Mae Gwybodaeth am y Farchnad Lafur (GML neu LMI) yn ffeithiau am dueddiadau swyddi presennol ac yn y dyfodol.
Gall fod lleol, rhanbarthol neu genedlaethol. Defnyddiwch ein hadnoddau GML i lywio a chefnogi penderfyniadau gyrfa.
Pwysigrwydd GML i chi a'ch myfyrwyr
Mae diweddaru eich hun â beth sy'n mynd ymlaen yn y farchnad lafur yn bwysig i unrhyw un sy'n gwneud penderfyniadau gyrfa. Dylai GML chwarae rhan allweddol mewn addysg gyrfaoedd. Dylech chi a'ch myfyrwyr fod yn ymwybodol o:
- Pa gyfleoedd sydd ar gael ar eu cyfer
- Beth yw'r tueddiadau yn y dyfodol yn debygol o fod mewn gwahanol sectorau
- Pa gymwysterau a sgiliau y bydd eu hangen arnynt
- Sut mae angen iddynt baratoi ar gyfer cystadlu am swyddi mewn rhai sectorau
Dysgu proffesiynol
Mae Gwybodaeth Marchnad Lafur (GML) yn rhan bwysig o addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith. Rydym wedi datblygu adnodd sy’n rhoi cyflwyniad i GML i chi ac sydd ar gael ar Hwb. Mae'n egluro beth yw GML, pam ei fod yn bwysig, sut i'w ddefnyddio a ble i ddod o hyd iddo.
Dod o hyd i GML ar ein gwefan
Offer GML
Fideos Dyfodol Gwaith yng Nghymru
Dewch i wybod mwy am rai o'r swyddi sydd ar gael nawr ac yn y dyfodol yng Nghymru.
Dewch i wybod rhai o'r sgiliau a'r rhinweddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Dewch i wybod sut mae technoleg yn newid ac yn effeithio ar eich byd gwaith.
Darllenwch ein Bwletin LMI diweddaraf Gyrfa Cymru
Mae gan ein Bwletin LMI ddata ac ystadegau ar gyfer y farchnad lafur ledled Cymru.
Llenwch y ffurflen fer yma i dderbyn ein bwletin LMI.
Darllenwch ein Erthyglau LMI
Mae ein hadroddiadau Erthyglau LMI yn rhoi ffocws ar sectorau a diwydiannau penodol yng Nghymru.
Rhai gwefannau GML defnyddiol
Arsyllfeydd Sgiliau Rhanbarthol
Arsyllfa Economaidd Gogledd Cymru
Arsyllfa Sgiliau De Ddwyrain Cymru
Arsyllfa Dysgu & Sgiliau De Orllewin a Chanolbarth Cymru
Cyffredinol
(Mae rhai o'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)
Swyddfa ar gyfer Ystadegau Cenedlaethol
ONS Census
Llywodraeth Cymru - Ystadegau ac ymchwil
Porth Sgiliau - Gwybodaeth am y Farchnad Lafur
Cynghorau Sectorau Sgiliau
Diddordeb mewn cael gwybod mwy am ddefnyddio GML gyda'ch myfyrwyr?
Gall Gyrfa Cymru helpu. Ebostiwch eich Cydlynydd Cwricwlwm Gyrfa a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith (CWRE) lleol i drafod sut i integreiddio GML yn eich cwricwlwm.
Adnoddau GML ychwanegol
Darganfyddwch pa swyddi y mae galw amdanynt ym maes lletygarwch a thwristiaeth a ble i ddod o hyd iddynt.
Darganfyddwch pa swyddi y mae galw amdanynt ym maes trafnidiaeth a logisteg a chyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant.
Archwiliwch rolau swyddi y mae galw amdanynt a chyfleoedd ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Dolen uniongyrchol i'r gronfa ddata sy'n rhestru cyflogwyr sydd â diddordeb mewn gweithio gydag ysgolion.
Edrychwch ar sut y gall cyflogwyr gefnogi eich rhaglen addysg gyrfaoedd a'r manteision y gall eu cynnig.
Ewch i HWB i gael mynediad at ein hadnoddau addysgu ysgolion uwchradd.