Er mwyn gwneud cais am swydd, efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a’i hanfon at y cyflogwr. Gallwch wneud hyn ar bapur neu lenwi cais ar-lein ar y wefan.
Sut ydw i'n cael ffurflen gais?
Ar ôl i chi ddod o hyd i’r swydd yr ydych eisiau gwneud cais amdani, dylech ofyn i’r cyflogwr am ffurflen gais. Bydd yn anfon un atoch chi drwy’r post neu gallwch lawrlwytho un o’r wefan. Efallai y bydd gofyn i chi wneud ffurflen gais ar-lein hefyd.
Beth ydw i'n ysgrifennu ar ffurflen gais?
Bydd gofyn i chi nodi:
Eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt fel eich rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost
Pa ysgol/coleg yr aethoch chi iddo
Y cymwysterau a'r tystysgrifau sydd gennych chi
Bydd gofyn i chi hefyd sôn am unrhyw brofiad o waith sydd gennych fel:
Profiad gwaith rydych chi wedi'i wneud yn yr ysgol neu'r coleg
Unrhyw waith rhan amser neu waith dros y gwyliau rydych chi wedi'i wneud
Unrhyw waith gwirfoddoli rydych chi wedi'i wneud
Profiad sydd gennych o helpu eraill
Efallai y bydd cyflogwr eisiau gwybod pam eich bod yn gwneud cais am y swydd. Dylech gynnwys gwybodaeth sy’n dweud pam mai chi yw’r person cywir ar gyfer y swydd. Rhowch wybodaeth am:
Eich sgiliau - yr hyn rydych chi'n dda am ei wneud, er enghraifft, cyfathrebu, gweithio gyda phobl eraill. Edrych ar Sgiliau a beth maen nhw'n ei olygu
Eich rhinweddau - sut berson ydych chi, er enghraifft yn garedig, yn weithgar ac yn barod i helpu
Beth yw canolwr?
Bydd ffurflen gais yn gofyn i chi ysgrifennu enw a manylion cyswllt canolwr, sef person y gall y cyflogwr siarad ag ef i gael mwy o wybodaeth amdanoch chi.
Ni allwch roi enwau eich rhieni na ffrindiau fel canolwyr.
Meddyliwch am rywun sy’n eich adnabod yn dda ac sy’n gwybod pa sgiliau a rhinweddau sydd gennych, er enghraifft:
- Athro neu Diwtor
- Cyflogwr (o swydd arall, profiad gwaith neu leoliad gwirfoddoli)
- Swyddog Gwaith Cymdeithasol
- Arweinydd Clwb Ieuenctid
- Hyfforddydd Chwaraeon
Y dylech wneud cais am un swydd ar y tro?
Na, gallwch wneud cais am lawer o swyddi ar yr un pryd.
Mae hyn yn rhoi'r cyfle gorau i chi o gael gyfweliad.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Dewch i wybod am y bobl a'r sefydliadau a all eich helpu i gynllunio eich dyfodol.