Bydd rhai cyflogwyr yn gofyn am CV er mwyn i chi allu gwneud cais am swydd.
Dogfen y byddwch chi’n ei hysgrifennu i roi mwy o wybodaeth amdanoch chi i’r cyflogwr yw CV. Bydd cyflogwyr yn defnyddio CV fel ffordd o benderfynu pwy i’w gyfweld ar gyfer y swydd.
Gwyliwch y fideo
Beth ddylwn i ei ysgrifennu mewn CV?
Gwybodaeth amdanoch chi, fel eich:
Eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt fel eich rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost
Gwybodaeth am eich sgiliau a'ch profiadau:
Pa sgiliau sydd gennych a beth rydych chi’n gallu ei wneud yn dda. Edrych ar Sgiliau a beth maen nhw'n ei olygu
Unrhyw brofiad gwaith neu waith gwirfoddol rydych wedi’i wneud
Unrhyw waith rhan amser neu waith dros y gwyliau rydych chi wedi'i wneud
Profiad sydd gennych o helpu eraill
Enghreifftiau o beth y gallech ei ddweud mewn CV
"Byddwn yn dda am wneud y swydd hon oherwydd fy mod yn hyderus wrth siarad â phobl newydd"
"Rwy'n dda iawn am wrando ar bobl eraill a gallaf ddilyn cyfarwyddiadau'n dda"
"Rwy'n gyfeillgar ac rwy'n mwynhau cwrdd â phobl newydd. Byddwn dda yn gweithio gyda'r cwsmeriaid"
CV gwahanol ar gyfer swyddi gwahanol
Efallai y bydd angen i chi newid eich CV ar gyfer pob swydd y byddwch yn gwneud cais amdani sy’n golygu y gallwch gynnwys y wybodaeth fwyaf defnyddiol ar gyfer y swydd honno.
Y dylech newid eich CV bob tro yr ydych yn gwneud cais am swydd?
Os gwnewch gais am wahanol fathau o swyddi gallwch newid eich CV.
Ond, os gwnewch gais am yr un mathau o swyddi gallwch ddefnyddio'r un CV.
Beth yw canolwr?
Ar ddiwedd CV bydd angen i chi ysgrifennu enw a manylion cyswllt canolwr. Dyma berson y gall y cyflogwr siarad gyda a gwybod mwy amdanoch chi. Ni allwch gynnwys eich rhieni na ei ffrindiau fel canolwyr.
Meddyliwch am rywun sy'n eich adnabod chi yn dda ac sy'n gwybod pa sgiliau a rhinweddau sydd gennych chi. Gall hyn fod yn
- Athro neu Diwtor
- Cyflogwr (o swydd arall, profiad gwaith neu leoliad gwirfoddoli)
- Gweithiwr Cymdeithasol
- Arweinydd Clwb Ieuenctid
- Hyfforddwr Chwaraeon
Ysgrifennu llythyr cais gyda eich CV
Mae llythyr cais yn dweud wrth y cyflogwr pam eich bod yn anfon CV atynt ac yn dweud ychydig amdanoch chi'ch hun.
Os ydych chi'n anfon eich CV neu e-bost at gyflogwr, gellir ysgrifennu'r llythyr hwn yn yr e-bost. Yn yr e-bost neu'r llythyr mae angen i chi gynnwys:
- Eich enw
- Y swydd rydych yn ceisio amdani
- Rhai o'ch sgiliau
Pethau i chi feddwl amdanynt cyn i chi anfon eich CV
Cofiwch gadw eich CV ar gyfrifiadur. Byddwch wedyn yn gallu ei newid pan fyddwch eisiau gwneud cais am wahanol swyddi
Chwiliwch am gamgymeriadau sillafu. Gofynnwch i Athro/Diwtor neu aelod o’r teulu edrych arno
Gwnewch yn siŵr bod y CV yn lân. Peidiwch a cholli diod arno na’i rwygo
Gwyliwch y fideo
Dogfennau
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Dewch i wybod sut i wneud cais am swyddi a'r wybodaeth sydd angen i'w gynnwys mewn ffurflen gais.
Dewch i wybod am y bobl a'r sefydliadau a all eich helpu i gynllunio eich dyfodol.