Enghraifft o CV - Ceri
Mae'r CV hwn yn tynnu sylw at brofiad addysgu pan fyddwch chi'n gwneud cais am swydd fel athro. Mae hefyd yn canolbwyntio ar:
- Brofiad perthnasol nad yw’n addysgol
- Llwyddiannau mewn addysg
- Sgiliau perthnasol
Ceri Simons
Flat 13, Alton Court, Caerdydd, CF98 8XZ
ceri.simons55@yahoomail.com
07555182542
Ceri Simons ar LinkedIn
Proffil Personol
Athro Ffiseg ymroddedig a phroffesiynol gydag angerdd am STEM a sgiliau cyfathrebu rhagorol, sydd bellach yn chwilio am rôl addysgu uwch. Person hynod frwdfrydig sy'n arddangos sgiliau cynllunio, trefnu ac arwain rhagorol. Yn meddu ar wybodaeth bynciol fanwl a gafwyd trwy brofiad bywyd yn y sector lled-ddargludyddion. Person hawddgar ac ysbrydoledig gyda ffordd hwyliog, greadigol i annog ac ysgogi unigolion i ddatblygu a herio eu potensial.
Profiad Gwaith
Athro Ffiseg, gan symud ymlaen i Bennaeth Cynorthwyol Dros Dro yn yr Adran Wyddoniaeth, Academi Bigfield, Bigtown, 2017 – presennol
Mae addysgu ffiseg i blant ysgol sy'n paratoi ar gyfer TGAU a Safon Uwch tra'n rheoli tîm bach o athrawon a chynorthwywyr addysgu wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau rheoli ac arwain cryf. Mae fy mhrofiad o oruchwylio mewn diwydiant ac yn fwy diweddar wrth ysgogi ac ysbrydoli staff a myfyrwyr yn llwyddiannus i gyflawni canlyniadau gwell wedi ehangu fy ngwybodaeth am wahanol dechnegau addysgu a strategaethau ar gyfer mentora a gwella. Rwy'n gyfrifol am greu a chyflwyno gwersi difyr a rhyngweithiol sy'n bodloni gofynion y cwricwlwm. Mae hyn yn cynnwys cynllunio gwersi, cadw cofnodion, asesu a dadansoddi gwaith. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys goruchwylio athrawon a chynorthwywyr addysgu eraill a datblygu rhaglen fentora adrannol ar gyfer athrawon dan hyfforddiant ac athrawon newydd gymhwyso. Gan ddefnyddio fy sgiliau cyfathrebu, rwy’n darparu cymorth bugeiliol i staff a myfyrwyr trwy gydol eu hamser yn yr ysgol.
Athro Ffiseg, Ysgol Gyfun Brickhouse, Northtown, 2014 – 2017
Fe wnes i greu a chyflwyno rhaglen addysg ffiseg i ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 3 a 4. Roedd hyn yn cynnwys cynllunio gwersi yn unol â'r maes llafur a'r Cwricwlwm Cenedlaethol, cadw cofnodion cywir ac asesu gwaith myfyrwyr. Elfen arall o'r rôl oedd darparu cymorth bugeiliol i fyfyrwyr yn fy ngrŵp tiwtor yn barhaus. Fe wnes i arwain ar brosiect a ddaeth â chyflogwyr STEM i mewn i ysgolion.
Arweinydd Sgwadron Gwirfoddol, Cadetiaid Awyr Iau, Tremawr, 2012 - presennol
Cyfrifoldeb ddwywaith yr wythnos gyda sgwadron Cadetiaid Awyr Iau lleol. Mae hyn yn cynnwys cynllunio ac arwain gweithgareddau grŵp a rheoli cyllidebau a chyfrifon, gan gynnwys sgiliau trefnu a thrin data cryf.
Peiriannydd Electrodechnegol, gan symud ymlaen i fod yn Beiriannydd Goruchwylio, Bigtown Aeronautics Ltd, 2008 – 2013
Fe wnes i ddylunio systemau trydanol a phrofais gydrannau electronig i'w defnyddio mewn awyrennau mawr. Roedd y rôl yn gofyn am sgiliau cynllunio a threfnu rhagorol yn ogystal â gwybodaeth dda a oedd yn datblygu'n barhaus o gysyniadau electrodechnegol. Fel goruchwyliwr, datblygais sgiliau cyfathrebu cryf a datblygais dechnegau ar gyfer hyfforddi, mentora a chefnogi cydweithwyr.
Addysg/Cymwysterau
Prifysgol Bighampton, 2013 - 2014
- TAR Ffiseg Uwchradd gyda SAC
- Roedd cynnwys y cwrs yn cynnwys deall safle ffiseg yn y cwricwlwm ysgol, dulliau ymchwil mewn addysg ac astudiaethau proffesiynol ac addysgeg
- Cyflawnwyd yn 2014
Prifysgol Bangor, 2005 – 2008
- BEng Peirianneg Electronig. Dosbarth: 2:1
- Roedd y modiwlau'n cynnwys dylunio cylchedau, electroneg organig a phlastig a lled-ddargludyddion
- Traethawd hir y flwyddyn olaf yn archwilio sut mae lled-ddargludyddion wedi newid ers troad y ganrif
- Cyflawnwyd 2008
Ysgol Gyfun Waterside, Bigtown, 1998 – 2005
- Safon Uwch: Ffiseg A, Mathemateg A, Cemeg B, wedi cyflawni yn 2005
- Naw TGAU graddau A-C, gan gynnwys Mathemateg B, Saesneg B a Gwyddoniaeth A, wedi cyflawni yn 2003
Cyflawniadau a Diddordebau
Gweithgareddau Awyr Agored
- Rwy’n mwynhau ogofa, dringo creigiau, ac abseilio, sydd wedi fy helpu i ddatblygu gwytnwch a’r gallu i beidio â chynhyrfu dan bwysau
- Arwain teithiau cerdded a gwersylla pobl ifanc fel rhan o ddyletswyddau Cadetiaid Awyr Iau, gan helpu i ddatblygu sgiliau arwain a mentora ymhellach
Y Gofod a'r Bydysawd
- Mae gennyf ddiddordeb mawr ym maes y gofod ac astroffiseg ac rwyf wedi darllen llawer o lyfrau ar y pwnc
- Rwy'n rhedeg clwb astro misol yn yr ysgol, sy'n caniatáu i mi ymarfer sgiliau addysgu yn anffurfiol a thu allan i'r maes llafur penodedig
Geirdaon
- Jayne Thomson, – Academi Bigfield, Bigtown, 01222 322661, j.thomson@bigfield.scl.uk
- Dr Elaina Williamson – Prifysgol Bighampton, 03334 657662, e.j.williamson@bighampton.ac.uk
Dogfennau
Gweld mwy

Mae'r CV hwn yn tynnu sylw at hanes a sgiliau cyflogaeth, gan ddechrau gyda'r swydd fwyaf diweddar.

Mae'r CV hwn yn ddefnyddiol wrth bwysleisio sgiliau a chyflawniadau sy'n berthnasol i'r swydd.

Mae'r CV hwn yn tynnu sylw at sgiliau, cryfderau a rhinweddau personol.

Rydych chi’n defnyddio'r fformat CV hwn wrth wneud cais am swyddi academaidd ym maes addysg uwch neu debyg.

Rydych yn defnyddio'r CV hwn wrth wneud cais am swyddi yn y sector cyfreithiol.

Mae'r CV hwn yn pwysleisio sgiliau technegol sy'n berthnasol i'r swydd.

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.