Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Opsiynau ar ôl colli swydd

Ar fin colli eich swydd ac yn ansicr beth i'w wneud nesaf? Gallwn eich helpu.

Os ydych chi'n wynebu colli eich swydd gallwn ni helpu gyda'r cyngor diweddaraf am y gefnogaeth sydd ar gael. Cysylltu â ni.

Gall colli eich swydd fod yn anodd iawn, ond gall hefyd gynnig cyfleoedd newydd, fel y cyfle i ailhyfforddi neu weithio i chi eich hun.

Gallwch golli eich swydd os bydd rhaid i'ch cyflogwr leihau maint y gweithlu. Efallai:

  • Na fydd eich swydd yn bodoli bellach
  • Bydd eich adran yn cau
  • Bod mwy ohonoch yn gwneud yr un swydd nag sydd angen ar eich cyflogwr
  • Bod yn rhaid i’r cwmni cau oherwydd ei fod yn cael ei ddiddymu neu am resymau eraill

Cefnogaeth pan fyddwch yn wynebu colli swydd

Cefnogaeth drwy Raglen ReAct+

Rhaglen grant newydd yw ReAct+ sy'n adeiladu ar lwyddiant rhaglenni'r gorffennol. Mae'n rhan o Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru.

Os ydych chi wedi colli eich swydd, neu wedi dod yn ddi-waith yn ystod y 12 mis diwethaf neu os ydych chi o dan rybudd diswyddo cyfredol, neu os ydych rhwng 18 a 24 oed a ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, gallai ReAct+ ariannu hyd at £1,500 tuag at hyfforddiant i’ch helpu i ddychwelyd i’r gwaith. Efallai y cewch help hefyd gyda chostau teithio a gofal plant pan fyddwch yn gwneud cwrs.

Os ydych chi wedi cael cynnig swydd ar ôl cael eich diswyddo neu'n ddi-waith yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai'ch cyflogwr newydd gael cyllid ar gyfer eich cyflogi. Gallai elfen Recriwtio a Hyfforddi ReAct+ roi i'ch cyflogwr:

  • Hyd at £3,000 am eich cyflogi chi
  • Hyd at £1,000 tuag at gost hyfforddiant sy'n gysylltiedig â’r swydd
  • Cymorth ychwanegol - hyd at £1,000 os ydych yn cyflogi person anabl neu berson di-waith o dan 25 oed neu £2,000 ychwanegol os ydych yn cyflogi rhywun sydd o dan 25 oed ac yn ddi-waith ac yn anabl

Mae faint y byddant yn ei gael yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Gwybod mwy am Raglen ReAct+ ar wefan Cymru’n Gweithio.

I wneud cais am gyllid ReAct ar gyfer hyfforddiant, cysylltwch â ni â ni i drefnu apwyntiad.

Dylai cyflogwyr a hoffai wneud cais am gymorth recriwtio a hyfforddi gysylltu â Busnes Cymru ar 03000 6 03000.

Cael cymorth gyda'ch cynlluniau gyrfa

Efallai bod gennych gynllun pendant ar gyfer yr hyn rydych chi’n bwriadu ei wneud nawr, neu efallai ddim. Efallai nad ydych yn teimlo'n hyderus ynglŷn â’ch cynllun neu eich bod yn ansicr o'r opsiynau sydd ar gael.

Eich cynllun chi yw hwn, felly mae'n rhaid cael syniad clir o'r hyn sydd gennych mewn golwg. Beth am: 

  • Feddwl am sut y bydd yn gweithio
  • Rhoi popeth rydych chi’n ei wybod ar bapur
  • Darllen a siarad â phobl er mwyn ymchwilio i'ch cynllun yn drylwyr

Mae hyn yn rhoi'r cyfle gorau i'ch cynllun chi weithio

Mae llawer o swyddi yn cael eu llenwi drwy dafod leferydd a chyn bod angen eu hysbysebu. Felly dechreuwch rwydweithio gyda chyflogwyr - darllenwch ein cyngor rhwydweithio i gael rhagor o wybodaeth.

Efallai eich bod wedi penderfynu ar yrfa newydd yn barod. Ond beth os yw'n fwy cymhleth cael eich troed yn y drws nag yr oedd wedi’i dybio’n wreiddiol?

Mae angen cynllun wrth gefn arnoch chi rhag ofn na fydd eich prif gynllun yn dwyn ffrwyth.

Dyma rai cwestiynau i feddwl amdanyn nhw wrth ystyried cynlluniau newid gyrfa:

  • Beth yw eich blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol? Swydd fyddai'n rhoi boddhad? Tâl/cyflog? Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith? Neu rywbeth arall?
  • Beth hoffech chi ei wneud nesaf?
  • Ydych chi'n gwybod beth yw eich opsiynau gyrfa?
  • A oes unrhyw beth yn eich atal rhag gwneud beth yr hoffech chi ei wneud?
  • A oes rhywbeth y gallwch chi ei wneud ynglŷn â hynny?
  • Ydych chi’n gwybod yr holl ffeithiau – ydych chi'n gwybod pa hyfforddiant, profiad a sgiliau sydd eu hangen i gael y swydd honno?
  • A oes swyddi yn y maes o’ch dewis? Porwch wefannau am swyddi yn eich ardal chi .
  • A fyddech chi'n barod i deithio pe bai rhaid?
  • Beth yw eich cynllun wrth gefn os na fydd eich prif gynllun yn dwyn ffrwyth?

Dewch i drafod eich cynlluniau gydag un o'n cynghorwyr gyrfa profiadol. Gallant eich helpu i deimlo'n fwy hyderus am y camau nesaf i'w cymryd a'ch helpu i lunio cynllun wrth gefn, rhag ofn.


Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Taflen ReAct+ - Cymorth Cyflogaeth Mor Unigryw â Dy Steil Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

Pethau i'w hystyried wrth wynebu colli swydd

Nodwch eich sgiliau trosglwyddadwy

Mae'r maes swyddi yn newid yn barhaus ac efallai y bydd yn anodd dod o hyd i swydd yr oeddech yn arfer ei gwneud. Oeddech chi'n gwybod bod modd defnyddio llawer o'ch sgiliau mewn swyddi gwahanol?

Gelwir y sgiliau hyn yn sgiliau trosglwyddadwy oherwydd eich bod yn gallu eu trosglwyddo o swydd i swydd. Mae eu hadnabod yn gallu eich helpu i ddewis y swydd iawn i chi, a gwneud eich ffurflen gais yn fwy deniadol.

Gallwch gael help i lenwi ffurflenni cais am swydd ac ysgrifennu datganiadau personol.

Beth am wneud rhestr o'ch sgiliau trosglwyddadwy? Os ydych yn cael anhawster gyda hyn, neu os hoffech eu trafod, gwnewch apwyntiad i weld Cynghorydd Gyrfa.

Gwella eich sgiliau chwilio am waith

Ydych chi'n anfon eich CV 10 mlwydd oed at bawb a phopeth? Cofiwch fod disgwyliadau cyflogwyr o'r hyn y dylid ei gynnwys ar CV wedi newid. Darllenwch ein hadran Creu CV am wybodaeth ac enghreifftiau.

Gallwn eich helpu i baratoi i chwilio am waith. Porwch drwy’r adran Cael swydd am gymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais am swydd, cyfweliadau a mwy, neu cysylltwch â ni am gyngor.

Deall eich hawliau

Cyn i chi golli eich swydd, dylai eich cyflogwr drafod gyda chi beth sy'n mynd i ddigwydd a pham. Bydd hyn yn digwydd o leiaf 30 diwrnod cyn i chi gychwyn eich cyfnod rhybudd, ac weithiau’n gynt.

Fel arfer mae gennych hawl i ofyn am amser o'r gwaith ar gyfer ailhyfforddi neu i chwilio am swydd arall. Dylai eich cyflogwr eich talu am gyfran o'r amser hwn.

Os bydd eich cyflogwr wedi cau, efallai na fyddwch yn cael eich talu am yr amser yr oeddech yn chwilio am waith.

Efallai y cewch dâl colli swydd. Ond cofiwch:

  • Os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am fwy na 2 flynedd, fel arfer dylai dalu rhywfaint o dâl colli swydd i chi
  • Mae'n arferol rhoi swm statudol i chi ac efallai y bydd rhai cyflogwyr yn rhoi mwy
  • Mae'r swm y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar hyd eich gwasanaeth i'r cyflogwr a'ch oedran
  • Defnyddiwch y Cyfrifiannell Tâl Colli Swydd ar dudalen gov.uk Calculate your statutory redundancy pay i gyfrifo eich tâl colli swydd statudol

Ffynhonnell: gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar ôl colli swydd ar dudalen gov.uk Redundancy: your rights.

Os yw eich cyflogwr wedi cau, darllenwch sut i wneud cais am dâl colli swydd ac unrhyw arian a allai fod yn ddyledus i chi yn y canllaw hwn gan gov.uk.

Mae HelpwrArian, gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, yn gallu eich helpu i gynllunio cynllun colli swydd, hefo gwahanol budd-daliadau y gallwch eu hawlio a'r hawliau cyfreithiol. Cewch wybod mwy ar HelpwrArian - Dileu swydd.

Os ydych yn poeni bod eich cyflogwr wedi eich trin yn annheg neu nad yw’n gwneud pethau'n iawn, gall sefydliadau fel Canolfan Cyngor ar Bopeth ac Acas eich helpu.

(Mae rhai o’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)

Deall eich emosiynau gwahanol

Os ydych wedi colli eich swydd, mae'n bosibl y byddwch yn profi amrywiaeth o emosiynau, fel gofid, dicter a straen. Ar y llaw arall efallai y byddwch yn teimlo rhyddhad os oeddech wedi ystyried newid gyrfa.

Sut bynnag yr ydych yn teimlo, mae colli eich swydd yn gallu bod yn sioc. Gall fod yn anodd canolbwyntio a gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol, hyd yn oed os bydd rhaid i chi.

Dyma rai awgrymiadau i'ch cynorthwyo i ddeall eich teimladau ac i symud ymlaen:

  • Cofiwch mai'r swydd sy'n dod i ben, nid eich gyrfa chi
  • Ceisiwch beidio â phoeni – gallwch ddod o hyd i gyfle arall
  • Mynnwch air â rhywun yr ydych yn ymddiried ynddyn nhw am sut yr ydych yn teimlo, yn enwedig os yw’n eich atal rhag symud ymlaen
  • Os nad yw’r straen a’r gofid ar ôl colli swydd yn lleihau, ewch i weld eich Meddyg Teulu.
  • Mae'n sicr yn werth siarad â Chynghorydd Gyrfa, Gyrfa Cymru am eich cynlluniau gyrfa. Gallwn eich helpu p’un a yw’r cynlluniau’n rhai pendant, amwys neu ddim yn bodoli o gwbl
Rhoi trefn ar eich materion ariannol

Rhowch drefn ar eich sefyllfa ariannol cyn gynted ag y byddwch yn clywed eich bod yn mynd i golli eich swydd.

Oni bai eich bod yn dod o hyd i waith yn sydyn, y cyflog misol coll cyntaf fydd eich prif ffocws. Oherwydd hyn, mae'n anoddach gwneud penderfyniadau gyrfa doeth oherwydd bod materion ariannol yn cymryd drosodd, yn hytrach na dod o hyd i'r yrfa iawn.

Lluniwch gyllideb a gweld os oes modd cael gwared ar gostau ychwanegol tra byddwch yn chwilio am waith.

Gwiriwch pa fudd-daliadau y mae gennych hawl i'w cael drwy gysylltu â'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth a thrwy ymweld â gov.uk.  Yn aml, mae'n rhaid aros cyn derbyn unrhyw daliadau, felly dechreuwch y broses cyn gynted â phosibl.

Mae’r Helpwr Arian wedi datblygu Teclyn Llywio Ariannol defnyddiol. Gall y teclyn yma gefnogi pobl sydd wedi cael eu heffeithio’n ariannol gan COVID.
Os ydych chi'n meddwl am sut i reoli'ch pensiwn, mae gan yr Helpwr Arian hefyd ganllawiau a gwybodaeth ddefnyddiol. Ewch i wefan yr Helpwr Arian – Pensiynau ac Ymddeoliad am ragor o wybodaeth.

Os ydych yn poeni am arian neu os oes gennych broblemau ariannol, gallwch gysylltu â sefydliadau fel y Ganolfan Cyngor ar Bopeth hefyd.

(Mae rhai o’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)

Hawlio budd-daliadau

Efallai y bydd gennych hawl i gael budd-daliadau pan fyddwch yn ddi-waith. Defnyddiwch y gyfrifiannell budd-daliadau ar-lein ar tudalen Benefits calculators sydd ar Gov.uk i weld beth y gallwch ei hawlio.

I hawlio budd-daliadau, dechreuwch drwy ymweld ag Adran Budd-daliadau ar tudalen Browse: Benefits sydd ar Gov.uk. Os nad oes modd i chi wneud cais am fudd-daliadau ar-lein, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith ar 0800 0556688.

Mae sefydliadau fel y Ganolfan Cyngor ar Bopeth yn gallu eich helpu i ddarganfod pa fudd-daliadau y dylech chi eu cael.

(Mae rhai o’r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)

Cyllid ar gyfer dysgu os ydych yn ddi-waith

Os ydych yn ddi-waith ac yn hawlio budd-daliadau:

  • Gallwch astudio’n rhan-amser heb iddo effeithio ar eich budd-daliadau. Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith cyn i chi ddechrau ar gwrs.
  • Mae rhai cyrsiau, yn cynnwys cyrsiau i'ch helpu i wella sgiliau darllen, ysgrifennu a rhifedd, ar gael am ddim
  • Mae amrywiaeth eang o gyrsiau am ddim ar gael os ydych yn cael budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm. Gall help fod ar gael gyda chostau gofal plant a chostau eraill hefyd.

Porwch drwy’r adran Chwilio am Gwrs ar ein gwefan. Defnyddiwch ein hofferyn Canfod Cymorth i wirio pa gynlluniau yr ydych yn gymwys i'w cael.


Opsiynau ar gyfer eich dyfodol

Cael Swydd

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr a mwy.

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi’u teilwra a allai gynnwys cymorth ariannol, hyfforddiant sgiliau a Chymorth Datblygu Personol er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r pethau sy'n eich rhwystro rhag cael swydd.

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra'n gweithio a chael cyflog. Dysgwch fwy am brentisiaethau, chwiliwch am swyddi gwag a mwy.

Gwirfoddoli

Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill. 


Efallai y byddech hefyd yn hoffi


Creu CV

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.

Technegau cyfweld

Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.