Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Samplu hygyrchedd 2019

Ym mis Mehefin 2019 comisiynodd Gyrfa Cymru Shaw Trust Accessibility Services i gynnal archwiliad hygyrchedd ar gyrfacymru.llyw.cymru. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu ein dull o samplu ar gyfer yr archwiliad hygyrchedd.

Seiliwyd y samplu o amgylch teithiau defnyddwyr yn seiliedig ar wahanol bersonâu yn cynrychioli croestoriad enghreifftiol o ddefnyddwyr:

  • Myfyriwr Safon Uwch
  • Unigolyn sydd wedi colli ei swydd yn ddiweddar
  • Defnyddiwr sy'n chwilio am brentisiaeth
  • Person cyflogedig sydd eisiau newid gyrfa

Trafodwyd elfennau cyffredin o'r holl dudalennau gan gynnwys:

  • Pennyn a Throedyn
  • Briwsion bara
  • Eiconau cymdeithasol a bloc rhannu cymdeithasol
  • Dewisydd iaith

Cynlluniwyd taith y defnyddiwr i efelychu taith debygol y defnyddiwr, ac i gwmpasu gwahanol gydrannau ac ymarferoldeb y wefan. Digwyddodd y samplu hwn ar yr hyn a oedd ym mis Mehefin 2019 yn safle beta, cyn iddo ddod yn safle byw llawn.

Roedd datblygiadau newydd hefyd o fewn terfynau’r profi. Ym mis Mehefin 2019, profwyd y datblygiad newydd cyntaf ar gyfer y wefan newydd, yr offeryn Canfod Cymorth, hefyd.

Rhestr o dudalennau gwe a ddewiswyd i'w samplu


Cynnwys cysylltiedig

Gweld cynnwys cysylltiedig arall fel a ganlyn: