Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Luisa

Llun o Luisa gydag eiconau; Archebwch gyda baner Cymru, beiro, papur a chlustffonau

Mae Luisa yn dweud wrthym sut mae dysgu Cymraeg wedi bod o gymorth wrth feithrin perthnasoedd yn y gweithle ac yn rhannu ei chyngor i helpu dysgwyr eraill.

Mae Luisa yn Gydlynydd Dysgu a Datblygu gyda Gyrfa Cymru, ac mae hi wedi’i lleoli yn Ne-Ddwyrain Cymru. Ni ddysgodd Luisa unrhyw Gymraeg pan oedd hi yn yr ysgol, ond cafodd ychydig o wersi yn gynnar yn ei gyrfa pan gafodd hi hyfforddiant fel athrawes ysgol gynradd. Dechreuodd wersi Cymraeg eto yn 2020 i wella ei sgiliau.
 

Ein cwestiynau i Luisa

1. Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i ddechrau gwella eich sgiliau Cymraeg?

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn 2020, fe ddechreuais i ddefnyddio Duolingo i ddysgu Cymraeg, fel ffordd gadarnhaol o fwrw amser yn ystod y pandemig. Ers yr amser hwnnw, dwi ddim wedi mynd un diwrnod heb ddysgu ar yr ap, gan dreulio o leiaf ychydig funudau arno bob dydd. Roeddwn i’n gwybod y byddai bod yn rhugl o fantais fawr i mi yn y gweithle. Yn 2023, cynigiodd fy nghyflogwr y cyfle imi gofrestru ar gyfer dosbarthiadau Cymraeg ar-lein, ac mae fy sgiliau i wedi gwella llawer mwy ers hynny.
 

Roeddwn i’n gwybod y byddai bod yn rhugl o fantais fawr i mi yn y gweithle."

2. Sut mae dysgu Cymraeg wedi effeithio ar eich gwaith dyddiol chi gyda Gyrfa Cymru?

Mae cydweithwyr sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf wedi dweud cymaint y maen nhw’n gwerthfawrogi bod dysgwyr yn gwneud ymdrech i gyfathrebu â nhw yn Gymraeg. Dwi wedi dechrau defnyddio cyfarchion Cymraeg, sgwrsio am y tywydd, ac ysgrifennu negeseuon e-bost syml yn Gymraeg. Dwi hefyd yn ceisio cofio defnyddio ymadroddion a chyfarchion syml Cymraeg wrth gyflwyno sesiynau hyfforddi. 

3. Beth ydych chi’n teimlo yw’r manteision mwyaf o fod yn ddwyieithog yn y gweithle?

Fel dysgwr lefel mynediad, dwi ymhell o fod yn gwbl ddwyieithog. Serch hynny, mae’n teimlo’n wych gallu gwneud i bobl deimlo bod croeso iddyn nhw a’u bod nhw’n cael eu cynnwys, drwy siarad â nhw yn eu hiaith gyntaf. Dwi hefyd wedi dod i gysylltiad â dysgwyr Cymraeg eraill ar draws y sefydliad, na fyddwn i efallai wedi cael y cyfle i ddod i’w hadnabod fel arall.
 

Mae defnyddio’r Gymraeg yn ffordd wych o feithrin cysylltiadau."

4. Sut mae eich hyder chi wrth ddefnyddio’r Gymraeg wedi datblygu ers i chi ddechrau gwella eich sgiliau?

Ers cael gwersi, dwi bellach yn llawer mwy parod i roi cynnig ar sgyrsiau sylfaenol yn Gymraeg a dwi’n dysgu geirfa newydd drwy’r amser. Mae’n hyfryd gallu anfon negeseuon, neu ysgrifennu cardiau pen-blwydd a Nadolig i pobl, yn Gymraeg, gan wybod bod hyn yn golygu llawer iddyn nhw. Dwi’n ffeindio ‘mod i’n gallu deall mwy o’r Gymraeg dwi’n ei chlywed hefyd. Dwi dal yn ffeindio’r profiad braidd yn frawychus, ond dwi hyd yn oed wedi mentro archebu cinio mewn caffi trwy gyfrwng y Gymraeg, ac roedd fy chwaer yng nghyfraith, sy’n Gymraes Gymraeg, wrth ei bodd yn gweld fy mod i’n fodlon rhoi cynnig arni.

5. Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i oedolion eraill sydd â rhywfaint o sgiliau Cymraeg yn barod?

Mae gwersi Cymraeg yn hwyl ac yn ffordd wych i ymarfer yr ymennydd hefyd - byddwn i’n eu hargymell i unrhyw un sydd eisiau gwella eu sgiliau yn yr iaith. Mae’n hawdd neilltuo amser ar gyfer gwersi ar-lein rhwng ymrwymiadau eraill, ond mae llawer o gyfleoedd wyneb yn wyneb hefyd os yw hynny’n gweddu i’ch ffordd chi o ddysgu.
 

Mae’n werth sôn am eich sgiliau Cymraeg ar eich CV, oherwydd mae’r gallu i ddefnyddio hyd yn oed cyfarchion ac ymadroddion syml yn eich gwneud chi’n fwy o gaffaeliad i unrhyw sefydliad."


Gwybod mwy am ddysgu Cymraeg

Dysgu Cymraeg

Darganfyddwch fanteision dysgu Cymraeg a ble i ddysgu Cymraeg yn eich ardal.