Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Syniadau Mawr Cymru

Rhaglen gan Lywodaeth Cymru sy'n annog pobl ifanc i ddatblygu sgiliau menter yw Syniadau Mawr Cymru.

Mae Gyrfa Cymru yn cyflwyno’r rhaglen model rôl i ddysgwyr 11 i 16 oed. Cyflwynir y rhaglen drwy weithdai model rôl. Mae'r gweithdai yn galluogi dysgwyr ac athrawon i gyfarfod a rhyngweithio ag entrepreneuriaid a pherchnogion busnes.

Y gweithdai

Mae modelau rôl Syniadau Mawr Cymru yn ymweld ag ysgolion i gyflwyno eu gweithdai. Mae'r gweithdai yn addas ar gyfer unrhyw grŵp blwyddyn.

Mae'r gweithdai yn dal dychymyg pobl ifanc. Maent yn annog dysgwyr i agor eu meddyliau i syniadau newydd ac entrepreneuriaeth.

Nid oes dim byd gwell na chwrdd â model rôl yn bersonol, ond gallwn hefyd drefnu sesiynau digidol.

Darllenwch fwy am fanteision cysylltu â chyflogwyr ar ein tudalen cymorth i ysgolion gan gyflogwyr.

Y modelau rôl

Mae rhwydwaith mawr o fodelau rôl Syniadau Mawr Cymru ledled Cymru. Maent yn dod o wahanol gefndiroedd, diwylliannau a sectorau busnes. Mae gan bob un ohonynt y nod cyffredin o ysbrydoli pobl ifanc.

Mae modelau rôl Syniadau Mawr Cymru i gyd wedi sefydlu a rhedeg eu busnesau eu hunain.

Yn ystod gweithdy maent yn:

  • Cyfathrebu'n onest am realiti bod yn fos arnyn nhw eu hunain
  • Trosglwyddo eu hangerdd am greadigrwydd a llwyddiant
  • Helpu pobl ifanc i feddwl yn gadarnhaol am eu dyfodol eu hunain

Maen nhw'n bobl ysbrydoledig ac mae ganddyn nhw straeon anhygoel i'w rhannu. Darllenwch fwy am eu straeon ar safle Busnes Cymru.

Trefnu gweithdy i'ch dysgwyr

E-bostiwch ni i ddysgu mwy a bydd un o'n tîm mewn cysylltiad.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gyrfaoedd yn y cwricwlwm

Dysgwch am addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn y Cwricwlwm i Gymru a chael gafael ar offer a gwybodaeth i gefnogi eich gwaith cynllunio.