Cymorth a syniadau i gwblhau eich datganiad personol.
Gall y Datganiad Personol fod yn un o rannau pwysicaf eich cais. Fel arfer mae’n flwch gwag sy’n gofyn i chi ysgrifennu am eich sgiliau, cryfderau a phrofiadau a sut maent yn addas ar gyfer y swydd.
Isod ceir rhai o’r sgiliau a’r cryfderau mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt, a rhai cwestiynau i chi holi eich hun. Atebwch y rhain er mwyn helpu i greu eich datganiad personol.
Meddyliwch am enghreifftiau yn eich bywyd a fyddai’n dangos bod gennych y sgiliau iawn. Enghreifftiau posibl o:
- Cyflogaeth
- Ysgol
- Coleg
- Addysg
- Profiad gwaith
- Hobïau
- Gwirfoddoli
Beth i'w gynnwys mewn datganiad personol
Profiad
Byddwch yn benodol. Edrychwch ar y swydd-ddisgrifiad a defnyddiwch enghreifftiau perthnasol.
- Beth ydych chi’n ei wneud ar ddiwrnod arferol yn eich gwaith, profiad gwaith neu waith gwirfoddol?
- Pa feddalwedd TG, peiriannau neu offer technegol ydych chi wedi’u defnyddio? Sut wnaethoch chi eu defnyddio yn eich swydd?
- Pa sgiliau newydd ydych chi wedi dysgu i’w gwneud o’ch gwaith, profiad gwaith neu waith gwirfoddol?
Sgiliau cyfathrebu
- Pryd ydych chi wedi siarad â phobl eraill i egluro rhywbeth wrthynt, ac maent wedi deall yn glir?
- Pryd ydych chi wedi parhau i fod yn gwrtais hyd yn oed mewn sefyllfa anodd?
- Pryd ydych chi wedi gwrando’n dda ac wedi mabwysiadu agwedd ofalgar?
Gwaith tîm
- Ydych chi wedi bod yn aelod o dîm chwaraeon, neu mewn grŵp lle rydych wedi gorfod cydweithio?
- Sut oeddech chi’n teimlo am weithio mewn tîm?
- Beth wnaethoch chi yn y tîm?
- Sut wnaethoch chi gyfrannu at y tîm?
Dibynadwyedd
- Beth allwch chi ei ddweud wrthym am yr adegau pan wnaethoch sicrhau eich bod yn brydlon, gan fynychu’n rheolaidd?
- Allwch chi roi enghraifft o adeg pan wnaethoch ddyfalbarhau wrth weithio ar rywbeth nes i chi ei gael yn iawn?
Gwaith caled
- Beth ydych chi’n ymdrechu’n galed i’w gyflawni?
- Pa nod ydych chi wedi’i osod i chi eich hunan ac wedi’i gyflawni?
Y gallu i ddysgu sgiliau newydd
- Pa sgil newydd ydych chi wedi’i ddysgu?
- Beth ydych chi’n ei fwynhau am ddysgu sgiliau newydd?
- Pryd wnaethoch chi ysgogi eich hun i ddysgu rhywbeth newydd?
Y gallu i addasu
- Pryd oeddech chi’n hyblyg wrth helpu rhywun, hyd yn oed os oedd yn anghyfleus?
- Ydych chi wedi addasu i newid yn gyflym?
Sgiliau trefnu
- Pryd wnaethoch chi gynllunio a pharatoi ar gyfer rhywbeth a fu’n llwyddiannus?
- Sut wnaethoch chi drefnu pethau?
Datrys problemau
- Pryd wnaethoch chi ddarganfod problem a’i datrys yn llwyddiannus?
- Sut oeddech chi’n teimlo yn dod o hyd i ddatrysiad i broblem a wynebwyd gennych?
Gweld esiampl o ddatganiad personol
Datganiadau Personol Arbenigol
(Mae'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Awgrymiadau ar sut i lunio cais er mwyn cael cyfweliad.

Mynnwch help i baratoi ac ymarfer cwestiynau cyfweliad, a darganfod beth i'w ddisgwyl mewn cyfweliad.

Gwybod sut i ateb cwestiynau cyfweld gydag enghreifftiau bywyd go iawn (cwestiynau cymhwysedd). Gweld enghreifftiau o gwestiynau ac atebion.

Sicrhewch fod eich CV cystal ag y gall fod. Cewch wybod beth i'w gynnwys yn eich CV, gweld esiamplau o CV, a lawrlwytho ein Canllaw i lunio CV.