Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Lauren

Person yn gwisgo crys-t Gyrfa Cymru gyda baner y tu ôl i hyrwyddo gwasanaethau Gyrfa Cymru

Mae Lauren yn gynghorydd gyrfa yn Rhondda Cynon Taf. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2023. Mae Lauren yn rhannu ei phrofiadau o ddysgu Cymraeg a'i hawgrymiadau â dysgwyr eraill.

Ein cwestiynau i Lauren

1. Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau dysgu neu wella eich sgiliau Cymraeg?

Wedi tyfu i fyny a mynd i'r ysgol yng Nghymru, dwi wastad wedi cael cyfleoedd i ddysgu Cymraeg, ond do’n i erioed wedi ystyried fy hun yn siaradwr Cymraeg mewn gwirionedd. Do’n i byth yn teimlo'n falch nac yn hyderus am yr hyn y ro’n i’n ei wybod yn Gymraeg. Penderfynais ei bod yn amser newid hynny a magu hyder yn fy sgiliau Cymraeg. Ro’n i eisiau gallu defnyddio’r Gymraeg gartref a gallu darllen a deall mwy pan dwi allan.

2. Sut ydych chi wedi gallu defnyddio eich sgiliau Cymraeg yn eich rôl yn Gyrfa Cymru?

Dwi ’di gallu defnyddio Cymraeg llafar yn yr ysgol wrth siarad â disgyblion am eu gwersi Cymraeg. Dwi hefyd yn teimlo’n fwy hyderus wrth hybu’r Gymraeg i ddisgyblion mewn cyfweliadau cyfarwyddyd.

3. Beth ydych chi'n teimlo yw'r manteision mwyaf o fod yn ddwyieithog fel cynghorydd gyrfa?

Dwi'n deall pwysigrwydd y Gymraeg. Dwi’n gallu hyrwyddo ac annog disgyblion i weld manteision defnyddio eu sgiliau Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth ac yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

4. Sut mae eich hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg wedi datblygu ers i chi ddechrau gwella eich sgiliau iaith?

Mae fy hyder wedi cynyddu oherwydd y gefnogaeth ces i gan fy athro Cymraeg a’m cyd-ddisgyblion. Dwi nawr yn gallu deall arwyddion yn Gymraeg yn fy ardal leol. Dwi wedi gallu darllen llyfrau Cymraeg ar gyfer dysgwyr ac ymarfer Cymraeg gartref gyda ’nheulu.

Dwi’n teimlo’n fwy hyderus yn defnyddio’r Gymraeg oherwydd dwi’n gallu gweld fy mod i’n datblygu a gwella"

5. Allwch chi rannu enghraifft lle bu eich sgiliau Cymraeg o fudd sylweddol i chi yn y gwaith?

Mae rhai disgyblion dwi'n eu cefnogi yn siaradwyr Cymraeg rhugl ac wedi bod i ysgolion Cymraeg. Mae llawer o’r disgyblion hyn yn ei chael hi’n haws trafod eu pynciau a’u syniadau gan ddefnyddio’r Gymraeg gan eu bod wedi dysgu geiriau pwnc penodol yn Gymraeg. 

Mae gallu deall rhywfaint o Gymraeg wedi fy ngalluogi i gael gwell empathi gyda’r disgyblion hyn a’u deall yn well, sy’n helpu i ddatblygu perthynas â nhw yn ystod y cyfweliad."

6. Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i oedolion eraill sydd â rhywfaint o sgiliau Cymraeg yn barod ond sy’n betrusgar i’w defnyddio?

Ewch amdani a dywedwch bethau ar lafar. Peidiwch â phoeni am gael pethau’n anghywir (er y gallai hyn fod yn anodd ar adegau). Dylech chi fod yn falch, a chofleidiwch yr hyn rydych chi'n ei wybod"

Mae'n debyg eich bod chi'n gwybod mwy na rydych chi'n ei feddwl! Ewch i nôl darn gwag o bapur a heriwch eich hun i ysgrifennu cymaint o eiriau Cymraeg â phosib a pheidiwch â phoeni am sillafu. Dwi’n siŵr y bydd gennych chi fwy o eiriau na roeddech chi'n meddwl y byddai gennych chi.

7. Pa adnoddau sydd fwyaf defnyddiol i chi wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg?

Mae darllen llyfrau Cymraeg ar gyfer dysgwyr wedi fy helpu yn ogystal â defnyddio apiau Duolingo a Say Something in Welsh. Hefyd, mynychu sesiynau dosbarth Cymraeg a gwylio rhaglenni ar S4C. Dwi hefyd yn trio chwilio am arwyddion stryd Cymraeg pan dwi yn fy ardal leol ac yn trio eu cyfieithu nhw.


Gwybod mwy am ddysgu Cymraeg


 
Dysgu Cymraeg

Darganfyddwch fanteision dysgu Cymraeg a ble i ddysgu Cymraeg yn eich ardal.