Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Cymorth i ysgolion gan gyflogwyr

Mae cysylltu â chyflogwyr yn gwella eich rhaglen addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith.

Partneriaeth Addysg Busnes

Mae ein Partneriaeth Addysg Busnes (PAB) yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion, eu hathrawon, ac yn aml rhieni, i gyfarfod a rhyngweithio â chyflogwyr. Nod y gweithgareddau hyn yw hysbysu, ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc am eu cyfleoedd gyrfa.

Manteision cymorth i gyflogwyr

Gall cysylltu â chyflogwyr:

  • Newid agwedd disgyblion at addysg
  • Cymell pobl ifanc i astudio'n galetach ac o bosibl ennill graddau gwell
  • Dylanwadu ar gynlluniau gyrfa a dewisiadau pwnc disgyblio
  • Dod â meysydd o'r cwricwlwm yn fyw
  • Helpu pobl ifanc i wneud cysylltiadau rhwng eu gwersi a'r byd gwaith
  • Codi ymwybyddiaeth o'r ystod o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael a sut i gael mynediad atynt
  • Cyflwyno pobl ifanc i fodelau rôl ysbrydoledig
  • Herio credoau sy'n cyfyngu ar yrfa o ran rhywedd, hil ac anabledd

Ffyrdd y gallwn eich cefnogi chi i gysylltu â chyflogwyr

Mae cyflogwyr yn awyddus i gefnogi ysgolion sydd ag amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys:

  • Siaradwyr gwadd i helpu cysylltu meysydd pwnc penodol â byd gwaith (yn bersonol neu yn rhithiol)
  • Flogiau a fideos cyflogwyr
  • Ymweliadau â safleoedd cyflogwyr
  • Carwsél Gyrfaoedd a Diwrnodau Rhwydweithio Cyflogwyr
  • Gweithdai penodol (er enghraifft, awgrymiadau a chynghorion ar gyfer cyfweliadau neu ffug gyfweliadau)
  • Ffeiriau gyrfaoedd
  • Modelau rôl Syniadau Mawr Cymru - gweithdai menter
  • Adnoddau Darganfod Gyrfa ar gyfer blwyddyn 10

Cysylltwch â'ch Cynghorydd Cyswllt Busnes lleol, i drafod y rhain a ffyrdd eraill y gall cyflogwyr gefnogi eich disgyblion.

Os hoffech chi ddod o hyd i gyflogwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn eich ysgol, gallwch ddefnyddio ein cronfa ddata Cyfnewidfa Busnes Addysg. Yma cewch weld pa weithgareddau a meysydd pwnc y gall pob cyflogwr eu cefnogi.


Digwyddiadau

Trwy gydol y flwyddyn rydym yn trefnu digwyddiadau er mwyn i ddisgyblion glywed yn uniongyrchol gan gyflogwyr. Mae ein tudalen digwyddiadau yn cynnwys manylion am yr hyn sydd i ddod.


Cynllun Partner Gwerthfawr Ysgol

Mae ein rhaglen Partner Gwerthfawr Ysgol yn ein galluogi i gydnabod cyflogwyr ac ysgolion sy'n cydweithio er lles disgyblion.

Gall ysgolion wneud cais i fod yn bartner gyda chyflogwyr penodol. Byddwn hefyd yn cydnabod cyflogwyr y mae Gyrfa Cymru eisoes wedi’u cyflwyno i’r ysgol ac sy’n cefnogi’r ysgol a’i disgyblion.


Cysylltwch â ni

Anfonwch e-bost at ein tîm Partneriaeth Busnes Addysg os oes gennych unrhyw ymholiadau.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gyrfaoedd yn y cwricwlwm

Dysgwch am addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn y Cwricwlwm i Gymru a chael gafael ar offer a gwybodaeth i gefnogi eich gwaith cynllunio.

Gwybodaeth Marchnad Lafur

Trosolwg o wybodaeth am y farchnad lafur, sut y gall gefnogi eich myfyrwyr a ble i ddod o hyd i GML cyfredol.