrwyddo’r Gymraeg yn eich busnes?
Dw i’n meddwl bod y Gymraeg yn cael ei hyrwyddo’n gynnil pan mae pobl yn ei gweld hi’n cael ei defnyddio yn naturiol a heb ei gorfodi. Dyma iaith gyntaf ein gweithwyr, ac fe’i defnyddir mor ddiymdrech â chymryd anadl. Rydym yn ddwyieithog ac yn gallu troi o’r Saesneg i’r Gymraeg ac yn ôl eto heb feddwl. Nid ydym erioed wedi hysbysebu am siaradwyr Cymraeg yn benodol, ond mae 12 allan o 13 ohonom yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.
3. A allwch chi rannu rhai enghreifftiau penodol o sut mae defnyddio’r Gymraeg wedi cael effaith gadarnhaol ar eich perthynas â’r gymuned a chwsmeriaid?
Mae defnyddio’r Gymraeg wedi bod yn amhrisiadwy wrth ymdrin â llawer o gleientiaid dros y blynyddoedd. Mae hyn yn cynnwys gohebu â thenantiaid tai a landlordiaid, boed yn awdurdodau lleol, cymdeithasau tai neu’n landlordiaid preifat. Mae wedi ein helpu gyda nifer o ymgynghoriadau cyhoeddus pan nad oes gennym unrhyw anawsterau wrth siarad ag aelodau o’r cyhoedd, p’un a ydynt yn siarad Cymraeg neu Saesneg. Mae defnyddio iaith gyntaf pobl yn darparu lleoliad mwy cyfforddus iddynt ddweud eu meddwl.
4. Sut ydych chi’n gweld rôl y Gymraeg yn esblygu yn y gweithle dros y blynyddoedd nesaf?
Dros y tua 35 mlynedd diwethaf rwyf wedi sylwi bod Cymraeg llafar yn fwy amlwg yn y gweithle. Mae’r Gymraeg wedi cael ei defnyddio ar lafar yn y rhan fwyaf o lefydd rydw i wedi gweithio ynddynt, ond yn sicr mae defnyddio Cymraeg ysgrifenedig wedi dod yn fwy cyffredin. Doeddwn i byth yn arfer ysgrifennu unrhyw lythyrau neu e-byst yn Gymraeg, ond erbyn hyn mae canran uchel o’n e-byst yn cael eu hysgrifennu yn Gymraeg i gleientiaid, contractwyr adeiladu, ac awdurdodau lleol. Po fwyaf y caiff ei defnyddio, y mwyaf naturiol a diymdrech y daw hi.
5. Sut ydych chi’n meddwl y bydd menter Cymraeg 2050 yn dylanwadu ar y gyrfaoedd ac ar y cyfleoedd yng Nghymru?
Gyda mwy o bobl yn siarad Cymraeg, mae’r iaith yn dod yn rhan naturiol o fywydau gwaith mwy o bobl. Ni fydd mwy o siaradwyr Cymraeg o reidrwydd yn creu mwy o swyddi, ond bydd yn rhoi mantais i bobl sy’n gallu siarad Cymraeg wneud cais am swyddi yng Nghymru, fel y byddai mewn unrhyw wlad â’i hiaith ei hun.